Gadael gwefan Capel y Morfa a mynd i wefan Eglwys Bresbyteraidd Cymru.
Tudalen Cartref Capel y Morfa a Manylion Cysylltu, Rhestr Swyddogion, a Mapiau.
Dyddiadur y Capel ac Amserau Gwasanaethau
Gweithgareddau yn y Capel, yr Ysgol Sul, etc.
Perthyn - Misolyn y Capel ac ôl-rifynnau.
Perthyn - y rhifyn cyfredol.
Perthyn - ôl-rifynnau
Morlan
Y Byd a'r Betws - cyfle i drafod gwahanol bynciau.
Yr Eglwys ar Wasgar.
Adolygiadau o Lyfrau.
Lle i feddwl.
Oriel - Lluniau o ddigwyddiadau yn y Capel.
Dolenni i safleoedd perthnasol eraill.

       

 

 
PERTHYN - Y Rhifyn Cyfredol.
 RHAGFYR 2004 / IONAWR 2005
Rhifyn 132

 

CYNNWYS

GAIR GAN Y BUGAIL
NEWYDDION
ANGHYFLEUSTRA HANES
CAROL NEWYDD
RHYWBETH AM DDIM
YMWELIAD AG ISRAEL
O NASARETH I FETHLEHEM
YMWELIAD JOHN BELL O GYMUNED IONA
CERDDED GYDA'N GILYDD
GWEDDI
DEUWN AC ADDOLWN: DYDDIADUR RHAGFYR AC IONAWR
DYDDIADUR RHAGFYR  2004
SWYDDOGAETHAU RHAGFYR  2004

Nia a Rob yn goleuo cannwyl gyntaf yr Adfent gyda chymorth Rhyw Wyn, a fedyddiwyd yr wythnos flaenorol.

GAIR GAN Y BUGAIL

Yn y Cylch Gweddi fore Mawrth yr wythnos hon ( Tachwedd 16 ) fe leisiodd Gwen Job ei hymdeimlad o ddigalondid ac anobaith wrth eistedd gartref ar ei phen ei hun yn edrych ar y newyddion - a'r cyfan iddi hi wedi dod i ben ym marwolaeth erchyll Margaret Hassan yn Irac. Mae 'ar ei phen ei hun' yn bwysig yn y cysylltiadau yma. Yr ydym yn byw mewn dyddiau treisgar a thrist, ansefydlog a bygythiol. Does dim osgoi ar hynny. A does ryfedd fod cymaint yn mynd dan y don.

Ond fe rannodd Gwen ei digalondid mewn cylch cyfeillion ac y mae hynny ynddo'i hun yn llenwi'r gwacter sydd ym mywyd cymaint o bobl na all rannu gofid ar yr aelwyd gydag anwyliaid. Fe fyddai yn dda iawn i ni sydd yn llawn prysurdeb Nadoligaidd gofio mai o'n cwmpas - yn yr eglwys ac yn y gymdeithas - mai llawer iawn o bobl sydd yn byw ar ben eu hunain. Efallai eu bod yn weithgar a'u bywydau yn ymddangos yn llawn, ond y maent ar eu pen eu hunain. Efallai, ar yr wyneb o leiaf, nad yw tlodi eithafol yn gyffredin yn Aberystwyth, ond mae llawn cymaint o bobl ar eu pen eu hunain ag yn unman arall yn y wlad.

Wedi sôn am ei digalondid a'i hanobaith, fe aeth Gwen ymlaen i'n harwain i 'ymdawelu' rhag panig, i ymlonyddu rhag ofn ac i gofio, rhag anobaith, ein bod yn mynd i mewn i dymor goleuni, nid tywyllwch, bywyd, nid marwolaeth. Ystrydeb ai peidio, 'newyddion da o lawenydd mawr' yw'r Nadolig ac o Ramala i Fallujah, o Darfur i Beslan ac o Benparcau i Waunfawr, dyna ein dyhead dyfnaf. Mae Duw yn gwybod ac yn deall hynny a dyna paham mai trwy gyfrwng plentyn a gafodd ei alw yn Iesu ac a dyfodd i rannu y gorau a'r gwaethaf o fywyd hyd at y creulondeb eithaf, y daeth Duw yn ddigon agos atom i ni fedru dweud ' Immanuel'.

NADOLIG LLAWEN IAWN I HOLL AELODAU A THEULUOEDD CAPEL Y MORFA.

Pryderi.

I frig y tudalen.

 
I frig y tudalen.
 

NEWYDDION

Llongyfarchiadau ….

  • i Rocet Arwel ar ymddangosiad ei gyfrol Jambo Caribw, ar yr adolygiadau ardderchog ac am lwyddiant y cyfan - yn arbennig y swm enfawr o £8,000 a gasglodd tuag at Mind ac am fynd i'r drafferth i gyhoeddi enwau'r cyfranwyr i gyd.
  • i Sioned Llywelyn ar gael ei dewis i fod yn aelod o Gerddorfa Blant Prydain - clod ac anrhydedd yn wir. Y clarinét yw offeryn Sioned.
  • i'r ddau dim o'r Ysgol Sul a aeth i gystadleuaeth y Cwis Ysgrythurol dan nawdd Cyngor Ysgolion Sul. Er na fu llwyddiant, fe aeth un tîm ymlaen i'r rownd gynderfynol.

Cofion

  • at nifer o'n haelodau sydd wedi bod yn yr ysbyty yn ddiweddar. Yr ydym yn falch iawn o glywed eu bod i gyd yn gwella erbyn hyn: Elwyn Hughes (Dinas Terrace), Eirwen Lewis (Maesceinion ), Emrys Jones (Gerddi Rheidol ) a Jac Isaac (Ebeneser) a Megan Creunant Davies (Maes Lowri)
  • Y mae John Evans bellach wedi symud i Gartref Bridell yn Aberteifi ac yr ydym yn anfon ein cofion ato.

DEleri yn cael help i esbonio am waith yr Ysgol Sul

I frig y tudalen.
 

I frig y tudalen.
 

ANGHYFLEUSTRA HANES

Dyna deitl arddangosfa o ffotograffau dirdynnol yr enwog John Keane fydd i'w gweld yng Nghanolfan y Celfyddydau o ddechrau Rhagfyr i ddechrau Ionawr. Ar ran Cymorth Cristnogol fe fu yn ymweld a Phalesteina ac Israel ac yn cofnodi ei argraffiadau.

Fe fydd John Keane ei hun yn siarad yn y Ganolfan am 5.30 ddydd Gwener Rhagfyr 3 ac yna fe fydd panel a thrafodaeth am 6.30. Os ydych am fod yno rhaid i chi ffonio 622887 i wneud yn siw^r fo lle ar eich cyfer.

I frig y tudalen.
 

RHYWBETH AM DDIM

Un o brif gylchgronau Cymru yw'r Traethodydd. Mae'n anodd meddwl am unrhyw gylchgrawn Cymraeg arall sy'n ymdrin â'r fath amrywiaeth o bynciau a syniadau, a hynny mewn ffordd sydd yn ddealladwy i rai heb fod yn arbenigwyr yn y meysydd hyn.

Yn ystod 2004 cafwyd yn y cylchgrawn un o'r ychydig drafodaethau gwrthrychol ar oblygiadau ymarferol sefydlu 'coleg ffederal' Cymraeg, erthygl a ddenodd lawer o sylw gwerthfawrogol; erthyglau ar Fedyddwyr Cymraeg America a chaethwasiaeth a golwg newydd ar agwedd Samuel Roberts (SR) at genedligrwydd Cymreig a'r Gymraeg - dwy erthygl a oedd yn gwneud i rywun deimlo'n ddigon annifyr; yr oedd yn rhaid sôn am ddiwygiad 04-05, ond dan y teitl profoclyd 'Dadfythu "Diwygiad Evan Roberts"'; ac yn rhifyn cyfredol y mae erthygl yn holi pa mor ffeithiol gywir a dibynadwy yw 'atgofion' llenorion. Detholiad yw'r rhain, wrth gwrs, ond digon i ddangos fel y mae Y Traethodydd yn dal i gyflwyno syniadau newydd ac yn peri inni ailystyried. Dyna sydd yn nodweddiadol o erthyglau athronyddol a diwinyddol y cylchgrawn hefyd, fel y gwelwyd yn nhrafodaethau Walford Gealy a Meirion Lloyd Davies, neu John Tudno Williams a Pryderi Llwyd Jones.

Bydd erthyglau yn rhifynnau 2005 ar R S Thomas, golwg newydd ar ddameg y Samaritan trugarog, ambell erthygl wyddonol, gan gynnwys un gan Iwan Morus, a llawer mwy. Gwledd o ddarllen bob chwarter. Cewch ragor o wybodaeth am gynnwys ôl rifynnau o edrych ar www.ebcpcw.org.uk a chysylltu â 'cyhoeddiadau, traethodydd'.

COFIWCH: OS TANYSGRIFIWCH AR GYFER 2005 YN AWR, FE GEWCH RIFYN HYDREF 2004 AM DDIM.

Y mae ffurflen tanysgrifio ar y bwrdd Stondin Lyfrau yn y capel.

 
I frig y tudalen.

YMWELIAD AG ISRAEL

Torrodd y wawr dros fynyddoedd y Golan, a dawnsiau goleuni'r haul ar fôr Galilea. Sefais ar oriel y gwesty yn syllu ar yr olygfa ryfeddol hon. Allan ar y môr roedd cwch wedi bwrw angor, a physgotwr unig yn bwrw ei rwyd i'r dyfroedd. Roedd hon yn olygfa nad oedd wedi newid ers dyddiau Iesu Grist, ac yn sicr un yr oedd Ef mor gyfarwydd a'i gweld. Rwy'n falch fy mod innau wedi cael y fraint o fod yno, gan ei bod wedi rhoddi cyweirnod effeithiol i'm hymweliad ag Israel.

Cyn ymadael ag Aberystwyth gofynnwyd i mi gan Pryderi i nodi tri lle a adawodd argraff arnaf yn ystod y daith. Ar ôl pendroni am amser deuthum i'r casgliad mai'r tri lle canlynol oedd yn sefyll allan.

1) Megiddo. 2) Masada. 3) Mynydd yr Olewydd.

1. Megiddo

Saif Megiddo yng Ngalilea, i'r de-ddwyrain o ddinas boblog Haifa, ac ar ben ffordd fynyddig i'r gorllewin o ddyffryn hardd Jesreel-Esdraelon. O's safle hwn medrir gweld holl harddwch y dyffryn enfawr islaw, sydd yn fasged fwyd i wlad Israel. Yn y Testament Newydd cyfeirir at Megiddo yn Llyfr y Datguddiad fel y fan y bydd brwydr olaf y byd yn cael ei wireddu. Bwydr fydd hon rhwng Gallu'r Goleuni a Gallu'r Tywyllwch - sef Iesu Grist a Satan. Yno yr un pryd a ni roedd grw^p o Americanwyr yn ymweld â'r lle a chawsom y profiad unigryw o gydganu Gweddi'r Arglwydd. Yn dilyn hyn chwythwyd utgyrn soniarus gan yr Americanwyr Mesianaidd nes bod y dyffryn islaw yn atseinio. Rwy'n siw^r bod milwyr y Syriaid yn nhref Kuinetra yn y dyffryn wedi cael dipyn o sioc i glywed hyn. Dywedodd Youfal ein harweinydd hanes diddorol wrthym am ddigwyddiad rhyfedd a ddigwyddodd rai blynyddoedd cynt yn ardal Megiddo. Roedd tanciau rhyfel y Syriaid wedi torri drwy amddiffynfa yr Israeliaid, ac aethant ymlaen ar hyd y ffordd i lawr am dref Tiberias. Ond yn rhyfedd iawn troesant yn eu holau cyn cyrraedd yno ac ildio i'r Israeliaid. Dywedodd arweinydd y Syriaid eu bod wedi gweld cwmwl bychan ar ffurf llaw yn yr awyr yn eu hatal rhag myned yn eu blaen. Rhyfedd yw ffordd yr Arglwydd wrth amddiffyn Ei bobl. Yn yr ardal hon hefyd y saif Mynydd Carmel, lle sydd mor adnabyddus i ni fel y fan yr enillodd Elias y frwydr yn erbyn proffwydi Baal gan brofi pwy yw y gwir Dduw.

2. Masada

Mae Masada wedi ei leoli yn niffeithwch Jiwdea, ac mae i'r graig anferth hon le amlwg yng nghalon pob Iddew. Adeiladwyd ei amddiffynfeydd gan Herod Fawr yn y flwyddyn 36 BC. Mae maint y graig yn 20 acer, ac oddi mewn ac arni fe adeiladodd y brenin dri phalas, y mwyaf o'r rhain ar yr ochr ogledd-ddwyrain. Cloddiwyd ogofau dwfn i ddal dwr a oedd yn cael ei sianelu o'r ceunant gerllaw, ac roedd yno hefyd ystorau enfawr i gadw bwyd. Ar ôl cwymp Jerusalem yn y flwyddyn 70 AD aeth mintai o Iddewon gwladgarol, sef y Delotiaid, o dan eu harweinydd Eleasar Ben Yai i Masada i gario'r frwydr ymlaen yn erbyn y Rhufeiniaid. Yn y flwyddyn 72 AD daeth Flavius Silva, ar ôl concro Qumran, i ymyl craig Masada. Am fisoedd lawer ceisiodd y Rhufeiniaid gipio'r lle, ond methu fu eu tynged. Yna adeilasant ramp o gerrig a phridd nes cyrraedd uwchlaw copa'r graig, (ac mae'r rhan fwyaf o'r ramp yn dal yno hyd heddiw). Ar ôl gwneud hyn dechreuasant losgi amddiffynfeydd y Selotiaid. Yn gweld y diwedd yn agosáu casglodd Eleasar ei ddynion at eu gilydd, ac anogodd hwy i ladd eu teuluoedd yn hytrach na bod yn gaethweision i'r Rhufeniaid. Dewisodd ddeg dyn drwy fwrw coelbren, ac fe gyflawnwyd y gyflafan erchyll. Yna lladdwyd y deg gan Eleasar, a syrthiodd yntau ar ei gleddyf, a bu farw. Ar ôl torri trwodd i gopa'r graig a gweld y gyflafan, roedd y Rhufeiniaid wedi rhyfeddu at ddewrder y Selotiaid, a'u credo diysgog yn y farwolaeth. Ar ôl sefydlu gwladwriaeth Israel bu'r Cadfridog Moshe Dayan yn dod â milwyr ifainc newydd y fyddin i Masada er mwyn iddynt ymdeimlo a dewrder eu cyndeidiau. Mae Masada o hyd yn anfon ei neges ddi-ildio i genedlaethau o Israeliaid.

3. Mynydd yr Olewydd

Un o'r mannau mwyaf cysegredig yn Israel, yn sicr ddigon, yw Mynydd yr Olewydd. Mae'n le sydd yn apelio'n fawr i'r Cristion, nid yn unig am ei harddwch, ond am ei bwysigrwydd ysbrydol. Wrth ddisgyn o gopa'r mynydd cawn ein h'arwain yn syth at Eglwys y Pater Noster. Dyma'r fan y dysgodd yr Arglwydd Iesu Weddi'r Arglwydd i'w ddisgyblion. Mae'r Eglwys yn un hynafol iawn, gyda thabledu o'r weddi mewn gwahanol ieithoedd yn ein h'arwain at y fynedfa. Mae'r weddi yn yr iaith Gymraeg wedi ei lleoli ar y mur tu mewn i'r Eglwys, ac mae hyn yn ei diogelu rhag y tywydd a llawer o elfennau treiglad amser. Yn nes i lawr saif Eglwys y Dominus Flevit. Eglwys fechan hardd ar ffurf deigryn, gyda golygfa panoramaidd yn groes i ddyffryn Cedron o hen ddinas Jerusalem. Yma wylodd Iesu Grist dros y ddinas, yn gwybod beth fyddai ei thynged oherwydd iddi ei wrthod. Ar odre'r mynydd deuwn i ardd Gethsemane ac Eglwys yr Holl Genhedloedd. Dyma i mi oedd uchafbwynt fy ymweliad ag Israel. Yn ymyl yr Eglwys mae yna hen goeden olewydd sydd dros ddwy fil o flynyddoedd oed. Mae'n dal i flodeuo ac i roddi ei ffrwyth yn ei bryd. Roedd hi yno y nos y bu Iesu Grist mewn poen a gwewyr yn gweddïo ar ei Dad, nes bod Ei chwys fel dafnau cochion yn syrthio ar y llawr (trueni na fuasai hi yn medru siarad). Tu mewn i'r Eglwys mae yna graig anferth yn ymyl yr allor lle y gweddïodd ein Harglwydd, ac o amgylch hon y gwnaethom ninnau benlinio ac offrymu ein gweddïau. Roedd pawb ohonom wedi teimlo presenoldeb Iesu Grist yno gyda ni, ac nid anghofiaf fyth y profiad gogoneddus hwnnw.

Ydi, mae troedio llwybrau gwlad yr Israel yn donic i'r enaid, ac mi af yn ôl eto yn fuan os bydd Duw yn caniatáu.

Dafydd Morgan Evans

I frig y tudalen.

I frig y tudalen.

CAROL NEWYDD

Daw'r gerdd hon o Nadolig y Plant, casgliad newydd sbon o farddoniaeth Nadoligaidd a olygwyd gan Myrddin ap Dafydd.

Noswyl Nadolig

Mae seren i bob baban heno
A'i gwên hi yng nghalon pob mam,
Am mai hon sydd yng nghannwyll pob llygad
A'i chariad yw'r golau'n y fflam.

Mae bugail i bob oen bach heno
A chorlan i'w gadw yn glyd,
Ac ar noson fel heno rwy'n gwybod
Bod y doeth yn credu o hyd.

Ac os oes 'na Herod yn rhywle
Yn aros am gyfle i ladd,
Mae lletywr yn rhywle arall
Yn barod â stafell i'n gwadd.

A heno yng nghysgod pob coeden,
Mae 'na anrheg dan foncyff praff
Yn disgwyl am rywun i'w ffeindio,
A'i dderbyn, a'i gadw yn saff.

Ac ond i ti agor dy lygaid
Fe gei di yr anrheg, cred fi,
Wedi'i lapio yn dynn mewn cadachau
Yn aros am rywun fel ti.

Mereid Hopwood

I frig y tudalen.

Plant yr Ysgol Sul a'u masgiau Calan Gaeaf

I frig y tudalen.

I frig y tudalen.

O NASRETH I FETHLEHEM

Fel y clywsom y Sul yr oedd Jeff Williams yn pregethu yng Nghapel y Morfa (Tachwedd 14 ) fe fydd ef ac Anna Jane yn cerdded o Nasareth (Gwynedd) i Fethlehem (Sir Gâr) - pellter o 120 o filltiroedd - i godi arian i Apêl Nadolig Cymorth Cristnogol ( Plentyn Bethlehem ). Fe fyddant yn cerdded o Dre'r Ddol i Lanilar ar Ragfyr 16 ac yn galw i weld Arddangosfa John Keane tua 4.30. Os hoffech eu noddi rhowch wybod i Alun Morris, os gwelwch yn dda.

I frig y tudalen.

I frig y tudalen.

YMWELIAD JOHN BELL O GYMUNED IONA


Nos Fercher Ionawr 19 am 7.00 yng Nghapel y Morfa.

Dyma un o nifer o ddigwyddiadau sydd wedi eu trefnu yn arwain tuag at agor y Morlan.

Mae John Bell yn un o arweinyddion proffwydol yr eglwys yn ein dyddiau ni :sylfaenydd y Wild Goose Worship Group sydd wedi cael cymaint o ddylanwad ar addoli cyfoes; yn ddiwinydd o bwys rhyngwladol; yn siaradwr blynyddol yn Gw^yl Greenbelt; yn arweinydd dylanwadol yn yr Alban ac yn y gwledydd Celtaidd eraill.

Peidiwch â cholli'r cyfle yma i'w gyfarfod ac i wrando arno.Mae'n siaradwr grymus iawn.

I frig y tudalen.
 

CERDDED GYDA'N GILYDD

Fel rhan o'r rhaglen Cerdded Gyda'n Gilydd yr ydym fel eglwys yng Nghapel y Morfa wedi ein cysylltu ag eglwysi yn Sambia,Delhi Newydd ac Ynys Twfalw. Y mae'r rhaglen eisoes wedi ei lansio mewn dau wasanaeth a thrwy Perthyn. Y mae gwybodaeth am Gapel y Morfa a chyfarchion wedi eu hanfon at yr eglwysi hyn a derbyniwyd llythyrau trwy e-bost o India a Sambia. Yr ydym hefyd yn sefydlu tudalen arbennig ar www.capelymorfa.org. Mae'r grw^p sydd yng ngofal y cynllun eisoes wedi cyfarfod ac etholwyd y swyddogion canlynol :

  • Cadeirydd : Auriel Fenton.
  • Is-gadeirydd : Rhys Jones.
  • Ysgrifennydd : Eleri Davies.

Yr enwau eraill yn y grw^p ( hyd yma ) yw Hywel a Julie Jones a Siân Donelly ond fe fydd rhai eraill yn cael gwahoddiad wrth i'r rhaglen ddatblygu.

Y cam cyntaf fydd casglu gwybodaeth a lluniau gan pob grw^p yn y capel a'u hanfon i'r eglwysi eraill trwy gyfrwng ein gwe fan ac e bost. Mae Siân a Steve Donelly a Phil Garratt wedi cytuno i greu arddangosfa Cerdded Gyda'n Gilydd fydd hefyd yn tyfu tros y misoedd nesaf.

Eleri Davies.

I frig y tudalen.

GWEDDI

Cyflwynwn i ti, Arglwydd, ein moliant a'n diolch,
am ystyr a llawenydd yr w^yl ryfeddol hon.
Diolch i ti am genadwri'r Nadolig
am dduwdod yn plygu at ein gwendid ni;
am fawredd yn amlygu ei hun mewn gostyngeiddrwydd;
am rym achubol mewn baban diymadferth.
Diolch i ti am lawenydd y Nadolig:
am newyddion da i'w dathlu;
am garol a chân i seinio'n clod,
am bob mwynhad a gawn yng nghwmni'n gilydd.
Diolch i ti am ysbryd y Nadolig:
am garedigrwydd a sirioldeb;
am y boddhad o roi a derbyn;
am haelioni a hwyl, am gwmni a gwledd.
Diolch i ti am her y Nadolig
am y geni mewn tlodi sy'n herio'n bywyd goludog;
am y gwyleidd-dra sy'n cywilyddio'n balchder;
am y tangnefedd sy'n ceisio lle yn ein calonnau.

Cyflwynwn i ti, O Dduw, ofidiau a helyntion dy blant
a phawb sydd mewn angen y Nadolig hwn.
Gwared ni rhag anghofio ynghanol ein digonedd
y cleifion a'r cystuddiol,
y tlawd a'r newynog,
yr unig a'r trallodus.
Tywys hwy at y Crist a ddaeth i'r byd
i weini wrth y llesg a'r gwan.
Cymorth ni i wrando ar gân yr angylion
ac i geisio tangnefedd ar y ddaear:
tangnefedd rhwng cenhedloedd a phobloedd;
tangnefedd yn ein perthynas â'n gilydd;
tangnefedd yn ein cartrefi ac yn ein calonnau.
Amddiffyn y rhai sy'n annwyl gennym
a'r rhai sydd ymhell oddi cartref,
a dyro inni oll y Nadolig hwn
ddedwyddwch a llawenydd dy bresenoldeb;
trwy Iesu Grist ein Harglwydd. AMEN.


I frig y tudalen.

DEUWN AC ADDOLWN...


Uchelbwyntiau addoli'r Nadolig ...

Dydd Sul, 12 Rhagfyr, am 6 p.m.
Gwledd o Garolau
gydag Euryn Jones (Arweinydd), Mary Jones Morris (Organ),
Côr Pantycelyn a Chôr ABC

Dydd Sul, 19 Rhagfyr, 5 p.m.
Plentyn Bethlehem

Gwasanaeth Nadolig plant ac ieuenctid

Dydd Nadolig am 10 a.m.
Dathlu a rhyfeddu ar fore'r geni
Oedfa i'r teulu cyfan
a chroeso arbennig i fabanod (o `enau plant bychain')
ac i'r plant sydd gartref dros y Nadolig

Digwyddiadau eraill yn dathlu'r Nadolig

Nos Lun Rhagfyr 6 am 7.00
Y Gymdeithas yn dathlu
yng nghwmni'r Parchedig Andrew Lenny a Pharti Dai Griffiths

Dydd Llun Rhagfyr 13
Parti Nadolig Hwyl Hwyr

Nos Fercher Rhagfyr 15 am 7 i gael ychydig o ymarfer, ac yna
Canu Carolau o gwmpas y dref i godi arian at elusennau lleol
(Trefnwyd gan rieni ifanc ac ieuenctid, ond croeso i bawb)


Nos Wener Rhagfyr 17
Parti Nadolig Ieuenctid

Nos Fawrth Rhagfyr 21ain. o 5.00 - 7.00
Parti Nadolig yr Ysgol Sul
yng Nghanolfan y Waun.

Nos Fercher Rhagfyr 22ain.
Swper Nadolig y Blaenoriaid
Digwyddiadau Ionawr.

Dydd Calan , Ionawr 1af, Sadwrn, am 10.30
Gwasanaeth hanner awr i groesawu'r flwyddyn newydd -

ac yna, cerdded y prom.

Cynhelir dau gyfarfod gweddi dechrau blwyddyn :
Bore Mawrth, Ionawr 4ydd. am 10.30
Nos Iau, Ionawr 6ed. am 7.00

Wythnos Weddi am undeb Cristnogol Ionawr 15-23
Dydd Sul Ionawr 23ain.
Bore Y Parchedig Tim Morgan a'r Bugail yn 'newid pulpud'
Hwyr Oedfa Undebol ddwyieithog gyda Paul Mais,
Cyfarwyddwr Cenhadol Byddin yr Iachawdwriaeth
yn pregethu.

Nos Wener 21 Ionawr 2
Swper rhieni yr Ysgol Sul yn y Richmond.

I frig y tudalen.

DYDDIADUR RHAGFYR 2004

GWASANAETHAU'R SUL 10.00 a 6.00

 5  Bugail yn y Morfa ac yn Ebeneser. Cymun Hwyr
12 Bugail yn y Morfa ac yn Ebeneser - Bedydd yn y bore
19 Y Bugail (5.00 Plentyn Bethlehem)
     Gwasanaeth y Nadolig yr Ysgol Sul yn Ebeneser
26 10.30 yn unig i Cydganodd sêr y wawr'

YSGOLION SUL

Plant: Bore am 10.00.
Oedolion: ar ôl gwasanaeth y bore

Hwyl Hwyr -nos Lun

Clwb Ieuenctid - nos Wener

CYLCH GWEDDI A CHOFFI

Bore Mawrth am 10.30 yn y Festri

CYMDEITHAS Y MORFA

1  Prynhawn Mercher, Atgofion y Nadolig
6   Nos Lun, Dathlu'r Nadolig gyda'r Parch Andrew Lenny a Pharti Dai Griffiths

CYMORTH CRISTNOGOL

6 Cinio Bara a Chaws gan eglwys Santes Gwenfrewi yng nghanolfan Sant Paul

CYFARFODYDD WYTHNOSOL - bob nos Iau am 7.00

2 Cyfarfod Gweddi
9 Myfyrdod a Gweddi

 

DYDDIADUR IONAWR 2005

GWASANAETHAU'R SUL 10.00 a 6.00

2 Bugail yn y Morfa ac yn Ebeneser. Cymun Bore
  9 Y Parch John Tudno Williams
16 Y Bugail yn y Morfa ac Ebeneser
23 Y Bugail yn y Morfa ac Ebeneser
30 Y Parch Roger E Humphreys

YSGOLION SUL

Plant: Bore am 10.00.
Oedolion: ar ôl gwasanaeth y bore

Hwyl Hwyr -nos Lun

Clwb Ieuenctid - nos Wener

CYLCH GWEDDI A CHOFFI

Bore Mawrth am 10.30 yn y Festri

CYMDEITHAS Y MORFA

Prynhawn Mercher 12 'Pethau Pwysig' - Lionel Madden
Nos Lun 24 (Ebeneser) 'Cenhadu ym Misoram' - Marian Simkins

CYMORTH CRISTNOGOL

10 Cinio Bara a Chaws yn y Morfa

CYFARFODYDD WYTHNOSOL - bob nos Iau am 7.00

6 Cyfarfod Gweddi
13 Myfyrdod a Gweddi
20 Dim Cyfarfod
27 Myfyrdod a Gweddi

I frig y tudalen.
 

SWYDDOGAETHAU RHAGFYR 2004

Blaenor y Mis Terry Adams
Porthorion Dr Rhidian Griffiths a Dr W J Cynfab Roberts, Mr John G Evans a Dr Beryl Cynfab Roberts

Blodau'r Cysegr - Y Morfa
5 Mrs Kathleen Evans
12 Mrs Edna Jones
19 Yr Ysgol Sul
26 Yr Ysgol Sul

Blodau'r Cysegr - Ebeneser
5 Mrs Denise Morgan
12 Mrs Anne Jones
19 Mrs Gwladys Adams
26 Ms Llinos a Rhiannon Hughes

Cynorthwywyr Llestri Cymun
5 Mrs Phyllis Jones, Mrs Eluned Morris,
Mrs Dilys Stephens, Mrs Blodwen Williams

Cynorthwywyr Ariannol
5 Mr a Mrs T L Thomas
14 Mr J G L Evans a Mr Gwynfor Jones
21 Mr Hywel Lloyd a Mrs Glenys James
25 Mr a Mrs Terry Adams

Tregerddan
26 Dan ofal y Bugail

 

SWYDDOGAETHAU IONAWR 2004

Blaenor y Mis Ms Gwenan Creunant
Porthorion Mr Wyn Hughes a Dr Alun Morris, Mrs Mary J Morris a Mrs Eira Williams

Blodau'r Cysegr - Y Morfa
2 Mrs Ethel Williams a Mrs Janet Sutton
9 Mrs Celia Jones
16 Mrs Gwen Job
23 Mrs Dilys Evans a Mrs Eira Williams
30 Dr Beryl Roberts

Blodau'r Cysegr - Ebeneser
2 Mrs Lilian Jenkins
9 Ms Llinos a Rhiannon Hughes
16 Mrs Margaret Morgan
23 Mrs Clariss Pugh
30 Mrs Laura Rumsey-Williams

Cynorthwywyr Llestri Cymun
2 Mrs Morfudd Davies a Mrs Eirwen Jones, Mrs Nesta Jones a Mrs Hefina Davies-Wright

Cynorthwywyr Ariannol
2 Mrs Beti Roberts a Mrs Blodwen Williams
9 Dr a Mrs Alun Roberts
16 Mr Meirion Morgan a Mr David Harries
23 Mr D Brian Thomas a Mr David M Evans
30 Mrs Glenys James a Mrs Miriam Garrett
Tregerddan
30 Dan ofal Mr Iolo Lewis

I frig y tudalen.
 
Golygyddion y mis hwn:  Siân Eleri ac Enid Jones. Cyfraniadau ar gyfer rhifyn Chwefror o Perthyn at Enid Jones, Siân Eleri neu'r Bugail erbyn canol Ionawr os gwelwch yn dda.

Os cewch anawsterau wrth ddefnyddio'r wefan hon, neu os oes gennych unrhyw awgrymiadau neu ddeunydd yr hoffech ei gynnwys ar y wefan, cysylltwch â ni.

Cartref | Dyddiadur | Gweithgareddau | Perthyn | Morlan | Y Byd a'r Betws
Yr Eglwys ar wasgar | Llyfrau | Lle i feddwl | Oriel | Dolenni
 
Diweddarwyd ddiwethaf ar 1 Ionawr 2005.
Hawlfraint: Eglwys Bresbyteraidd Cymru neu'r awduron unigol, 2005.

 
Top