Gadael gwefan Capel y Morfa a mynd i wefan Eglwys Bresbyteraidd Cymru.
Tudalen Cartref Capel y Morfa a Manylion Cysylltu, Rhestr Swyddogion, a Mapiau.
Dyddiadur y Capel ac Amserau Gwasanaethau
Gweithgareddau yn y Capel, yr Ysgol Sul, etc.
Perthyn - Misolyn y Capel ac ôl-rifynnau.
Perthyn - y rhifyn cyfredol.
Perthyn - ôl-rifynnau
Morlan
Y Byd a'r Betws - cyfle i drafod gwahanol bynciau.
Yr Eglwys ar Wasgar.
Adolygiadau o Lyfrau.
Lle i feddwl.
Oriel - Lluniau o ddigwyddiadau yn y Capel.
Dolenni i safleoedd perthnasol eraill.

       

 

 
PERTHYN - Y Rhifyn Cyfredol.
HYDREF  2004
Rhifyn 130

 

CYNNWYS

GAIR GAN Y BUGAIL
NEWYDDION
ER COF
MORLAN
CERDDED GYDA'N GILYDD: CAPEL Y MORFA A THAIR EGLWYS
CADW MEWN CYSYLLTIAD
YR YSGOL SUL
POBL Y MORFA
GWEDDI
DYDDIADAU I'W COFIO
DYDDIADUR HYDREF  2004
SWYDDOGAETHAU HYDREF  2004

Un funud fach cyn elo'r haul o'r wybren
Un funud fwyn cyn delo'r hwyr i'w hynt,
I gofio am y pethau anghofiedig
Ar goll yn awr yn llwch yr amser gynt.

Waldo Williams (ganwyd 30 Medi 1904)

GAIR GAN Y BUGAIL

Clywais ddau beth a'm gogleisiodd yn arw yn ystod y dyddiau diwethaf. Un oedd cymeriad o'r enw Harri Evans o Ddinbych, sydd yn ei nawdegau, ar raglen radio Twm Morys (Morys yn y minor) Dyma eiriau Harri: 'Fydda i ddim yn mynd i'r capel, ond mi fydda i yn lecio gweld pobl eraill yn mynd.' Roedd y llall ym Mar Coffi y WRVS yn Ysbyty Gwynedd. Dwy o'r gwirfoddolwyr yn sgwrsio a'r naill yn dweud wrth y llall ' Mae'n gaddo glaw 'fory. Fe ga' i sbario mynd i'r capel. Mae hynny'n biti, oherwydd Gwyn Erfyl sydd yna ac mi fydda i yn lecio gwrando arno fo - mae ganddo Gymraeg da. Mae gan y Gweinidog (sef John Gwilym Jones) lais neis hefyd'. A dyna fo - air am air, oherwydd fe wnes i gofnodi'r ddau ddyfyniad.

Rydw i'n tynnu sylw at y perlau yma er mwyn profi peth mor gymhleth a rhyfedd yw perthynas pobl â'r eglwys a'r arferiad o addoli. Roedd Harri o Ddinbych yn falch o ddangos y Capel Mawr i Twm Morys, yn falch o ddweud fod rhai o'i deulu wedi bod yn ffyddlon yno (ac yn flaenoriaid!). Roedd blas euogrwydd yn ei gyffes ac eto roedd o'n gwbwl onest yn dweud ei fod yn falch fod yna bobl eraill yn addoli. Roedd y wraig yn Ysbyty Gwynedd yn amlwg yn aelod o gapel Pendref ym Mangor, yn falch y byddai'r glaw yn ei rhwystro rhag mynd i'r capel ac eto yn mwynhau gwrando ar Gwyn Erfyl. Ond fy nheimlad, wrth wrando arni hithau, oedd fod ynddi rhyw onestrwydd a diffuantrwydd.

Yn Ninbych fe gawsom gip o'r miloedd sydd wedi llithro a phellhau, yn ddifeddwl, o fywyd yr eglwys, ac eto yn cydnabod, weithiau yn amwys, weithiau yn glir, fod yna wacter yn eu bywyd. Ar un llaw mae disgwyliadau pobl felly o'r eglwys yn uchel ac ar y llaw arall mae eu siom yn yr eglwys yn medru bod yn fawr. Ac efallai eu bod yn disgwyl i ni glosio atynt. O un peth fe allwn fod yn siwr - mae digon ohonynt o'n cwmpas.

A beth, tybed, fyddai natur y sgwrs rhwng Harri a'r wraig o Fangor? A fyddai Harri yn wfftio ei bod yn falch o'r glaw fel esgus i beidio addoli? Neu, a fyddai'r ddau, efo'i gilydd, gyda'i ysbryd siriol, yn ystyried eu bod yn rhan o'r sefyllfa y mae'r eglwys yn cael ei hun ynddi?

Dyna natur gymhleth byw mewn cyfnod ôl-Gristnogol. Mae'r 'maes cenhadol' wrth ein drws, yn ein plith, yn ein canol. Ac yn Ninbych a Bangor, fel yn Aberystwyth, y mae'n amlwg fod a wnelo tystiolaeth yr eglwys ag adnabod y bobl sydd o'n cwmpas. Wyneb yn wyneb. Gyda llaw, mae'n ymddangos fod rhagolygon y tywydd yn anghywir. Roedd yn fore Sul braf ym Mangor.

Pryderi

I frig y tudalen.

 
I frig y tudalen.
 

NEWYDDION

Llongyfarchiadau

  • i Auriel a Roger Fenton ar ddod yn fam-gu a thad-cu eto, ac i Rhys ac Emma ar enedigaeth Kameron, brawd bach i Tia.
  • i Gwen Jones, wedi cymryd rhan mewn cystadlaethau gwaith llaw yn Sioe Frenhinol Cymru, Llanilar, Llanwrtyd Wells, Llanrhystud ag Ysbyty Ystwyth. Enillodd gwpanau am yr arddangosfa orau yn Llanwrtyd Wells, Llanrhystyd ag Ysbyty Ystwyth. Mae hefyd wedi bod yn beirniadu gwaith llaw yn sioe Beulah ger Llanelwedd.
  • i Doug Jones hefyd, wedi ennill cwpan parhaol a chwpan i gadw yn Llanwrtyd am arddangosfa orau o gynnyrch gardd a gwobrau yn Llanrhystyd ag Ysbyty Ystwyth.
  • i Beatrice Davies, yn gant oed ar Awst 26, 2004

                   Rhodiodd yn llawn anrhydedd, - hi welodd
                                  Gyfrolau hirhoedledd.
                        Ei gw^yl yw; cawn ddathlu gwledd
                        O lawenydd can mlynedd.         Iwan Bryn James.

Cydymdeimlwn yn fawr â

  • at Mrs.Margaretta Jones, Cae Ropos, Dinas Terrace, sydd wedi bod yn Ysbyty Bronglais yn ddiweddar.

Dymunwn yn dda i

  • i Lisa Fenton sydd wedi dechrau ei thymor cyntaf ym Mhrifysgol Cymru, Abertawe
  • i Nia Thomas sydd wedi dechrau yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin
  • i Dafydd Morgan Evans, sydd wedi ymddeol o'i swydd yn y Llyfrgell Genedlaethol

I frig y tudalen.
 

ER COF

Bydd nifer o aelodau Capel y Morfa yn cofio Dr Buick Knox ers yr amser a dreuliodd yn Aberystwyth. Blin yw adrodd y bu farw ym mis Gorffennaf yn ei gartref yn Portadown. Ar ôl cyfnod yn weinidog yng Ngogledd Iwerddon, daeth i Aberystwyth yn 1958 fel athro Hanes Eglwysig yn y Coleg Diwinyddol. Yn 1968 symudodd i goleg diwinyddol Westminster, Caer-grawnt, ac yno y deuthum i’w adnabod. Ymddeolodd yn 1985, a dychwelod i Ogledd Iwerddon.

Roedd Buick yn berson galluog, diymhongar a diffuant. Heb unrhyw ameuhaeth bu’n gwbl ymroddedig i’w alwad a ffyddlon i’r eglwys. Cafodd ddylanwad mawr ar genedlaethau o fyfyrwyr ac ar ei ffrindiau niferus. Dysgodd Gymraeg pan yn Aberystwyth, ac phan oeddwn i yng Nghaergrawnt arferai bregethu yn y gwasanaeth Cymraeg a gynhelid pob prynhawn Sul yn ystod y tymor. Ysgrifennodd yn eang, gan gynnwys cyfrol ar hanes Y Goleuad. Roedd yn aelod ffyddlon o eglwys Sant Columba yng Nghaer-grawnt, a gwerthfawrogwyd ei wasanaeth yn fawr iawn.

Gwelir colli Dr Buick Knox gan lawer; braint oedd ei adnabod.

Noel Lloyd

Ar ôl cystudd maith, bu farw Nellie Griffiths ar Fedi 17eg. yn ei chartref yn Erw Goch. Fel y mae wedi bod ers misoedd lawer, yr oedd yng nghwmni Glyndwr, sydd wedi bod yn gofalu yn dyner amdani. Fe fydd yn chwith mawr i ni ar ôl Nellie a fu mor ffyddlon i'r eglwys ar hyd y blynyddoedd o'r phlentyndod yn Llanddewi (ond fe'i ganwyd yn Llanymddyfri) i wahanol eglwysi yn Llundain (Kings Cross, Radnor Walk, Clapham) a Salem/Capel y Morfa yn Aberystwyth. Ar hyd ei hoes yr oedd Nellie yn llawn gofal o eraill - yn magu ei nith Heulwen ar ôl iddi golli ei thad, sef Tom, brawd Nellie, yn ogystal â gofalu am ei mam a'i thad trwy gystudd mawr. Yn ei golled y mae Glyndwr yn diolch am 58 o briodas hapus, yn diolch ei fod wedi cael cyfle i ofalu amdani ac yr ydym ninnau yn diolch am weld gofal a ffyddlondeb mor fawr. Fel cyd aelodau a chyda llawer iawn o ffrindiau agos yr ydym yn cydymdeimlo yn fawr â Glyndwr ac a Sally, chwaer Nellie, sydd yn yr ysbyty yn Canada. Fe fydd cymuned y Waun a Chapel y Morfa yn dlotach o lawer heb Nellie ac yr ydym yn diolch i Dduw amdani.

Wrth i Perthyn fynd i'r wasg fe glywsom am farwolaeth Mr. Islwyn Davies, 38 Maeshendre. Yr oedd Islwyn a Kathleen Davies ymysg y lluoedd a aeth o Geredigion i Lundain. Yno y bu iddynt gyfarfod ac yno y bu iddynt briodi a threulio blynyddoed yno cyn ymddeol i Aberyswtyth. Er iddo fod yn un o bymtheg o blant, ni chafodd Islwyn a Kathleen deulu eu hunain ac yr oedd hynny yn siom iddynt. Fe fydd pawb ohonom yn cofio ac yn gwerthfawrogi y gofal mawr a roddodd Islwyn i'w briod a gafodd ei chaethiwo gan arthritis am flynyddoedd maith. Wedi colli Kathleen tua wyth mlynedd yn ôl, doedd fawr o flas ar fyw i Islwyn a theimlai unigrwydd mawr ar ôl ei cholli. Diolchwn ninnau i Dduw am gael gweld y fath ofal a ffyddlondeb rhwng dau a gafodd fywyd priodasol hapus a maith.

I frig y tudalen.
 

I frig y tudalen.
 

CADW MEWN CYSYLLTIAD

Mae’n beth rhyfedd symud i ardal arall a gorfod cael rhif ffôn newydd. Mae’r rhif yn newydd i chi ac yn agored i gael ei gamddeialu gan bobl eraill. Dyna sydd wedi digwydd yn ddiweddar – yn ôl yr hyn a ddeallais i – mewn Mans lleol...!

Ceir galwadau cyson – ac ambell un yn fore weithiau – pam tybed? Mae rhywun ben arall y ffôn eisiau cysylltu â’r feddygfa. Mae rhai angen apwyntiad hefo’r meddyg i drafod eu cyflwr neu i dderbyn canlyniadau profion neu i gael cyngor meddyg arall. Faint o bobl sy’n ffonio’r feddygfa fyddai’n gallu elwa ar surgery’r enaid yng nghwmni’r Meddyg Da ei hun tybed? Mae angen trin yr enaid yn ogystal â’r corff. Pa ffordd well o wneud hynny nag mewn Seiat, Cyfarfod Gweddi neu mewn Oedfa ar fore Sul? Dyna fo, nid surgery’r Enaid sydd gan pobl ei eisiau – eisiau’r rhif ffôn cywir er mwyn cael cysylltu â’r meddyg go iawn.

Daw ambell i alwad arall wedyn ar gyfer adeilad arall yn y dref – sorting office y Swyddfa Bost. Does dim rhyfedd fod pobl yn galw’r rhif yma – dyma hen rif y sefydliad hwnnw! Ond dim mwyach. Mae pobl yn holi am ail-gyfeirio llythyrau o hen gyfeiriad i gyfeiriad newydd – a drwy lwc roedd deiliaid y Mans wedi symud ac yn gwybod at beth yr oedden nhw’n ei gyfeirio ato! Sylweddolwyd fod y person pen arall angen siarad â swyddog yn y Swyddfa Bost er mwyn cael datrys ei ymholiad. Dyma felly ei roi ar ben ffordd. Ple gwell gewch chi mewn bywyd nag Eglwys Iesu Grist ar gyfer ail-gyfeirio eich bywyd i’r cyfeiriad iawn? Sorting office go iawn oedd y person ben arall y ffôn ei eisiau.

Daeth un alwad arall y dydd o’r blaen. ‘Kwik-Fix sy ’na, ie?’ Roedd hwn ar frys, dim amser ganddo i wrando. Roedd yn rhaid iddo gael trin ei gar gynted â phosibl. Doedd hi ddim yn glir beth oedd yn bod hefo’r car na beth oedd angen ei wneud. Rhaid i ni beidio â meddwl am yr Eglwys fel rhywle ar gyfer quick fix. Nid fel ’na mae Duw yn gweithio – does ganddo ddim ffon hud na geiriau hud i wella pethau jyst fel ’na. Roedd ganddo fo eisiau rhywun fydde wedi gallu gwneud rhywbeth ar ei union iddo fo. Roedd o angen Mr Fix-it go iawn.

Ond gan bwy mae’r pethau ‘go iawn’ yn y diwedd? Tybed a ydym ni’n cysylltu ar y direct line yn ddigon aml?

Menai

 
I frig y tudalen.

I frig y tudalen.

MORLAN

Rwyn siwr fod aelodau Capel y Morfa i gyd wedi sylwi fod pethau yn symud yn gyflym yn awr gyda’r ail-adeiladu ar safle Neuadd Bethseilun. Hyd yma, fe’n daliwyd yn ôl am nifer o resymau ond yn y ddeufis diwethaf roedd dipyn wedi bod yn digwydd o fewn yr hen Neuadd ac o’r golwg. Erbyn hyn mae’r datblygiad yn llawer mwy gweladwy fel y gwelir yn y llun uchod - a gobeithiwn yn awr bydd mwy i’w weld o ddiwrnod i ddiwrnod. Gyda lwc, bydd y gwaith yn mynd yn ei flaen yn llwyddiannus o hyn allan ac y bydd popeth yn ei le yn fuan yn y flwyddyn newydd. Ond mae ochr olau hefyd – er pob oediad mae lle i feddwl bydd yr adeilad gorffenedig yn well o aros.

Mae amser cyffrous o’n blaenau o hyd ar yr ochr adeiladu. Y gwaith o ddewis dodrefn addas – hyd yn oed penderfynu ar liwiau derbyniol i’r waliau!

Ond rhaid cofio mai cyfrwng yw’r adeilad yn unig ac felly, llawer iawn mwy cyffrous yw cael meddwl am y defnydd a fydd yn y dyfodol o’r adeilad yng ngwaith y Morlan. Yn arbennig felly am y cyfle newydd mae’n ei roi i ni yng ngwaith cenhadol Capel y Morfa yn lleol ac yn fwy eang. Dyna oedd yn ein hysgogi yn fwy na dim wrth wynebu bob problem gododd dros y blynyddoedd diwethaf yma.

Gobeithio y bydd mwy i’w adrodd ymhen mis.

Alun Morris

Yr ydych yn siwr o fod yn cofio y bydd dau wasanaeth arbennig ynglyn â'r Morlan - un ar Hydref 10ed.(bore) a'r llall ar Dachwedd 7 (hwyr).

Pwrpas y gwasanaeth ym mis Hydref fydd i'n hatgoffa o sylfaen genhadol y Morlan ac i weld y datblygiad hwn yn ein hanes fel eglwys yn rhan o bwyslais sydd i'w weld yng ngwaith yr eglwys drwy'r byd. 'Yr eglwys ddifuriau' yw thema'r gwasanaeth. Nid yn ddifeddwl nac yn ddigyfeiriad yr ydym wedi symud ymlaen gyda'r Morlan ac fe fydd llawer eto i'w ddweud a'i drafod wrth i ni wynebu'r dyfodol.

Yr ydym yn ymwybodol fod amser maith wedi mynd heibio ers i ni ddechrau ymwneud â chenhadaeth y Morlan ac yr ydym i gyd angen cael ein hatgoffa a'n hysgogi unwaith eto wrth i'r gwaith fynd yn ei flaen ar yr adeilad. Y mae'n ymddangos y bydd y gwaith wedi ei gwblhau cyn diwedd Ionawr ac fe allwch ddychmygu fod pwyllgorau'r Morlan yn gweithio'n galed iawn yn ystod yr wythnosau yma.

Thema'r gwasanaeth ar Dachwedd 7 yw 'Agor drysau, cynnig cyfle: Morlan a Chapel y Morfa'. Fe fydd cyfle i fanylu ar y berthynas rhwng Capel y Morfa a'r gwaith yn y ganolfan.

Yr ydym yn gofyn yn daer iawn am i chwi wneud pob ymdrech i fod yn y gwasanaethau hyn er mwyn i bawb gael meddiannu a gwybod yn iawn beth sy'n digwydd.

Pryderi

Morlan - Medi 2004

I frig y tudalen.

CERDDED GYDA'N GILYDD: CAPEL Y MORFA A THAIR EGLWYS

Yr ydym wedi cyfeirio eisioes yn yr addoliad ac yn Perthyn Awst i ni gael gwahoddiad fel eglwys i fod yn rhan o ddatblygiad cenhadol pwysig gan CWM. Yr ydym yn mynd i fod yn rhan o ddatblygu perthynas agos â thair eglwys arall: un yn Tuvalu, un yn Zambia ac un yn India (nid y cysylltiad arferol Cymreig ag India, ond Eglwys Gogledd India) Y gobaith yw creu perthynas glos er mwyn dod i adnabod ein gilydd ac ymhen tua 2 flynedd i gyfarfod ein gilydd yn yr Iseldiroedd (CWM fydd yn talu'r costau). Mae'n gynllun newydd ac yn llawn posibiliadau.

Fe fydd llawer iawn o'r cysylltu yn cael ei wneud ar e-bost ac ar y we. Felly dyma gais pwysig :

A os oes rhywrai (unigolion neu deuluoedd) a hoffai gynnig eu gwasanaeth i hybu'r prosiect yma yna cysylltwch â'r Bugail AR UNWAITH. Yr ydym angen tua 15 o bobl o wahanol oedran, os yn bosibl. Yn y cysylltiadau yma - y mae Cymru a CWM yn dibynnu arnom!

Pryderi

I frig y tudalen.

I frig y tudalen.

I frig y tudalen.

YR YSGOL SUL

Diolch! Diolch!

Ar y Sul cyntaf o Fedi, dechrau tymor yr Ysgol Sul, fe gawsom gyfle i werthfawrogi cyfraniad dwy athrawes Ysgol Sul a roddodd (rhyngddynt) bron i 70 o flynyddoedd o wasanaeth! Ar ôl ugain mlynedd y mae Jean Davies wedi ymddeol fel athrawes y plant ieuengaf. Mae ei chyfraniad tawel, dibynadwy, ymarferol ac - yn fwy na dim - ffyddlon, wedi bod yn rhan allweddol o ddatblygiad a thwf yr Ysgol Sul yn ystod y blynyddoedd diweddar. Roedd Jean yn dod a sefydlogrwydd tawel i waith yr Ysgol Sul. Yr ydym yn falch iawn ei bod yn gwella ac yn diolch i Dduw am hynny ac am ei chyfraniad.

Mae Megan Nantlais Williams wedi ymddeol ar ôl bron iawn i hanner can mlynedd ddi-dor. Mae argyhoeddiad a gallu a gofal bugeiliol mawr Megan wedi bod yn ddylanwad tawel ond sicr yn yr Ysgol Sul ac ym mywyd yr eglwys. Ychydig sy'n ymwybodol efallai fod Megan wedi bod yn aelod ffyddlon o ddosbarth Ysgol Sul yr oedolion yn ogystal â bod yn athrawes ei hun. Mae hynny yn profi ei bod hi ei hun yn gweld yr angen i gael ein hadeiladu yn y ffydd trwy'r Gair, nid yn unig pan yn blant, ond pan yn rhieni ac yn oedolion ac yn athrawon ein hunain! Fe fydd Megan yn parhau yn athrawes 'wrth gefn'.Yr ydym yn diolch iddi hithau am ei harweinaid a'i hesiampl, ei hymroddiad a'i llawenydd yng ngwaith yr Arglwydd.

Ni fyddai Jean na Megan yn disgwyl clod na diolch. Ond diolch i Dduw yr ydym am i ni gael dwy athrawes sydd wedi cyfrannu cymaint i fywyd eglwys Iesu Grist yn ein plith.

Yn yr un gwasanaeth cawsom gyfle i gyflwyno pawb sydd ynglyn â gwaith gyda phlant a phobl ifanc, ac i ddiolch iddynt ac i'r rhieni am eu cyd-weithrediad.

Athrawon Ysgol Sul: Gwenan Creunant (Arolyges), Menai Lloyd Williams, Llinos Bonsall, Eleri Davies, Sian Davies, Bethan Davies, Tegwen James, Non Walters, Ann Hawke, Arwel Jones, Jeremy Turner, Jim O'Rourke, Deian Creunant, a Rota Rhieni i'r plant lleiaf un. Oedolion: Brynley Roberts. Athrawon cynorthwyol: Megan Nantlais, Marlene Gealy, Anna Williams, Mary Jones Morris. Ysgrifennydd: Bethan Thomas. Trysorydd: Wyn Hughes. Mae angen merch gyda'r tîm o athrawon ieuenctid.

Yr ydym hefyd yn diolch ac yn dymuno'n dda i athrawon y plant yn Ebeneser, sef Rhiannon, Gwladys a mari, ac am eu ffyddlondeb dros y blynyddoedd.

Daeth llythr o ddymuniadau da a diolch gan Jen Ebenezer sydd bellach wedi symud i'r Bont. Rydym yn dymuno'n dda iawn iddynt.

Arweinyddion Clwb Hwyl Hwyr: Eirwen Jones a Mary Jones Morris. Mae angen mawr am rai i gynorthwyo ar brynhawn Llun yn gyson neu o dro i dro. Beth am bobl ifanc? Neu rai o'r rhieni?

Arweinyddion y Clwb Ieuenctid : Wyn Hughes a David Harris. I sicrhau parhad y clwb mae'n rhaid cael mwy o enwau ar rota y cynorthwyr. A ydych yn barod i roi dwy awr un nos Wener y mis ? Dyma'r trydydd gwaith i ni wneud yr apêl hon, ond does neb wedi ymateb.

I frig y tudalen.

I frig y tudalen.

POBL Y MORFA


Priododd Hywel a Julie yn America cyn y Nadolig 2002. Un o Aberystwyth yw Hywel, mab Celia ac Alun Jones, ac mae'n gweithio yn y Llyfrgell Genedlaethol. O'r Unol Daleithau y daeth Julie, o Statesboro, Georgia, lle bu'n gweithio fel archifydd yn llyfrgell Georgia Southern University. Mae hi wrth ei bodd yn Aberystwyth, ac yn hoffu cerdded y prom. Beth am dywydd Cymru? Neis iawn, medda hi - a'r glaw yn arbennig (mae sychder ers pum mlynedd yn Georgia).

Daeth ei rhieni draw yn ddiweddar, a mwynhau gwasanaeth yn y Morfa. Er gweitha'r broblem ieithyddol, roeddent yn gallu dilyn y gwasanaeth, a mwynhau'r canu a'r organ. Mae Julie yn dysgu Cymraeg. Bu ar gwrs Wlpan pedair wythnos ym mis Awst.

I frig y tudalen.
 

I frig y tudalen.

GWEDDI

Arglwydd, rhoddwr bywyd,
hiraethwn am i ti ymweld mewn grym â'th eglwys,
i'n rhyddhau o bob llesgedd ac anobaith,
i'n codi o bob difaterwch a'n diwygio,
i'n tywys i gytgord â'th fwriadau di,
i'n bywhau ag anadliadau dy Ysbryd,
ac i'n hadfywio i gyflawni dy genhadaeth yn y byd.
Rho i ni hyder yn ein tystiolaeth
a gorfoledd yn ein haddoliad. Amen.

Ti, Lefarwr ac Anfonwr y Bywiol Air,
trown atat gyda diolch yn ein calon
am i Ti ddweud yn glir wrthym amdanat Dy hun.
Rhoist i ni dy feddwl a'th ewyllys yn y Gair,
a hwn yw trysor ein Ffydd:
Mae'n agor ffenestri'r deall
Mae'n curo wrth ddrws ein calon
Mae'n gosod sylfaen i'n byw.
Mae'n ein perswadio a'n hargyhoeddi
Mae'n ein ceryddu a'n barnu.
Mae'n ein goleuo mewn tywyllwch
Mae'n ein nerthu mewn gwendid
Mae'n ein cysuro mewn tristwch
Mae'n dweud yn fendigedig amdanat,
ac am Iesu a'i farwol glwy
Mae'n cryfhau'n ffydd a gloywi'n tystiolaeth.

Cynorthwya ni i drysori'r Gair,
nid i'w osod yn ofalus o'r neilltu,
ond i'w roi yng nghanol ein bywyd.
Yn enw Iesu Grist,
y Gair a wnaethpwyd yn gnawd. Amen.


I frig y tudalen.

DYDDIADAU I'W COFIO

Digwyddiadau Mis Hydref ...

Dydd Sul, 3 Hydref
Gw^yl Diolchgarwch yr Eglwys ac Apêl Bara i'r Byd
Bore: Gwasanaeth dan arweiniad y plant a'r ieuenctid
Hwyr: Torri bara a thywallt gwin

Bore Mawrth, 5 Hydref, 10.30 a.m.
a phrynhawn Mercher, 6 Hydref, am 2.30
Cyfarfodydd gweddi

Nos Fawrth, 5 Hydref, 7 p.m.
Gwasanaeth yn Ebeneser
Pregethir gan y Parch. Gwyn Morgan, Llanrhystud

Dydd Sul, 10 Hydref, 10 a.m.
Morlan : yr eglwys ddifuriau
Seiliau cenhadol y Morlan, dan arweiniad
Bwrdd Rheoli Morlan

Dydd Sul, 10 Hydref, 6 p.m.
'I achub hen rebel'
Gwasanaeth o fawl i ddathlu 1904,
wedi ei llunio gan Rhidian Griffiths

Nos Iau, 14 Hydref, 7pm, y Llyfrgell Genedlaethol
'I achub hen rebel'
Noson wedi ei threfnu i aelodau Capel y Morfa yn unig: cawn weld yr arddangosfa a chawn weld y fersiwn llawn o'r rhaglen wych 'Nefol Dân' yn y Drwm dan arweiniad
Rhidian Griffiths ac aelodau eraill o staff y Llyfrgell

Nos Iau, 21 Hydref, 7.30 yng Nghapel y Morfa
Cwmni Cefn Coed, Pontyberem yn cyflwyno
Proffwyd y Ffordd dd-drais
Rhaglen deyrnged i'r diweddar D.R. Thomas, a gyflwynwyd yn Eisteddfod Casnewydd
Wilbur Lloyd Roberts, Alma Roberts, Caradog Evans, Aled Edwards (unawdydd), Alan Fewster (cyfeilydd). Gw^r gwadd: David Morris cyn-AS Ewropeaidd.
Pris tocyn (wrth y drws) £3

Nos Fercher, 27 Hydref, 7 p.m. yn festri Capel y Morfa
'Yr Eglwys yn yr unfed ganrif ar hugain'
Yr Athro Elwyn Richards yn rhoi rhagflas o'r cyrsiau hyfforddi fydd yn cael eu cynnal y flwyddyn nesaf. Bydd hwn yn gyfarfod i arweinwyr eglwysi'r Henaduriaeth.

Dydd Sul, 31 Hydref, gwasanaeth y bore:
Wrth fy modd
Nifer o aelodau yn rhannu yr hyn sy'n rhoi pleser iddynt yng ngwaith yr eglwys ac yng Nghapel y Morfa
Gwasanaeth yr hwyr:
Gwasanaeth ieuenctid yr eglwys a myfyrwyr

I frig y tudalen.

DYDDIADUR HYDREF 2004

GWASANAETHAU'R SUL 10.00 a 6.00

3  Gw^yl Diolchgarwch yr eglwys. Plant yn y bore. Bugail yn Ebeneser a'r cwrdd hwyr.
10 Bugail yn y Morfa. Alun Creunant Davies yn Ebeneser.
17 Parch Meirion Lloyd Davies yn y Morfa ac yn Ebeneser
24 Bugail yn y Morfa ac yn Ebeneser
31 Aelodau'r Eglwys yn y Morfa; Grw^p Tabor yn Ebeneser

YSGOLION SUL

Plant: Bore am 10.00.
Oedolion: ar ôl gwasanaeth y bore

Hwyl Hwyr -nos Lun

Clwb Ieuenctid - nos Wener

CYLCH GWEDDI A CHOFFI

Bore Mawrth am 10.30 yn y Festri

CYMDEITHAS Y MORFA

6 Te i ddathlu Uno. Mrs Enid Phillips a ffrindiau o Gwmcynfelin a Thregerddan (2.30).
11 Noson Agoriadol - Cymdeithas Hebog (7 pm)

CYMORTH CRISTNOGOL

6 Cinio Bara a Chaws yn festri Seion

CYFARFODYDD WYTHNOSOL

Bob nos Iau am 7.00
7   Dim cyfarfod
14 Ymweliad â'r Llyfrgell Genedlaethol
21 Proffwyd y ffordd ddi-drais.
28  Myfyrdod a gweddi.

 
I frig y tudalen.
 

SWYDDOGAETHAU HYDREF 2004

Blaenor y Mis Mr T.L. Thomas
Porthorion Mr Merfyn Davies a Dr Bryn F Roberts, Mr Hefin Jones a Mrs Rhiannon Roberts

Blodau'r Cysegr - Y Morfa
3 Mrs Gwennant Gillespie
10 Miss Gwerfyl P Jones a Mrs Rhiannon Roberts
17 Mrs Jean Davies a Mrs Marlene Gealy
24 Mrs Jenny Evans a Mrs Dilys Thomas (Glyndyl)
31 Mrs Gwladys Adams a Mrs Eileen Jones

Blodau'r Cysegr - Ebeneser
3 Mrs Marie Griffiths
10 Mrs Megan Evans
17 Mrs Clariss Pyle
24 Mrs Sylvia Lewis
31 Mrs Margaret McLaren


Cynorthwywyr Llestri Cymun
3 Mrs Bet Evans, Mrs Gwennant Gillespie, Mrs Eileen Jones, Mrs Maggie Edwards

Cynorthwywyr Ariannol
3 Mrs a Mrs Terry Adams
10 Mrs Beti Roberts a Mrs Blodwen Williams
17 Mrs Miriam Garrett a Mrs Mary Fitter
24 Mr E Meirion Morgan a Mr David Harries
31 Mr D Brian Thomas a Mr David M Evans

Tregerddan
31 Dan ofal Mr Terry Adams a Mr Ieuan M Jones

 
I frig y tudalen.
 
Golygydd y rhifyn hwn yw Laurie Wright a Hywel Lloyd. Gyrrwch gyfraniadau ar gyfer rhifyn mis Tachwedd iddynt erbyn 22 Hydref, os gwelwch yn dda.

Os cewch anawsterau wrth ddefnyddio'r wefan hon, neu os oes gennych unrhyw awgrymiadau neu ddeunydd yr hoffech ei gynnwys ar y wefan, cysylltwch â ni.

Cartref | Dyddiadur | Gweithgareddau | Perthyn | Morlan | Y Byd a'r Betws
Yr Eglwys ar wasgar | Llyfrau | Lle i feddwl | Oriel | Dolenni
 
Diweddarwyd ddiwethaf ar 1 Hydref  2004.
Hawlfraint: Eglwys Bresbyteraidd Cymru neu'r awduron unigol, 2004.

 
Top