Capel y Morfa: 2004 -
2005
A bydded i Dduw,
ffynhonnell gobaith,
eich llenwi â phob
llawenydd a thangnefedd
wrth i chwi arfer eich ffydd,
nes eich bod,
trwy nerth yr Ysbryd Glân,
yn gorlifo â gobaith.
Rhufeiniaid 15.13
Y digwyddiadau o fewn ffrâm fel hon yw'r rhai
sy'n cynnig arweiniad arbennig ar gyfer y cyfnod Medi - Rhagfyr 2004. Bydd
unrhyw newid neu amrywiad yn y rhaglen, yn ogystal â llawer o weithgarwch
pellach, yn cael ei gyhoeddi yn Perthyn. |
Digwyddiadau Mis Medi ...
Dydd Sul, 5 Medi, 10 a.m.
Gwasanaeth dechrau tymor yr Ysgol Sul a
chymundeb
Cyfle i ofyn am fendith ac i ddiolch am waith yr athrawon,
y plant a'r rhieni.
Dydd Sul, 12 Medi, 10 a.m.
Eglwys Crist: eglwys heddiw ac yfory
Gwasanaeth arbennig i'r holl aelodau i gyflwyno rhaglen
y tymor ac i ymgysegru.
Dydd Mawrth, 14 Medi, 7 p.m.
'Rhai yn arweinwyr
'
Sesiwn i'r Blaenoriaid a'r Bugail ar ddechrau cyfnod
cyffrous i'r eglwys. |
'Nid Duw y diwrnod newydd yn unig yw Duw, ond
Duw y cyfnodau newydd a'r tymhorau newydd: eglwys fyw yw'r eglwys sy'n paratoi
ar gyfer cyfnod newydd yn barhaus'
Peter Brierley, Christian Research
Digwyddiadau eraill pwysig ym mis Medi
Dydd Mawrth, 7 Medi, yn Festri Capel y Morfa
Noson dan nawdd Cyngor Ysgolion Sul Cymru
Stondin lyfrau ac adnoddau i'r Ysgol Sul
Sgwrs gan Gwyn Rhydderch ar `Plant a'r eglwys'
Darlith gan y Parchedig Wil Huw Pritchard, Sir Fôn,
awdur yr esboniad ar Joel a Hosea
*
Nos Wener, 17 Medi, yn y Ganolfan Hamdden
Dechrau tymor newydd y Clwb Ieuenctid
*
Dydd Sul, 19 Medi
Arweinir yr addoliad yn y Morfa ac yn Ebeneser gan
Y Parchedig Cynwil Williams, Caerdydd
*
Dydd Llun, 20 Medi
Dechrau tymor newydd Hwyl Hwyr
*
Dydd Sul, 26 Medi
Gwasanaethir gan y Bugail yn y bore
Gwasanaeth Diolchgarwch yr Ysgol Sul yn Ebeneser yn y prynhawn
*
Gwasanaeth nos Sul am 6.00
Gw^yl y môr goleuni
Gwasanaeth ar drothwy Gw^yl Waldo Williams, a anwyd ganrif yn ôl ar
30 Medi, 1904
Digwyddiadau Mis Hydref ...
Dydd Sul, 10 Hydref, 10 a.m.
Morlan : yr eglwys ddifuriau
Seiliau cenhadol y Morlan, dan arweiniad
Bwrdd Rheoli Morlan
Dydd Sul, 10 Hydref, 6 p.m.
'I achub hen rebel'
Gwasanaeth o fawl i ddathlu 1904,
wedi ei llunio gan Rhidian Griffiths
Nos Wener, 15 Hydref, 7 p.m. yng Nghapel y Morfa
'Yr oedd yn eu dysgu hwy
'
Noson rhagflas o'r Cwrs Hyfforddiant fydd yn dechrau ym mhob ardal yn 2005
fel rhan o raglen genhadol Eglwys Bresbyteraidd Cymru. Y mae hon yn noson
i flaenoriaid ac arweinwyr eraill eglwysi'r Henduriaeth.
Arweinir gan Dr Elwyn Richards
Dydd Sul, 31 Hydref, gwasanaeth y bore:
Wrth fy modd
Nifer o aelodau yn rhannu yr hyn sy'n rhoi pleser iddynt yng ngwaith yr eglwys
ac yng Nghapel y Morfa
Gwasanaeth yr hwyr:
Gwasanaeth ieuenctid yr eglwys a myfyrwyr
|
'Ni ellir pregethu a dehongli'r Efengyl yn effeithiol
heb yn gyntaf wrando ar anghenion ein cymunedau a'n byd. Dyma wir ystyr yr
ymgnawdoliad ac mae sefydlu'r Morlan yn tystiolaethu i'r gwirionedd hwnnw
- gwirionedd sy'n hawdd ei anghofio '
Archesgob Cymru, y Parchedig Barry
Morgan
Digwyddiadau eraill pwysig ym mis Hydref
Dydd Sul, 3 Hydref
Gw^yl Diolchgarwch yr Eglwys ac Apêl Bara i'r Byd
Bore: Gwasanaeth dan arweiniad y plant a'r ieuenctid
Hwyr: Torri bara a thywallt gwin
Bore Mawrth, 5 Hydref, 10.30 a.m.
a phrynhawn Mercher, 6 Hydref, am 2.30
Cyfarfodydd gweddi
Nos Fawrth, 5 Hydref, 7 p.m.
Gwasanaeth yn Ebeneser
Pregethir gan y Parch. Gwyn Morgan, Llanrhystud
Prynhawn Mercher, 6 Hydref, 2.30 p.m.
Cyfarfod cyntaf Cymdeithas y Morfa
croesawu preswylwyr rhai o gartrefi preswyl y cylch
Nos Lun, 11 Hydref
Ail gyfarfod Cymdeithas y Morfa
Noson yng ngofal Cymdeithas yr Hebog, Blaen-plwyf
Nos Iau, 14 Hydref yn y Llyfrgell Genedlaethol
'I achub hen rebel'
Noson wedi ei threfnu i aelodau Capel y Morfa yn unig: cawn weld yr arddangosfa
a chawn weld y fersiwn llawn o'r rhaglen wych 'Nefol Dân' yn y Drwm
dan arweiniad
Rhidian Griffiths ac aelodau eraill o staff y Llyfrgell
Dydd Sul, 17 Hydref
Gwasanaethir gan y Parchedig Meirion Lloyd Davies, Pwllheli yng Nghapel y
Morfa ac yn Ebeneser
Dydd Sul, 24 Hydref
Gwasanaethir gan y Bugail:
Wythnos Un Byd
yng Nghapel y Morfa ac yn Ebeneser
Digwyddiadau Tachwedd ...
Dydd Sul, 7 Tachwedd, 10 a.m.
Dysgu wrth ei draed, rhannu wrth ei fwrdd
Capel y Morfa ac eglwysi CWM - cerdded gyda'n gilydd
Dydd Sul, 7 Tachwedd, 6 p.m.
Morlan: agor drysau, cynnig cyfle
Morlan a Chapel y Morfa
Dydd Sul, 21 Tachwedd, 10 a.m.
Pawb yn addoli ac addoli i bawb
Addoliad sy'n dathlu, adeiladu ac yn ysbrydoli
Nos Fawrth, 23 Tachwedd, 7.30 p.m.
Cylchgrawn, gwefan a chyfathrebu
i bawb o bob oed sydd â diddordeb yn y rhan ganolog hon o fywyd yr
eglwys
Nos Fawrth, 30 Tachwedd,
yn yr Eglwys Fethodistaidd, Penparcau
Gwasanaethu'r gymuned
Aelodau'r Eglwys Fethodistaidd ac aelodau Ebeneser a Chapel y Morfa yn ystyried
eu tystiolaeth yn y gymuned
|
Mae'r eglwysi sy'n tyfu ac yn datblygu yn eglwysi
sy'n mentro; yn eglwysi ple mae eu haelodau yn buddsoddi 'amser i Dduw';
yn eglwysi nad ydynt byth yn aros yn eu hunfan; sydd yn newid yn gyson er
mwyn bod mewn tiwn a'r tragwyddol; yn bennaf, yn eglwysi sy'n ffyddlon i
Iesu- sydd yn Arglwydd ei eglwys am ei fod yn Arglwydd ein cymuned, ein cenedl
a'r cread ac sydd yn Arglwydd i mi am ei fod yn Waredwr y byd.
Peteter Brierley, Christian
Research
Digwyddiadau eraill pwysig ym mis Tachwedd
Dydd Sul, 4 Tachwedd, yng Nghapel y Morfa ac yn Ebeneser
Arweinir y gwasanaethau gan
Y Parchedig Jeffrey Williams
Ysgrifennydd Cyffredinol Cymorth Cristnogol
Dydd Sul, 28 Tachwedd, yng Nghapel y Morfa ac yn Ebeneser
Sul cyntaf yr Adfent
Gwasanaethir gan y Parchedig Nerys Tudor, Penfforddlas.
Digwyddiadau Rhagfyr ...
Dydd Sul, 5 Rhagfyr, am 10 a.m.
Ail Sul yr Adfent: Gwyl y gofal a'r gymdeithas
Capel y Morfa yn eglwys y Nadolig - drwy'r flwyddyn
Dydd Sul, 5 Rhagfyr, 6 p.m.
Y Gair yn oleuni i'n llwybr
fel cenedl, fel eglwys, fel unigolion.
Gwasanaeth ar gyfer Sul y Beibl
Bore Mawrth, 7 Rhagfyr neu nos Iau, 9 Rhagfyr
Cenhadaeth, Morlan a gweddïo'r gwaith
Gweddïo yn gynhaliaeth ac yn gefn i Morlan: cyflwyno patrwm gweddi i
fywyd yr eglwys
|
'Ni fedrwn obeithio byw ar gyfalaf diwylliannol
ein gorffennol fel gwlad 'grefyddol' a pheth calonogol iawn yw clywed am
Morlan'
Emyr Humphreys, un o brif lenorion
Cymru
Digwyddiadau eraill pwysig ym mis Rhagfyr
Dydd Sul, 12 Rhagfyr
Trydydd Sul yr Adfent
Bore: gwasanaethir gan y Bugail
Ebeneser: y Bugail
Hwyr: Cymanfa o garolau
ar ddiwedd tymor y myfyrwyr
Dydd Sul, 19 Rhagfyr
Pedwerydd Sul yr Adfent
Bore : Carol, llith a chân
Ebeneser : Gwasanaeth Nadolig yr Ysgol Sul
Hwyr (5.00): Gwasanaeth Nadolig yr Ysgol Sul
Dydd Nadolig am 10.30
Gwasanaeth Nadolig dan arweiniad y bobl ifanc.
Dydd Sul, 26 Rhagfyr am 10.00
Yn dawel drannoeth y geni
Cynhelir oedfa'r bore yn unig
Ebeneser: y Bugail
|