|
|
|
| |

CHWEFROR 2005
Rhifyn 133
John Bell o Gymuned Iona
GAIR GAN Y BUGAIL
Buom yn addoli, yn siarad, yn rhannu, yn gweddïo ac yn cwestiynu yn
nydd y tsunami.
Wedi dathliadau'r Nadolig (a diolch o galon i bawb a fu'n paratoi ac yn cyfrannu
i'r dathlu) cawsom ddyddiau o 'wylio' y drychineb cyn y Sul cyntaf o Ionawr.
Ar y bore - i'n harwain at Fwrdd y Cymun - buom yn myfyrio ar salm 46 : '
...nid ofnwn, er i'r ddaear symud...' a sylweddoli fod y salmydd hefyd, fel
ninnau, yn addoli mewn byd a wyddai beth oedd daeargryn a thrychineb a galar.
Sut mae addoli mewn byd fel hyn? Braf oedd derbyn neges gan Ann (Wyn Griffith)
sydd yn Delhi yn dweud fod Steve,ei gwr, wedi cael ei anfon gan Care
International i weithio yn Sri Lanka. Yn yr hwyr, cynhaliwyd gwylnos, a chyfle
i unrhyw un i rannu meddyliau, gweddïau a darlleniadau. Yn fwy na dim,
yn gyfle i rannu tawelwch. Cafwyd cyfraniadau eithriadol o onest . Fe gafwyd
casgliad arbennig (er nad oedd neb wedi cael rhybudd o hynny) ac ychydig
ddyddiau yn ddiweddarach fe anfonwyd ymhell dros £1000 ( mae'r swm yn
fwy erbyn hyn) er bod llawer wedi rhoi eisoes yn ystod yr wythnos drwy elusennau
eraill.
Yna, fore Mawrth a nos Iau yn yr un wythnos, cawsom gyfraniadau arbennig
iawn gan nifer o bobl ac yr oedd 'addoli yn nydd y tsunami' yn rhedeg drwy'r
cyfan. Y mae detholiad o'r cyfraniadau yn y rhifyn hwn o Perthyn ac yr ydym
yn ddiolchgar iawn i bob un ohonoch ac i rai eraill a ddewisodd i'w cyfraniadau
beidio ymddangos yn Perthyn. Rhan o fraint a gwaith eglwys yw creu'r gofod
a'r cyfle i ni fedru rhannu gyda'n gilydd ym mhrofiadau ein bywyd - y profiadau
cyffredin o ddydd i ddydd ac o wythnos i wythnos, y llawenydd a'r gofidiau,
yn ogystal â'r profiadau mawr dirdynnol, fel y tsunami. Ni lefarodd
neb eiriau hwylus, hawdd nac ystrydebol, ond o edrych yn ôl, hyd yn
oed dros dair wythnos , yr oedd yna ymdeimlad dwfn o gadernid y Duw sy'n
Greawdwr Da ac sydd â'i gariad, fel cariad tad a mam, yn ein cofleidio
yn ein heiddilwch ac yn rhannu ein dagrau a'n gofidiau. Y cwestiwn a ddaeth
yn fwy ac yn fwy amlwg oedd : 'Sut mae Duw am i ni ymateb i drychineb fel
hyn?' Y mae'r ateb yn rhannol i'w weld yn yr haelioni a fu ac yn y gwaith
sydd, ac a fydd am flynyddoedd eto, yn mynd i ymlaen i ail-adeiladau ac i
ofalu. Mae'n gwestiwn i'r cenhedloedd a'r gwleidyddion, i'r crefyddau a'r
crefyddwyr, i gymunedau ac i unigolion. Y mae'r drychineb eisoes wedi mynd
o benawdau'r newyddion ond fe erys y ffaith fod o leiaf 30,000 o bobl yn
marw pob dydd o effeithiau tlodi a newyn yn ein byd. Fe fu farw 10 miliwn
o blant dan 10 oed yn ein byd yn 2003 - y mwyafrif ohonynt o afiechydon y
gellir eu gwella. Mae hynny hefyd yn codi'r un cwestiwn yn union : sut mae
Duw am i ni ymateb i drychineb fel hyn ?
Pryderi. |
 |
Blaenoriaid Capel y Morfa |
|
| |
 |
Llongyfarchiadau
.
-
i Dylan Griffiths a Wendy, Prospect Street ar eu priodas yng Nghapel y Morfa
ar Ionawr 29ain a dymunwn yn dda i Bethan Rees Griffiths (Comins Coch) a
Rhodri a fydd yn priodi yng Nghapel y Morfa ar Chwefror 12ed.
-
hefyd i Aled Lewis (Portland St) a Wendy ar eu priodas yn Eglwys Llanychaearn
ym mis Tachwedd. Fe fydd o ddiddordeb i aelodau Seilo fod Wendy yn or-wyres
i'r Parchedig Dan Evans.
-
i'r Athro Rees Davies, Rhydychen ar gael ei ddyrchafu yn 'Syr' yn anrhydeddau'r
flwyddyn newydd am ei gyfraniad mawr ac unigryw i hanes yr Oesoedd Canol
ym Mhrydain ac yng Nghymru. Anfonwn ein cofion ato ef a Carys, Manon a Prys
gan longyfarch Prys hefyd ar ei briodas yn ddiweddar yng Nghaerdydd.
Ein cofion ...
-
at Miss Luned Powys Roberts, Mrs Greta Jones (Cae Ropos), yr Athro Beverly
Smith, Jennie Evans, Cwmpeilliaid, Beatrice Davies, Hefin Jones a Mr David
Reeves - i gyd naill ai wedi bod neu yn yr ysbyty. Ar hyn o bryd y mae Emrys
Jones mewn Cartref Nyrsio yn Llanymddyfri ac anfonwn ein cofion ato yntau
hefyd. (Gw. Hefyd 'Nodion Ebeneser')
-
at Margaret Williams (Cartref Tregerddan) sydd wedi colli ei chwaer ym Mirmingham
a Megan Nantlais Williams wedi colli chwaer yng Nghaerdydd.
|
Diolch
-
i bawb a gyfrannodd i ddathliadau'r Nadolig a'r flwyddyn newydd
-
i Grw^p Gwaith Llaw Gwen Jones am y rhodd o £370 i Gapel y Morfa yn
dilyn y bore coffi ar Dachwedd 20
-
am eich cyfraniadau i'r canlynol: taith gerdded Cymorth Cristnogol o Nasareth
i Fethlehem: £400; Apêl y Nadolig, Plentyn Bethlehem: £775.10;
Apêl y Tsunami: £1,229.77 (hyd yma)
Bedyddiadau
-
bedyddiwyd Rhys Wyn, mab Nia a Rob Jones, Clos Non a w^yr i Shirley Lloyd
Jones, ar Dachwedd 20ed
-
bedyddiwyd Lly^r, mab Siân a Jonathan Eirug, a brawd i Anest, Coed
y Buarth ar Ragfyr 12ed
Dosbarth derbyn
-
Y mae croeso i bobl ifanc sydd tua 15 - 18 oed (neu yn hy^n) i ymuno mewn
Grw^p/Dosbarth Derbyn i ystyried gael eu derbyn yn gyflawn aelodau o'r eglwys.
Er mwyn trefnu amser hwylus ar gyfer y grw^p y mae'r Bugail yn eich croesawu
i'w gyfarfod yn y swyddfa ym Meth-seilun am 11.15 fore Sul Chwefror 6ed.
|
 |
|
Gwasanaeth Nadolig, 2004 |
 |
| |
|
Defnyddir nwyddau Masnach Deg bellach ym mhob achlysur a gynhelir yn y capel
a'r ydym am gael ein cydnabod fel 'Eglwys Masnach Deg'. Ni allwn, wrth gwrs,
fynnu fod pob aelod a phob aelwyd yn gweithredu hynny hefyd, ond yr ydym
am annog ein haelodau, wrth brynu coffi, te, ffrwythau a llawer o nwyddau
eraill erbyn hyn, i wneud hynny. Y dewis cyntaf yw eu prynu o'r siopau a'r
archfarchnadoedd, ond cofiwch fod gan Traidcraft stondin nwyddau masnach
deg yn y Cinio Bara a Chaws ar y Llun cyntaf o bob mis.
Fel Capel y Morfa, Eglwys Masnach Deg yr ydym am alluogi cymunedau tlawd
i gynllunio gyda hyder ar gyfer y dyfodol a chynorthwyo gweithwyr mewn gwledydd
tlawd drwy sicrhau iddynt amodau gweithio teg. Bwriad arall y cynllun hwn,
a gefnogir mewn nifer helaeth o wledydd, yw ceisio hybu defnydd rhesymol
o adnoddau'r byd a gofal cyfrifol am yr amgylchedd.
(O Gyfarfod y Blaenoriaid)
|
|
 |
| |
|
Un o brif gylchgronau Cymru yw'r Traethodydd. Mae'n anodd meddwl am unrhyw
gylchgrawn Cymraeg arall sy'n ymdrin â'r fath amrywiaeth o bynciau
a syniadau, a hynny mewn ffordd sydd yn ddealladwy i rai heb fod yn arbenigwyr
yn y meysydd hyn.
Yn ystod 2004 cafwyd yn y cylchgrawn un o'r ychydig drafodaethau gwrthrychol
ar oblygiadau ymarferol sefydlu 'coleg ffederal' Cymraeg, erthygl a ddenodd
lawer o sylw gwerthfawrogol; erthyglau ar Fedyddwyr Cymraeg America a
chaethwasiaeth a golwg newydd ar agwedd Samuel Roberts (SR) at genedligrwydd
Cymreig a'r Gymraeg - dwy erthygl a oedd yn gwneud i rywun deimlo'n ddigon
annifyr; yr oedd yn rhaid sôn am ddiwygiad 04-05, ond dan y teitl profoclyd
'Dadfythu "Diwygiad Evan Roberts"'; ac yn rhifyn cyfredol y mae erthygl yn
holi pa mor ffeithiol gywir a dibynadwy yw 'atgofion' llenorion. Detholiad
yw'r rhain, wrth gwrs, ond digon i ddangos fel y mae Y Traethodydd yn dal
i gyflwyno syniadau newydd ac yn peri inni ailystyried. Dyna sydd yn nodweddiadol
o erthyglau athronyddol a diwinyddol y cylchgrawn hefyd, fel y gwelwyd yn
nhrafodaethau Walford Gealy a Meirion Lloyd Davies, neu John Tudno Williams
a Pryderi Llwyd Jones.
Bydd erthyglau yn rhifynnau 2005 ar R S Thomas, golwg newydd ar ddameg y
Samaritan trugarog, ambell erthygl wyddonol, gan gynnwys un gan Iwan Morus,
a llawer mwy. Gwledd o ddarllen bob chwarter. Cewch ragor o wybodaeth am
gynnwys ôl rifynnau o edrych ar www.ebcpcw.org.uk a chysylltu â
'cyhoeddiadau, traethodydd'.
COFIWCH: OS TANYSGRIFIWCH AR GYFER 2005 YN AWR, FE GEWCH RIFYN HYDREF 2004
AM DDIM.
Y mae ffurflen tanysgrifio ar y bwrdd Stondin Lyfrau yn y capel.
|
|
| |
 |
AR DDECHRAU'R FLWYDDYN
Ar ddechrau blwyddyn newydd teimlwn i gyd fel diolch i'n Tad nefol am ei
ofal trosom yn ystod y flwyddyn a aeth heibio. Cawsom ein dysgu ym more oes
mai Ef yw cyfrannwr pob bendithion, mae Ef sy'n trefnu ein dyddiau ac mai
Ef sy'n rheoli'r cyfan.
Daeth y flwyddyn ddiwethaf â llawer o lawenydd i ni, - daeth â
llawer o dristwch yn ogystal. Machludodd dwy fil a phedair ynghanol cyfnod
o drueni a thristwch. Ni fedrwn anghofio trychineb y tsunami a'r miloedd
diniwed a gollodd eu bywydau. Daw'r lluniau a welwn ar y teledu â phaladr
englyn yn ôl i'n cof.
'O ryfedd dorf ddiderfysg y meirwon
A'r gwynion yn gymysg.'
Erfyniaf am drugaredd fy Nghreawdwr wrth i mi fel llawer eraill, ofyn y cwestiwn
Paham? Paham y fath drychineb? Paham y bu'r golled hon?
Y dyddiau yma dathlwn gan mlwyddiant Diwygiad 1904-05. Un a gysylltwn yn
agos iawn â'r Diwygiad yw'r diweddar Barchedig Joseph Jenkins. Erys
un o'i weddïau ar gof gwlad. Collodd fab yn y rhyfel byd cyntaf ac yn
fuan wedi hynny roedd yn gweddïo mewn cyfarfod o'i Henaduriaeth. Heb
amheuaeth roedd mewn tristwch mawr. Darllenaf ei weddi heddiw i mi fy hun
a chaf ryw gysur o'i darllen. Y frawddeg olaf sy'n goron ar y cyfan. Meddai
'Ni wyddom yn iawn paham y gweddïwn arnat, oblegid nid wyt yn ateb ein
gweddïau, o leiaf fyddai di ddim yn ateb fy ngweddïau i. Gofynnais
ganwaith iti gadw'n fyw fy mab sydd wedi ei ladd, ond ni wrandewaist arnaf.
Ond ni ddylwn i ddisgwyl iti ateb fy ngweddïau i oblegid hen bechadur
ar cythrel wyf fi. Ond ni atebaist weddïau ei fam, a thi a blannodd
y rheini yn ei chalon. Ond dyna, mi atebais ti weddïau dy fab dy hun.
Na, nid wyt yn ateb ein gweddïau, ond at bwy yr awn ond atat ti canys
gennyt ti y mae geiriau y bywyd tragwyddol.'
Ar ddechrau blwyddyn helbulus trown ninnau at Dduw a gofynnwn iddo ein tywys
i'r dyfodol gan na welwn ni ond cam, Ef yw ein grym a'i nerth ef a'n ceidw
ninnau heb lesgau.
Yn wyneb popeth ein dyletswydd yw ymddiried ynddo, llafurio'n ei eglwys ar
y ddaear gan wneud ein gorau dros ein cyd-ddyn a sylweddoli bod "Cariad Duw'n
helaethach na mesurai meddwl dyn."
Gwawriodd y flwyddyn newydd ar adeg o siom a thristwch ond bydded i ninnau
gofio geiriau George Matheson a gyfieithwyd i'r Gymraeg gan D Tecwyn Evans.
Geiriau o gysur ydynt.
'Rwy'n gweld yr enfys trwy y glaw,
Yn ôl d'addewid gwn y daw
Diddagrau fore llon."
Trefor Evans
|
|
|
Yn ôl pob golwg bydd Morlan ar agor ym mis Mawrth. Cyn i hynny ddigwydd,
ac am y misoedd wedyn, bydd cryn waith i'w wneud i baratoi rhaglen y cyfnod
cychwynnol ac i gysylltu â grwpiau a chyrff eraill i greu partneriaethau.
Mae'r gwaith hwn eisoes wedi dechrau ond er bod Bwrdd Rheoli a phaneli'r
Morlan yn ymgymryd â llawer o'r trefniadau, bydd y baich yn trymhau'n
sylweddol o hyn ymlaen ac yn hawlio mwy o amser. Yn wyneb hyn, a chan gofio
mai gweithgarwch cenhadol Capel y Morfa yw'r Morlan, mae'r blaenoriaid wedi
penderfynu y dylent chwilio am ffyrdd i estyn mwy o gymorth i Pryderi trwy
ymgymryd â rhai agweddau ar ei weinidogaeth am gyfnod o 6 mis o ddechrau'r
flwyddyn 2005. Bydd hyn yn ei alluogi i roi mwy o amser i gynllunio gweithgarwch
y Morlan. Mae'r bwriad i benodi Trefnydd/Rheolwr rhan-amser yn rhan o'r cynllun.
Bydd Pryderi yn parhau'n Fugail Capel y Morfa, wrth gwrs, yn pregethu ac
yn gweinyddu'r sacramentau yn rheolaidd ac yn dal i'n bugeilio, mewn
cydweithrediad â blaenoriaid a'r ymwelesau ardal, yn ôl ein
hanghenion. Ond ni fydd yn gallu mynychu pob cyfarfod a phwyllgor yn yr eglwys,
er y bydd y gweithgareddau hyn, wrth reswm, yn parhau.
Dai Alun (ar ran y Blaenoriaid)
Os oes rhywun a hoffai gyfrannu yn ariannol tuag at ddatblygu gwaith y
Morlan, yna fe fuasem yn falch iawn o glywed gennych.
Pan lansiwyd apêl ariannol flynyddoedd yn ôl bu cyfrannu hael,
bu cyfamodi ac fe gyfrannodd aelodau Capel y Morfa ( yn rhoddion unigol ac
yn ddigwyddiadau i godi arian) dros £90,000. Yr oedd yn haelioni ac
yn ymrwymiad mawr.
Efallai fod yna rhai aelodau nad ydynt wedi cael cyfle i gyfrannu neu
nad oeddynt am gyfrannu ar y pryd. Neu, efallai yr hoffai rhai wneud cyfraniad
pellach. Dyma'r cyfle i wneud hynny.
Yr ydym, yn ystod yr wythnosau diwethaf, wedi derbyn rhoddion hael gan
deuluoedd sy'n gysylltiedig a'r eglwys ac yr ydym yn ddiolchgar iawn am
hynny.
Os hoffai unrhyw un gyflwyno rhodd i ddiolch neu er cof am aelodau o'r
teulu yna y mae gennym restr o nifer o bethau fydd eu hangen ar gyfer y Morlan
ac fe fuasem yn barod iawn i drafod hynny gydag unrhyw un.
I gyflwyno rhodd ariannol neu i holi am roddion penodol fe allwch gysylltu
ag unrhyw un o Aelodau'r Bwrdd Rheoli'r Morlan, y Blaenoriaid neu'r Bugail. |
|
|
|
Nis gwyddom ni beth sydd o'n blaen
Yfory sy'n ddirgelwch,
Rhydd Bywyd ddyddiau teg eu graen
A dyddiau llawn o dristwch:
Ymlaen â bywyd ar ei daith
A rhaid i ni ymlwybro
Yng ngolau'r Nef i wneud ein gwaith
Drwy Dduw sy'n cydymdeimlo.
Dirgelwch yw yr anwel fyd
Mae'n anodd ei amgyffred
Ond deil ei lewyrch aur o hyd
Dros lwybrau sydd i'w cerdded:
Rhydd inni ffydd a gobaith gwyn
Mewn byd o anwadalwch
Ac arwain ni dros ros a bryn
I stad a ddiogelwch.
Dirgelwch yw yr Engyl glân
O fewn yr hyfryd lysoedd
Dirgelwch yw eu peraidd gân
A bery yn oes oesoedd:
Dirgelwch yw'r telynau pêr
Dirgelwch yw'r coronau
Lledrithiol wlad tu hwnt i'r sêr
A 'hud' yw'r Drws o Berlau.
Ymhell uwchlaw dirnadaeth dyn
Yw anwel deyrnas Iesu
Ond teimlo'r wyf, wrth fynd yn hyn,
Fod nefoedd yn dynesu;
Ni fydd dirgelwch yno mwy
Ceir golau ar fy nhrallod,
Ac yno caf, heb boen na chlwy'
Yr heddwch sy'n ddiddarfod.
Lilian Rees
|
Yn y cyfarfod a gynhaliwyd diwedd 2004 i ystyried dulliau cyfathrebu yn y
Morfa, un awgrym a wnaed oedd ein bod yn crynhoi yn Perthyn rai o themâu
trafodaethau ysgol Sul yr oedolion o Sul i Sul. Llyfr y proffwyd Amos yw'r
maes darllen ac astudio ar hyn o bryd, ac er mor ddieithr y gallai cefndir
ac arddull proffwyd o'r 8fed ganrif cyn Crist ymddangos ar y dechrau, buan
iawn y daethpwyd i sylweddoli mor gyfoes mewn gwirionedd oedd y cyfan. Fel
y dywedodd un aelod o'r dosbarth, 'Dyn-ni ddim wedi dysgu dim mewn dros ddwy
fil o flynyddoedd.'
Yr hyn a oedd yn gyrru beirniadaeth chwyrn Amos o anghyfiawnder ei gymdeithas
oedd ei ymdeimlad o sancteiddrwydd Duw a'r rheidrwydd i hynny gael ei adlewyrchu
ym mywyd y bobl, yn eu haddoliad ac yn eu hymwneud â'i gilydd. Y bwlch
rhwng 'addoli' a safonau bywyd bob dydd oedd un o'r pethau a oedd yn cythruddo
Amos. Ond yr oedd ei wrandawyr yn deall beth yr oedd yn ei ddweud oherwydd
yr oeddent hwy'n gyfarwydd â iaith crefydd ac addoli. Cwestiwn a gododd
yn y dosbarth oedd efallai mai un o'r pethau mae'n rhaid i'r eglwys sylweddoli
yw bod 'na erbyn hyn sawl cenhedlaeth o'r "unchurched", hynny yw, pobl nad
ydynt yn gyfarwydd â iaith addoli - geirfa sy'n gyfarwydd hollol inni
ond yn gwbl ddieithr a diystyr iddynt hwy. Tybed felly, wrth inni sôn
am yr eglwys a'r byd, na ddylem ystyried yn fwy realistig y ffordd yr ydym
yn cyfathrebu â byd? Ac os ydym am i'n llais gael ei glywed ar faterion
cyhoeddus a chymdeithasol, a ddylai'r eglwys gael mwy o lais mewn materion
gwleidyddol?
A ellir tynnu llinell dwt rhwng bywyd cyhoeddus a bywyd preifat unigolion?
Os credwn fod priodas rhwng gw^r a gwraig yn rhan sylfaenol o'n cymdeithas,
a ydym yn derbyn, yn sgîl rhai digwyddiadau ym mywydau ffigurau cyhoeddus
diweddar, fod godinebu yn anfoesol ac yn creu ansefydlogrwydd mewn teuluoedd?
Os ydi yw'r ateb, a yw'r gymdeithas a'r eglwys yn drugarog ac yn barod i
gynnig cymorth i rai mewn cyfyngder?
Y mae llawer o feirniadaeth Amos yn cael ei hanelu at 'grefyddwyr', ac y
mae'n rhyfeddu fod 'addoli' cyson a dilyn y defodau'n rheolaidd yn cael cyn
lleied o effaith ar safonau bywyd y bobl hyn. Arweiniodd hyn at lawer o
hunan-holi yn y dosbarth, efallai ein bod weithiau yn esgeuluso ystyr ein
harferion ac nad ydyw cymhellion ein ffordd o fyw o ddydd i ddydd yn gyson
â'n proffes ar y Sul. |
|
 |
|
 |
Ar ôl gorffen peintio'r capel y roedd cyfle i ailagor y stondin lyfrau
ym mlaen y capel. Er nad yw yn fawr mae'n gyfle inni arddangos rhai llyfrau
a all fod o ddiddordeb inni fel aelodau, yn oedolion ac yn blant. Siop Lyfrau
INC ('siop Angharad Morgan') sy'n gwerthu'r rhan fwyaf o'r llyfrau hyn (ond
nid pob un) a gellir talu am beth bynnag a brynir wrth y stondin neu archebu
copïau yn y siop yn 13 Stryd y Bont. Yr oedd taflen o beth sydd ar gael
ar hyn o bryd yn y Perthyn diwethaf ond cadwch olwg ar y stondin i weld pan
fydd newid yn y teitlau. O bryd i'w gilydd bydd gair neu ddau am y llyfrau
yn Perthyn.
Y mae Caneuon Ffydd ymhlith 'best sellers' y Gymraeg. Defnyddiwn y casgliad
hwn o'r hen a'r newydd yn rheolaidd yn ein hoedfaon, ond bwriad Emynau'r
Ffydd yw cynnig myfyrdodau ar 100 o'r emynau hyn. Llyfr defosiwn yw hwn,
sy'n cyfoethogi ystyr yr emynau ac yn dyfnhau ein defnydd ohonynt, wrth eu
canu neu wrth eu darllen gartref. Rhoi cefndir a hanes emynau cyfarwydd yw
diben Emynau Cymru, y llyfr hwn hefyd yn un diddorol a gwerthfawr.
Dau lyfr i herio'r ffydd ac i ystyried arwyddocâd yr hyn yr ydym yn
ei broffesu yn yr oes hon a'r dyddiau hyn, a hynny gan ddau weinidog sydd
yn siarad o brofiad am eu bod wedi'u gorfodi i'w wynebu yn eu gweinidogaeth,
yw Syllu ar y sêr a Helaetha dy babell. Dau lyfr cyfoes sy'n rhydd
o ystrydebau - delfrydol os ydych yn eich cael eich hun yn holi am ystyr
eich ffydd.
A dwy anrheg ddelfrydol i blant (unrhyw adeg): Gweddïau ar gyfer pob
dydd i blant bach, y mae'r teitl yn ei egluro ei hun, a Gweddi'r Arglwydd
i blant, cyfle i feddwl am bob cymal o'r weddi.
Er mai ar gyfer plant yr ysgrifennwyd William Morgan a'r Beibl Cymraeg, nid
yw'n blentynnaidd a gall pawb o bob oed ei ddarllen gyda blas. Yr hyn sy'n
newydd ynddo yw'r disgrifiad gafaelgar o amodau byw a theithio myfyrwyr a
chlerigwyr yn nydd William Morgan,, a'r darlun hwnnw yw help inni werthfawrogi'n
fwy arwriaeth a gorchest y cyfieithydd.
Cofiwch hefyd am y llyfryn o ddefosiynau dyddiol, Gair y Dydd. Os nad ydych
wedi'i weld, mae ar y stondin gopïau sampl o'r rhifyn cyfredol ichwi
gael 'tamaid i brofi'; ac yn mae yno hefyd rai ôl gopiau ichwi gael
mynd â hwy. Gellwch danysgrifio am gyfres 2005 trwy gael gair â'r
Dosbarthwr, Mr David Meirion Jones. Y mae rhai copïau o'r Blwyddlyfr
ar ôl ac y mae'r rheini ar y stondin hefyd (£1.00).
HWYL AR Y DARLLEN |
|
 |
|
|
 |
|
Yr oedd ymweliad John Bell a Chapel y Morfa ar Ionawr 19 (ar wahoddiad Morlan)
yn achlysur i'r gofio a'i drysori. Ar wahân i'w ddadansoddiad treiddgar
o'n diwylliant cyfoes (diwylliant sydd wedi ei gyfeirio bron yn gyfan gwbl
bellach tuag at ddiddori a phlesera) , ei gyflwyniad o neges y Beibl i'n
cyfnod, rhoddodd hefyd atebion llawn her i 'r cwestiynau a ddaeth gan y
gynulleidfa. Cafodd i rhai sydd yn ymwneud â'r Morlan gyfle ei gyfarfod
yn ystod y prynhawn a'i neges iddynt hwy oedd : wnaeth yr eglwys erioed gyflawni
dim heb fentro. |
 |
| |
|
Dros w^yl y Nadolig buom yn ffodus o gael bod yn rhan o fis prysur a chael
rhannu mewn gwahanol gyfarfodydd a gweithgareddau dan drefniant y Morfa.
Bu'r gwasanaeth Nadolig, o dan arweiniad aelodau'r Ysgol Sul, yn un bendithiol.
Teg dweud fod 'na ôl paratoi gofalus wrth i'r plant ein tywys at
ryfeddodau'r Nadolig. Yn sicr, fe wnawn gofio datganiad y plant ieuengaf
wrth iddynt ganu ag afiaith am Weled yr Iesu ym mhreseb Bethlehem.
Gwerthfawrogodd y plant a'r oedolion gyfraniad amserol Pryderi ac i goroni'r
prynhawn, cafwyd Te Nadolig. 'Roedd Siôn Corn wedi cofio galw heibio
eleni eto a bu'n dosbarthu anrhegion i blant ac aelodau o'r ysgol Sul yn
ystod y bore.. Casglwyd swm o £175 yn y cyfarfod Nadolig i'w drosglwyddo
i'r Uned Arbennig yn Ysgol Llwyn yr Eos. sy'n delio a phlant awtistig.
Roeddem i gyd yn gyfarwydd a'r gair 'daeargryn', ond ar W^yl Sant Steffan
dysgasom air newydd, sef 'psunami' ac mewn ateb i'r apêl am gymorth
gwnaethom gasgliad arbennig a chyflwyno £500 i Gymorth Cristnogol. Diferyn
bach efallai, ond yn help i chwyddo'r môr o garedigrwydd a ddangoswyd
gan bobl y D.U.
Gwasanaethu'r Gymuned
Cynhaliwyd cyfarfod yng Nghapel y Methodistiaid, T Cam, Penparcau ar Dachwedd
30ain. y llynedd, lle daeth cynrychiolwyr o'r enwadau ynghyd i gyfnewid syniadau
am gydweithio er mwyn cryfhau'n tystiolaeth gan geisio bod yn gorff mwy
effeithiol ymysg y miloedd sy'n byw ym Mhenparcau. Yn sicr, teimlwyd fod
yna awydd i archwilio'r posibiliadau a chytunwyd i gynnal cyfarfod tebyg
eto ym misoedd cynnar 2005. Hyn, er gwybodaeth.
Cleifion
Yn debyg i lawer ardal, daeth y ffliw i Benparcau fel ymwelydd nad oes croeso
iddo gan adael ei ôl ar amryw ohonom. Serch hynny ,cafwyd cynulliadau
teilwng yn addoli ar y Sul.
Yn ystod yr wythnosau diweddar bu Mr. Jac Isaac a Mrs. Mary Benjamin yn derbyn
triniaeth ym Mronglais. Hefyd bu Mr. David Richards yn ysbyty Treforys am
driniaeth arbennig.Da yw cael dweud eu bod wedi dychwelyd i'w cartrefi erbyn
hyn. Roedd yn ddiwrnod pwysig i Glenwen Richards ar Ionawr 18ed. gan ei bod
yn dathlu ei phen blwydd yn 80 oed. Anfonwn ein cofion a'n llongyfarchiadau
ati gan obeithio am well iechyd iddi y flwyddyn yma.
Mae yna ymweliadau cyson a'n cyfeillion ym Modlondeb a hwythau, yn amlwg,
yn falch o'u derbyn.. Anodd iawn yw sefyllfa Eiriana Ashton yn uned Golygfan.
Mae'n dda cael dweud ei bod yn derbyn gofal cyson a thyner gan y staff ac
y mae ei mab, John, yn croesi yn gyson o Iwerddon i weld ei fam.
Dymunwn yn dda i Luke Lewis a'i briod yn eu cartref newydd ym Mron Padarn,
Ty^ Cam.
Blwyddyn Newydd Dda i aelodau a chyfeillion Ebeneser a'n cofion cynnes at
y rhai sydd yn methu mynychu'r oedfaon. |
 |
CYMERWCH AMSER
|
Cymerwch amser i feddwl -
dyma ffynhonnell gallu.
Cymerwch amser i ddarllen -
dyma sylfaen doethineb.
Cymerwch amser i chwarae -
dyma gyfrinach cadw'n ieuanc.
Cymerwch amser i fod yn dawel -
dyma gyfle i geisio Duw.
Cymerwch amser i ymglywed -
dyma gyfle i gynorthwyo eraill.
Cymerwch amser i garu a chael eich caru-
dyma rodd fwyaf Duw.
Cymerwch amser i chwerthin -
dyma gerddoriaeth yr enaid.
Cymerwch amser i fod yn gyfeillgar -
dyma ffordd i hapusrwydd.
Cymerwch amser i freuddwydio -
dyma ddefnydd i'r dyfodol.
Cymerwch amser i weddïo -
dyma'r gallu mwyaf sydd ar y ddaear.
Y MAE AMSER I BOPETH |
 |
|
|
|
|
 |
DEUWN AC ADDOLWN...
|
|
Bore Calan aeth grw^p bach ohonom am ein dro bach blynyddol ar hyd y prom
ar ôl y gwasanaeth yn y Morfa. Roedd hi'n fore eithaf braf ac roeddem
yn mwynhau yr awyr iach - yn wir gobeithiwn y byddai'n helpu clirio anwydau
trwm un neu ddau o'n mysg. Ar ein ffordd yn ôl fe gododd y gwynt yn
sydyn gan roi'r teimlad y byddai'n ein chwythu dros y rheiliau i'r môr
wrth i ni droi cornel trwyn cwningen pe baem yn ddigon ysgafn - diolch byth
ein bod wedi bwyta gymaint dros y Nadolig. Yn wir, fe chwythwyd un o'r torchau
oddi ar y gofeb wrth y castell uwchben i lawr i'r ffordd o'n blaenau. Roedd
cysgod yr ochr honno ac ychydig i lawr y ffordd cwrddom a Hywel Roderick,
sydd fel y gw^yr pawb yn awdurdod ar adar gyda'i binoculars o gwmpas ei wddw.
Gofynnodd Eirwen iddo a oedd wedi gweld unrhyw beth diddorol, gan ddisgwyl
ateb negyddol. Oedd meddai, gan ein tywys at fin y wal a dangos inni ddau
aderyn prin ond ymwelwyr cyson ag Aberystwyth, dau bibydd du yn sefyll ar
un o'r cerrig mawr ar ochr y wal yn cael lloches rhag y gwyntoedd cryfion
- un o wyrthiau natur i ryfeddu atynt.
Tua'r un amser, roedd teulu estynedig o ryw 13 yn mwynhau eu hunain hefyd
yn mynd am dro gyda'i gilydd mewn llecyn prydferth ger Altrincham yn Sir
Gaer. Roeddent yn cerdded ar hyd y brif fynedfa i'r parc pan gododd y gwynt
yn sydyn yno hefyd. Clywent y coed o'u cwmpas yn dechrau gwingo yn fygythiol
yn y gwynt, fe syrthiodd cangen go fawr o un o'r coed. Sylweddolent y perygl
yr oeddent ynddo a dyma ddechrau rhedeg, ond yn rhy hwyr; fe syrthiodd dwy
o'r coed ar eu pennau gan anafu nifer ohonynt, ond roedd Timothy, bachgen
8 oed, wedi ei garcharu o tan y boncyff a bu fawr. Dwy goeden enfawr 100
troedfedd a oedd eiliadau ynghynt yn un o ryfeddodau natur a oedd wedi sefyll
yn y fangre honno am dros 250 mlynedd gan roi pleser i bawb a'u gwelodd.
Marwolaeth un bachgen bach a oedd fel y disgrifiwyd ef gan ei deulu yn 'fun
loving rascal' a oedd yn gwneud i bawb o'i gwmpas chwerthin hyd ei eiliadau
olaf. Marwolaeth ond un bachgen bach, Timothy Sutton, ond colled erchyll
i'w deulu a phawb o'i gwmpas.
Rhyw wythnos ynghynt, fe wyddwn erbyn hyn fod o leiaf 150,000 o unigolion
wedi eu lladd, prin ein bod yn gallu enwi un ohonynt, pob un ohonynt yn golled
yr un mor erchyll i rhywrai. Canlyniad i'r dirgryniad anarferol o enbyd yn
y môr ger Sumatra yn Nwyrain Asia oedd hyn - y rhan fwyaf ohonynt wedi
eu lladd gan y 'tsunami' a achoswyd gan y tirgryniad. Fel y dywedodd Esgob
Norwich, gair nad oeddem yn gwybod beth oedd yn ei feddwl cyn hyn.
Aeth yr Esgob ymlaen i ddweud: 'God has given us an Earth that lives and
moves. It is not inert, it is alive - that is why we can live. Last week's
events were the starkest possible reminder that what gives life also takes
it away.' Nid anrhefn yw tirgryniadau, llosg fynyddoedd, tirlithradau a hyd
yn oed y meteorites yn taro'r ddaear a all achosi 'tsunamis', ond phenomenau
hollol naturiol. Canlyniadau ydynt oll i reolau natur, er nad ydym efallai
yn eu deall yn iawn. Hebddynt hwy, a hefyd erchyllterau eraill megis llifogydd
mawr a'r newidiadau enfawr mewn tywydd dros y canrifoedd, ni fyddai bywyd
erioed wedi ei greu ar y Ddaear rydym mor lwcus i fod yn rhan ohoni. Hebddynt,
byddai'r ddaear yn parhau i fod mor ddifywyd â'r gweddill helaeth o'r
bydysawd. Maent mor bwysig ag erioed i ofalu fod y Ddaear yn gallu newid
a datblygu. Maent yn gymaint o rodd gan Dduw a phopeth arall sydd o'n cwmpas
megis y ddau aderyn ar y prom a'r coed hynafol yna yn y parc yn Altricham.
Ond os nad yw'r dirgryniadau a hyd yn oed y 'tsumani' eu hun yn anrhefn,
mae'r canlyniad yn bendant yn anrhefn. Sut mae egluro beth a ddigwyddodd,
mae ein harweinwyr crefyddol wedi bod yn ceisio eu gorau, ceisio cysoni beth
sydd wedi digwydd a chredo mewn Duw. Wnaf i ddim mentro, does gennyf ddim
amser beth bynnag. Pwy wyf fi beth bynnag i fentro ple mae rhai llawer mwy
cymwys fel yr uchod yn ymbalfalu am eglurhad. Ond beth sy'n glir yw fod yr
hyn a ddigwyddodd wedi dod â'r gwaethaf allan mewn rhai pobl megis
Richard Dawkins, y gwrth grefyddwr a oedd mor ddwl â dweud pe bae'r
arian oedd yn cael ei wastraffu ar grefydd - tax perks mae'r Eglwys yn eu
cael yn cael ei ddefnyddio i ddatblygu ffyrdd o ragweld tirgryniadau yna
ni fydd yr erchyllterau yma'n digwydd. Ond y wyrth fwyaf yw ymateb y bobl
yn gyffredinol. Yn lleol yn agos i ble ddigwyddodd yr erchylltra - fel y
dywedodd Esgob yr Amwythig fel atebiad i'r cwestiwn, where is God in all
this?, 'God is to be found in the hands of those helping to bury the dead,
to bring clean water to the living, to administer medicine to the ill and
counsel to those in darkness. This is the faith of the church.' Ond hefyd
yr ymateb o weddill poblogaeth y byd, heb ofyn yr un cwestiwn megis pa liw,
pa grefydd oedd gan yr anghenus, yn rhoi yn hollol rydd. Dyna wyrth arall
ac yr un mor arwyddocaol o law Duw ar waith.
Mary ac Alun Morris
|
 |
|
DYDDIADUR CHWEFROR 2005
GWASANAETHAU'R SUL 10.00 a 6.00
6 Bugail yn y Morfa ac yn Ebeneser. Cymun Hwyr
13 Parch Ann Jenkins y Morfa ac yn y bore.
Mr Alun Creunant Davies yn Ebeneser ac yn y nos
20 Y Bugail yn y Morfa ac Ebeneser
27 Parch W J Edwards yn y Morfa ac yn Ebeneser
YSGOLION SUL
Plant: Bore am 10.00.
Oedolion: ar ôl gwasanaeth y bore
Hwyl Hwyr -nos Lun
Clwb Ieuenctid - nos Wener
CYLCH GWEDDI A CHOFFI
Bore Mawrth am 10.30 yn y Festri
CYMDEITHAS Y MORFA
9 "Cyfrifon Dad cu" - John Morris (Glan Carrog) - yn y prynhawn
23 Te Cymreig - Alun a Megan Creunant Davies
CYMORTH CRISTNOGOL
7 Cinio Bara a Chaws yn Festri St Davids, Stryd y Baddon
CYFARFODYDD WYTHNOSOL - bob nos Iau am 7.00
3 Gweddi Genhadol
10 Emynau'r Grawys: Undebol yn Seion
17 Emynau'r Grawys: Undebol yn Seion
24 Emynau'r Grawys: Undebol yn Seion |
|
|
 |
| |
SWYDDOGAETHAU CHWEFROR 2004
Blaenor y Mis Terry Adams
Porthorion Dr Rhidian Griffiths a Dr W J Cynfab Roberts, Mr John G
Evans a Dr Beryl Cynfab Roberts
Blodau'r Cysegr - Y Morfa
6 Mrs Dilys Lloyd
13 Mrs Betty Griffiths
20 Mrs Gwenlais Jones
27 Miss Eleri Davies
Blodau'r Cysegr - Ebeneser
6 Mrs Gwladys Adams
13 Mrs Blodwen Isaac
20 Mrs Denise Morgan
27 Mrs Megan Evans (er cof)
Cynorthwywyr Llestri Cymun
6 Mrs Iola Jones, Mrs Cecilia Jones, Mrs Margaret Morgan, Mrs Dilys Thomas
(Glas y Dorlan)
Cynorthwywyr Ariannol
6 Mr a Mrs Merfyn Davies
13 Mr D Meirion Jones a Mrs Beti Roberts
20 Mr Rhys Jones a Mrs Mary Fitter
27 Mr a Mrs T L Thomas
Tregerddan
27 Dan ofal Mr Wyn Hughes a Mr L John Roberts |
|
|
 |
| |
| Golygyddion y mis hwn: Siân Eleri
ac Enid Jones. Cyfraniadau ar gyfer rhifyn Mawrth o Perthyn at Ann Hawke
neu Arwel Jones erbyn 18 Chwefror os gwelwch yn dda. |
|
| |
 |
| |
|
 |
|
|
|