Gadael gwefan Capel y Morfa a mynd i wefan Eglwys Bresbyteraidd Cymru.
Tudalen Cartref Capel y Morfa a Manylion Cysylltu, Rhestr Swyddogion, a Mapiau.
Dyddiadur y Capel ac Amserau Gwasanaethau
Gweithgareddau yn y Capel, yr Ysgol Sul, etc.
Perthyn - Misolyn y Capel ac ôl-rifynnau.
Perthyn - y rhifyn cyfredol.
Perthyn - ôl-rifynnau
Morlan
Y Byd a'r Betws - cyfle i drafod gwahanol bynciau.
Yr Eglwys ar Wasgar.
Adolygiadau o Lyfrau.
Lle i feddwl.
Oriel - Lluniau o ddigwyddiadau yn y Capel.
Dolenni i safleoedd perthnasol eraill.

  

   

 
PERTHYN - Y Rhifyn Cyfredol.
Mehefin  2004
Rhifyn 126

 

CYNNWYS

GAIR GAN Y BUGAIL
NEWYDDION
ER COF
MORLAN
CROESAWU DAWNSWYR O GALCUTTA
DARLITH I GOFIO
CYNHADLEDD
CAM-DRIN CARCHARORION YN IRAC
GWEDDI
DYDDIADAU I'W COFIO
DYDDIADUR MEHEFIN  2004
SWYDDOGAETHAU MEHEFIN  2004

GAIR GAN Y BUGAIL

Yr wyf yn ysgrifennu'r geiriau yma ar drothwy'r Pentecost: Gw^yl yr Ysbryd Glân sydd yn arwain, yn cynnal ac sydd ar waith yn adnewyddu yr eglwys. Fel arfer yr ydym yn gweddïo am i'r Ysbryd ddod i adnewyddu ei eglwys (ac y mae llawer yn credu nad ydym yn gweddïo digon am hynny) ac yn arbennig wrth gofio 1904, yr ydym yn meddwl am y Diwygiadau sydd wedi adnewyddu Eglwys Dduw mewn ffordd amlwg a grymus iawn. Mae Diwygiadau felly yn digwydd yn gyson ac fe fuasai yr eglwys Bentecostaidd yn Ne America a gwledydd fel Malaysia, Indonesia a Korea yn sôn am Ddiwygiadau felly heddiw.

Oherwydd nad oes arwyddion amlwg o adfywio o'r fath yng Nghymru/Prydain/Ewrop y mae'n hawdd iawn i ni wedyn feddwl nad yw'r Ysbryd ar waith. Ond gwadu'r Pentecost, gwadu'r Duw sydd ar waith a gwadu'r hyn y mae wedi ei wneud yn Iesu fuasai hynny.

Dathlu a diolch fyddwn ni ar W^yl y Pentecost ac y mae hynny yn golygu ein bod yn dathlu Efengyl yr Arglwydd Iesu Grist trwy arweiniad a nerth yr Ysbryd Glân: rhoi'r golau arno Ef yw gwaith mawr yr Ysbryd; rhoi bywyd yn y rhai sydd yn ei gyffesu yn Arglwydd; a rhoi arweinaid i'w eglwys drwy'r byd i fod yn dyst i'w Efengyl. Nid oes rhaid i hynny ddigwydd ar raddfa fawr, ddiwygiadol, ond mae'n rhaid iddo ddigwydd yn ein hanes - ein hanes a'n profiadau personol a'n profiad fel Eglwys Iesu Grist. Ar drothwy'r Pentecost, y newyddion da iawn yw ei fod yn digwydd. Y mae yn arwain yr eglwys - dyna pam ei bod yn tyfu; y mae yn rhoi bywyd yn y rhai sy'n cyffesu Crist yn Arglwydd - dyna pam yr ydym yn byw yn oes y merthyron; y mae yn rhoi'r golau ar Iesu - dyma pam fod cymaint o sôn, o ymateb ac o ysgrifennu amdano ag erioed.

Gobeithio y bydd pob un ohonom yn gweld yr angen a'r awydd i ddathlu Gwyl y Pentecost ac i weddïo am i ni ymateb i'r Ysbryd - sy'n cysuro'r anfodlon ac yn anfodloni'r cysurus, ond sydd yn fwy na dim yn gloywi a llawenhau addoli a bywyd Pobl Enfys Dduw.

Pryderi

Dawnswyr o Galcutta a fu'n ein diddori ni yn yr ardd ar ôl bod yn sgwrsio gyda'r Ieuenctid ym mis Mai

I frig y tudalen.

 
I frig y tudalen.
 

NEWYDDION

Llongyfarchiadau

  • i Dylan Hughes am lwyddo yn yr arholiad Gradd 8, gydag anrhydedd, ar yr Euphonium; a hefyd Llongyfarchiadau i'w frawd Gwydion, am ennill y wobr gyntaf yn yr unawd offerynnol dan 15 oed yn Eisteddfod Pontrhydfendigaid.
  • i Jim O'Rourke sydd wedi ymddeol fel Prif Weithredwr yr Urdd;
  • i Alun Creunant Davies ar gael ei ddyrchafu'n Gymrawd o Brifysgol Cymru,Aberystwyth;
  • i Bryn a Rhiannon Roberts ar ddod yn dad-cu a mam-gu unwaith eto (Trystan, cyntaf-anedig i Maredudd a Samantha)

Cydymdeimlwn yn fawr â

  • nifer o'n haelodau sydd wedi colli anwyliaid yn ystod y mis: Sali Morris (colli mam), Dilys Evans (colli brawd), Trefor Evans (colli brawd), Mary Howells (colli brawd), D.T. Jones (colli chwaer).

Dymunwn yn dda i

  • i'r canlynol sydd wedi bod neu sydd yn yr ysbyty: Lisi Jones, John Evans, Jean Cowell, Buddug Edwards, Eirwen Williams, Emily Stephens, Dai Alun Jones, Valerie Jones.

Bedydd

  • Mawrth 28ain: Amelia Ann, merch Rachel a David Brennan, Los Angeles a wyres i Ifor ac Ann Williams, Brendan
  • Mai 23ain: Megan Ystwyth, merch Sharon a Tony Greaves ac wyres gyntaf i Morfydd Griffiths, Comins Coch (gw. y llun isod).
I frig y tudalen.
 

ER COF

Ann Williams, 45 Rhoshendre fu farw Mai 9ed. yn 53 oed. Ar ôl colli ei mam a'i thad o fewn wyth mis i'w gilydd ychydig flynyddoedd yn ôl, fe wynebodd Ann ei hunigrwydd a'i galar yn dawel ac yn ddirwgnach. Yn yr un ffordd fe wynebodd ei salwch maith gyda'r un ysbryd addfwyn. Treuliodd ei gyrfa yn gweithio fel ysgrifenyddes yng Ngholeg y Llyfrgellwyr - eto yn dawel, yn gydwybodol ac yn gwbwl ddibynadwy. Er bod colli ei rheini wedi bod yn siom fawr iddi (oherwydd mai Ann oedd yr unig blentyn yr oeddynt yn deulu clòs iawn) yr oedd yn ddigon doeth a dewr i addasu ei bywyd i amgylchiadau gwahanol. Dechreuodd fynd ar wyliau tros y Nadolig a mwy nag unwaith yn ystod yr haf a chreu ffrindiau newydd - un yn arbennig, Lil, a fu'n ffyddlon iawn iddi yn ei salwch. Fe ail-gydiodd mewn addoli hefyd a bu'n ffyddlon iawn yn y capel pob nos Sul. Bu Ann farw'n dawel ar ddydd Sul a bu angladd preifat ym Mwlchgwynt, Tregaron, ple mae ei mam a'i thad hefyd wedi eu claddu. Yr oedd yn ddydd penblwydd Julian o Norwich :

And all shall be well, and all shall be well, and all manner of things shall be well. Diolchwn i Dduw amdani a chyd-ymdeimlwn a'r teulu yn arbennig Ifor a Menna (James) o Bow St., fu mor ofalus ohoni a hithau ohonynt hwythau.

I frig y tudalen.
 

 

Dawnswyr o Galcutta

I frig y tudalen.
 

DARLITH I GOFIO

Daeth cynulleidfa fawr i wrando y Cyn-Athro Gareth Jones yn traddodi Darlith Goffa Gareth Evans yn y Brifysgol nos Fercher Mai 19eg. Cafodd y ddarlith ei hun ymateb brwd ac yr oedd pawb yn teimlo ei fod yn achlysur teilwng i gofio un a wnaeth gyfraniad mor glodwiw nid yn unig i'r Brifysgol a'r Adran Addysg ond hefyd i'n dealltwriaeth ni o hanes Cymru ac o addysg yng Nghymru. Fe dalodd yr Is-Ganghellor, Derec Llwyd Morgan, deyrnged uchel i Gareth.

 
I frig y tudalen.

I frig y tudalen.

MORLAN

Mae'r gwaith yn parhau.....yn fuan fe fydd ochr y neuadd yn gwedd-newid ac fe fydd y neuadd yn cael ei chysylltu a'r ty^.

Sefydlwyd pwyllgor cyhoeddusrwydd i'r Morlan gyda'r nôd o godi ymwybyddiaeth am y datblygiadau diweddara gyda'r adeilad ac i hysbysu'r cyhoedd am ddigwyddiadau'r dyfodol. Er mai un cyfarfod llawn sydd wedi ei gynnal mae eisoes nifer o syniadau yn cael eu gweithredu ac un o'r rheiny yw creu gwefan i'r Morlan a fydd yn fyw yn fuan: www.morlan.org.uk

Buom yn ffodus i gael cymorth Wynne Melville Jones i lunio cynllun cyhoeddusrwydd ar gyfer y ganolfan ac mae e ar hyn o bryd yn ein cynorthwyo i lunio taflen syml fydd yn cyflwyno'r Morlan i gynulleidfa ehangach. Rydym yn teimlo fod hyn yn angenrheidiol gan fod nifer bellach yn holi am yr holl adeiladu sydd yn digwydd ar y safle. Wrth i is-bwyllgorau eraill gael ei sefydlu y gobaith yw y byddwn yn medru cael cyswllt ymhob un ohonynt er mwyn manteisio ar bob cyfle i ddweud wrth y byd a'r betws am ddatblygiadau cyffrous y Morlan. Y mae'r Pwyllgor Rhaglen a 'r Bwrdd Rheoli yn brysur yn ogystal ag arolygu'r gwaith gan y Pwyllgor Adeilad.

Wrth i'r cyhoeddusrwydd fynd yn ei flaen a'r gwaith paratoi yn dod i ben fe ddaw digon o gyfle i unrhyw un sydd yn awyddus i ddod yn rhan o ddatblygiad cyffrous Y Morlan. Fe ddaw digon o gyfle.

Deian Creunant a Miriam Garratt
(Cadeirydd ac Ysgrifennydd yr Pwyllgor Cyhoeddusrwydd

I frig y tudalen.

CROESAWU DAWNSWYR O GALCUTTA

Yr oedd Criw'r Sul (sef y bobl ifanc) yn croesawu nifer o bobl ifanc o Galcutta ar y Sul Mai 23ain. Yr oeddynt yng Nghymru ar wahoddiad yr Urdd a Chymorth Cristnogol fel rhan o raglen arbennig yr Urdd Croeso Calcutta. Y mae nifer o bobl ifanc o Gymru wedi ymweld ag India hefyd. Yr oedd y merched bron i gyd wedi bod yn byw ar y stryd pan yn blant, ond bellach, trwy raglen arbennig Cymorth Cristnogol, wedi ffurfio grwp dawns sydd yn ymweld ag ysgolion yn Calcutta. Cawsom eu gweld yn dawnsio yn yr ardd ger y capel ac wedyn yn mwynhau cinio yn y festri cyn mynd ymlaen i Glanllyn ac yna Eisteddfod yr Urdd.

I frig y tudalen.

Te'r pentecost yng Nghanolfan y Waun

I frig y tudalen.

I frig y tudalen.

CYNHADLEDD

Dyma gynhadledd i gyfarfod â phobl o bob rhan o'r byd ac i ystyried bod yn Fools for Christ. Cyfle i Gristnogion ymuno gyda theuluoedd a ffrindiau, hen a newydd i archwilio a dyfnhau eu ffydd.

  • Lleoliad: Llangranog Dyddiadau: 8-14 Awst 2005.

  • Siaradwyr: John Drane (Uwchddarlithydd yn arbenigo mewn Diwinyddiaeth Ymarferol ym Mhrifysgol Aberdeen.), Olive Drane, Michael Heaney (Cadeirydd y Gynhadledd a Ysgrifennydd Cyffredinol Ffederasiwn yr Annibynwyr), Mererid Mair Williams ac Arfon Jones.

  • Cost: Oedolyn £195; 15-17 £160; 12-14 £120; 8-11 £90; 3-7 £50; o dan 3: am ddim.

I gael ffurflen archebu lle neu fwy o wybodaeth ffoniwch 02072789655 neu cysylltwch â CWM Ewrop, 24-27 White Lion Street, Llundain, N1 9PD. Byddwch yn derbyn cydnabyddiaeth a rhaglen fanwl ychydig wythnosau cyn y gynhadledd.

I frig y tudalen.

I frig y tudalen.

CAM-DRIN CARCHARORION YN IRAC

Mae’r canlynol yn seiliedig ar erthygl gan Alan Keyes, cyn-Lysgennad dros America i Gyngor Economaidd a Chymdeithasol y Cenedloedd Unedig (1985-87), cyn-Swyddog Gwasanaeth Tramor, Adran Wladol yr Unol Dalaethau (1979-83) a chadeirydd ymgyrch "One Nation Under God" i ddiogelu rhyddid crefyddol yn America .

Mae’r erthygl yn cyfleu syniadau sy’n nodweddiadol o nifer fawr o Gristnogion yn yr Unol Daleithau, ac mae’n bwysig i ni geisio eu deall.

Dengys yr achos o gam-drin carcharorion rhyfel yn Irac pa mor bwysig yw cadw safon moesol uchel os yw’r rhyfel yn erbyn terfysgaeth i lwyddo fel dull o gael gwared ar derfysg a bygwth o bob math.

Pwysleisiodd Arlywydd America George Bush, ar ôl Medi 11, y dylai pawb sydd â chydwybod drwy’r byd ymuno i geisio cael gwared ar yr haint o derfysgaeth. Beth bynnag yw’ch barn am rhyfel Irac, roedd hyn yn ffactor bwysig yn y cyfiawnhad dros geisio cael gwared ar Saddam Hussein.

Mae terfysgaeth yn lladd pobl ac yn dinistrio pethau. Er fod hyn yn wir am ryfel hefyd, y gwahaniaeth yw mai pwrpas terfysgaeth yw dinistrio pobl ddiniwed: pobl ddiarfog, a heb gysylltiad â sefydliad sy’n ymwneud â rhyfel. Pwrpas terfysgaeth yw lladd pobl ddiniwed, ac felly mae terfysgwyr yn gobeithio creu ofn a dryswch, sydd nid yn unig yn ymosod ar hyder y lluoedd arfog ond hefyd ar gymdeithas yn gyffredinol.

Felly daw yn glir mai pwrpas y rhyfel yn erbyn terfysgaeth yw amddiffyn bywydau diniwed, a hyd yn oed mewn rhyfel rhaid amddiffyn y nôd yma. Nid yn unig mae hyn yn dynodi plant a dinasyddion heb arfau, ond hefyd milwyr y gelyn, unwaith y maent wedi eu di-arfogi ac felly yn ddi-fygythiad.

Er bod teimladau mewn rhyfel yn gallu cael y gorau o bobl, rhaid yw cadw at yr egwyddor hon. Dyma sydd yn ein gwahaniaethu oddi wrth ein gelynion. Os ydym yn anwybyddu’r egwyddor hon, mae’r gwahaniaeth moesol rhyngom ni a’n gelyn, sydd yn rhoi cyfiawnhad i ddynodi pobl a llefydd peryglus, ac yna ymosod arnynt, yn diflannu. Felly hefyd yr hygrededd i fod yn amddiffynfa i’r achos teg a ddylai ennyn cefnogaeth bobl trwy’r byd.

Mae camdrin y carcharorion wedi creu arswyd drwy’r byd Moslemaidd ac yn sicr mae’n helpu i ennyn casineb llawer mwy o bobl sydd am ymosod ar ddinasyddion y Gorllewin, a chreu rhwygiadau yn y rhwydwaith o wledydd sydd yn cefnogi’r Rhyfel yn erbyn Terfysgaeth.

Y wers i ddysgu o’r achos yma yw fod rhaid i’n gweithredoedd gyd-fynd â’n geiriau mewn rhyfel yn erbyn bygythiad o bob math, yn y byd yn gyffredinol ac o fewn ein bywydau ein hunan fel Cristnogion. Rhaid dilyn esiampl Iesu : "Câr dy Gymydog fel ti dy hun".

Hywel Lloyd

I frig y tudalen.
 

Rhyddhau'r golomen yn yr ardd ar ddydd Sul y Pentecost

I frig y tudalen.

GWEDDI

Adnewyddiad
Arglwydd, rhoddwr bywyd,
hiraethwn am i ti ymweld mewn grym
â'th eglwys ac â chynulleidfaoedd dy bobl;
i'w rhyddhau o bob anobaith a difaterwch;
i'w codi o bob diffyg a bai a'u diwygio;
i'w hachub o'u rhaniadau ac i'w huno mewn cariad;
i'w tywys i ddeall dy ewyllys ar eu cyfer,
i fentro dulliau newydd o ddathlu eu ffydd
ac o'i chyfathrebu i eraill;
i adfer eu hyder yn eu cenhadaeth i'r byd.
Rho i'th eglwys ffydd a gweledigaeth i wynebu'r dyfodol,
a rho iddi orfoledd yn ei haddoliad a'i gwaith
Arglwydd, rhoddwr bywyd,
clyw ein gweddi dros dy fyd a thros deulu dyn:
ein brodyr a'n chwiorydd sydd mewn adfyd,
mewn poen, mewn gofid ac mewn unigrwydd;
y rhai sydd wedi eu mathru dan draed
gan orthrwm a chreulondeb;
y rhai sydd wedi eu cornelu
gan flinder, llesgedd ac afiechyd;
y rhai sydd wedi eu bwrw i anghofrwydd ac anobaith.

Adfer, adenwydda a bendithia hwy,
a chadw ni oll yn dy gariad hyd y diwedd;

trwy Iesu Grist ein Harglwydd. AMEN.


I frig y tudalen.

DYDDIADAU I'W COFIO

Dydd Mawrth 8 Mehefin

Pererindod grw^p gweddi bore Mawrth i Dy^ Ddewi.

Mehefin 18-20: Hwyl Hwyr yn y Bala

Penwythnos y Bala yw pen llanw blwyddyn y Clwb pob amser. Fe fydd 30 o leiaf o'r plant yn mynd eleni ond y mae mwy na hynny yn perthyn i'r Clwb, wrth gwrs. Yr ydym yn ddiolchgar iawn i Eirwen a Mary am eu gwaith ac yn diolch i'r rhai sydd yn barod iawn i ddod i helpu yn ôl y galw. Pob hwyl iddynt yn y Bala.

Nos Fawrth  22 Mehefin yn y Festri:

Noson yng nghwmni'r Parchedig Yohan Devananda, Sri Lanka (World Forum for Peace and Solidarity)

Dydd Sul 27 Mehefin

2.00 yn Fferm Ffantasi, Llanrhystud: Gw^yl yr Ysgolion Sul. Thema eleni: Fferm y Bugail Da. Gweithgareddau o bob math. Cost: am ddim i'r plant (gyda'r Henaduriaeth a’r Ysgol Sul yn cwrdd â'r gost). Oedolion plis i dalu drostynt eu hunain. Dewch â phicnic

Llwyddiant Clwb Ieuenctid. Fe fydd blwyddyn y Clwb Ieuenctid yn dod i ben gyda barbiciw ar y traeth ar ôl gwyliau hanner tymor. Gyda chyflwr truenus Neuadd Beth-seilun a dechrau'r gwaith ar gyfer Morlan fe fu'n rhaid i'r Clwb chwilio am gartref dros dro. Cafwyd telerau arbennig gan y Ganolfan Hamdden ac yno y mae'r clwb wedi bod yn cyfarfod pob nos Wener. Y mae'r gweithgarwch wedi bod yn llwyddiant mawr ac yn ystod mis Mai mae'r nifer o bobl ifanc wedi cyrraedd 40-50! Yr ydym yn ddiolchgar iawn i Wyn Hughes a David Harries am eu gwaith ac i'r rhai sydd wedi bod yn fodlon ddod i mewn i gynorthwyo o dro i dro.

Ond y mae i lwyddiant ei gyfrifoldebau ychwanegol. Oherwydd yr holl ganllawiau sydd yn rhaid eu cadw y dyddiau yma o safbwynt diogelwch ac arolygiaeth, y mae angen o leiaf dau neu dri arall yno gyda'r arweinwyr. Fe fydd yn rhaid cael nifer o gynorthwyr felly a'r gobaith yw cael digon i wirfoddoli fel y bydd pawb ar ddyletswydd unwaith y mis. Felly - po fwyaf o enwau, ysgafnach fydd y gwaith. Ar y llaw arall, os oes unrhyw un a hoffai roi blwyddyn o amser fel un o'r arweinwyr fe fyddwn yn falch iawn o glywed gennych. Rhowch wybod i Wyn, David neu Pryderi.

I frig y tudalen.

DYDDIADUR MEHEFIN 2004

GWASANAETHAU'R SUL 10.00 a 6.00

6   Bugail yn y Morfa ac yn Ebeneser
13 Parch Ifan Roberts yn y Morfa ac yn Ebeneser
20 Y Bugail yn y Morfa; Grwp y Garn yn Ebeneser
27 Parch Catrin Roberts yn y Morfa ac yn Ebeneser

YSGOLION SUL

Plant: Bore am 10.00.
Oedolion: ar ôl gwasanaeth y bore

CYLCH GWEDDI A CHOFFI

Bore Mawrth am 10.30

CYMORTH CRISTNOGOL

4 Cinio Bara a Chaws yn eglwys St Anne, Penparcau

CYFARFODYDD WYTHNOSOL

Bob nos Iau am 7.00

3 Cyfarfod Gweddi
10 Myfyrdod a Gweddi
17 Myfyrdod a Gweddi
24 Myfyrdod a Gweddi

 
I frig y tudalen.
 

SWYDDOGAETHAU MEHEFIN 2004

Blaenor y Mis Dr D Huw Owen
Porthorion Miss J Eleri Davies a Dr Noel G Lloyd, Mr David Harries a Mrs Eira Williams

Blodau'r Cysegr - Y Morfa
6 Mrs May a Mr Hywel Roderick
13 Mrs Mattie Jones a Mrs Enid Jones
20 Mrs Auriel Fenton
27 Mrs Mattie Evans a Mrs May Jones
Blodau'r Cysegr - Ebeneser
6 Mrs Megan J Evans
13 Mrs Gwladys Evans
20 Mrs Catherine Jones
27 Mrs Mary Benjamin

Cynorthwywyr Llestri Cymun
6 Mrs Miriam Evans, Mrs Eirwen Lewis, Mrs Elsbeth Lewis, Mrs Dilys Thomas (Glyndyl)

Cynorthwywyr Ariannol
6 Mr J G L Evans a Mr Gwynfor Jones
13 Mr Hywel Lloyd a Mrs Glenys James
20 Mr a Mrs Terry Adams
27 Mrs Beti Roberts a Mrs Blodwen Williams

Tregerddan
27 Mr Geraint Lewis Jones a Miss Gwerfyl Pierce Jones

 
I frig y tudalen.
 
Golygydd y rhifyn hwn yw Laurie Wright a Hywel Lloyd. Gyrrwch gyfraniadau ar gyfer rhifyn mis Gorffennaf i Siân Eleri ac Enid Jones erbyn 18 Mehefin, os gwelwch yn dda.

Os cewch anawsterau wrth ddefnyddio'r wefan hon, neu os oes gennych unrhyw awgrymiadau neu ddeunydd yr hoffech ei gynnwys ar y wefan, cysylltwch â ni.

Cartref | Dyddiadur | Gweithgareddau | Perthyn | Morlan | Y Byd a'r Betws
Yr Eglwys ar wasgar | Llyfrau | Lle i feddwl | Oriel | Dolenni
 
Diweddarwyd ddiwethaf ar 11 Mehefin  2004.
Hawlfraint: Eglwys Bresbyteraidd Cymru neu'r awduron unigol, 2004.

 
Top