|
|
|
| |

MAWRTH 2005
Rhifyn 134
Llun gan Sadao Wantanabe (1913-96) sydd ar glawr Perthyn y mis hwn, sef un
o arlunwyr enwocaf Siapan yr 20fed ganrif. Mae ganddo arddull nodweddiadol,
sydd yn ymddangos braidd yn naïf ar yr olwg gyntaf. Mae'n arlunydd
Cristnogol, ac yn arbenigo ar gyfleu lluniau o'r Beibl. Erbyn hyn mae'n enwog
yn y gorllewin yn ogystal ag yn Japan. Yn y llun o'r `Swper Olaf' sydd ar
y clawr, portreedir Crist a'i ddisgyblion yn eistedd ar y llawr, fel y gwna
pobl Siapan, gan fwyta bwyd Siapaneaidd.
GAIR GAN Y BUGAIL
Ai mynd yn hen sydd yn arwain rhai i ail-ddweud yr un peth, trosodd a throsodd?
Dyna sut yr wyf yn teimlo wrth ysgrifennu'r geiriau hyn. Echnos bu tri o'n
haelodau gweithgar - Eleri, Bryn a Walford - yn arwain ar thema Emynau'r
Grawys yn Seion, Stryd y Popty. Yr oeddynt yn ardderchog: yn arwain gyda
didwylledd a gonestrwydd a graen. Yr oeddynt yn amlwg wedi rhoi meddwl gofalus
ac amser i baratoi. Yr oeddem wedi cael hynny yr wythnos flaenorol hefyd
gan aelodau o Seion. Yr wyf yn ailddweud fy hun oherwydd yn rhifyn Chwefror
bûm yn sôn am y rhai o'n haelodau a fu'n gweinidogaethu i'r gweddill
ohonom yn nyddiau'r tsunami. Cynnal, helpu, adeiladu a rhannu â'n gilydd
yw hanfod eglwys. Nid bod yn berffaith nac yn hunan-gynhaliol, ond bod yn
ddibynnol ar ein gilydd ac y mae hynny yn golygu, yng ngoleuni'r Testament
Newydd, bod yn ddibynnol ar Dduw. Gweld ein hangen o'n gilydd a'n hangen
o Dduw.
Mae hynny i'w weld yn nigwyddiadau'r Groglith a'r Pasg a fyddwn yn eu cofio
cyn diwedd y mis. Yn rhan allweddol o'r digwyddiadau - digwyddiadau a newidiodd
y byd - y mae yna bobl yn siarad gyda'i gilydd, yn bwyta gyda'i gilydd, yn
gweddïo gyda'i gilydd, yn holi, yn trafod ac yn dadlau â'i gilydd
ac y mae Crist fel petai'n ymddangos yn y canol pob tro. O'r ymdeimlad
yna o berthyn, o fod yn un â'n gilydd, y mae ffydd yn aml yn tyfu.
Mae hynny yn wir am yr Atgyfodiad. Roedd ar y disgyblion angen y merched
ac ar y merched angen y disgyblion; roedd ar Tomos angen ei ffrindau ac roedd
ar ei ffrindiau angen Tomos; roedd y ddau ar y ffordd i Emaus angen cwmni
ei gilydd. Ac roedd hi'n Basg - i bob un ohonynt. Nid Pasg wedi ei bacio'n
ddestlus fel wy mewn bocs neu gerdyn mewn amlen ond Pasg dynoliaeth ddwyfol
y Crist byw a oedd yn eu plith.
Pryderi. |
 |
|
|
| |
 |
Llongyfarchiadau
.
-
i dri thîm o Glwb Hwyl Hwyr a fu'n cystadlu yn Chwaraeon yr Ysgolion
Sul yng Nghastell Newydd Emlyn yn ystod hanner tymor. Ni fu llwyddiant i'r
tîm pêl-rwyd na'r ddau dim pêl-droed eleni, ond anafiadau
a gorfod chwarae gyda phedwar yn hytrach na phump oedd yn gyfrifol am hynny
yn achos un tîm. Fe gafwyd digon o hwyl a sbri;
-
i T.L. a Dilys Thomas ar ddod yn hen-daid a hen-nain (am y tro cyntaf) i
Iwan Ynyr, mab Ffion ac Islwyn yng Nghaernarfon.
Cydymdeimlad ...
-
Cydymdeimlwn yn fawr â'r rhai sydd wedi colli perthnasau yn ystod y
mis: Alan Pryce Jones ar golli ei fam yn Llanbed - a mam-gu i Hannah, Rhianwen,
Manon a Lili Haf; Ethel Williams ar golli ei chwaer, Lillian (yr oedd cerdd
gan Lillian yn rhifyn Chwefror o Perthyn); Dai Meirion Edwards a Mair Jones
ar golli eu chwaer, Megan.
-
Daeth y newyddion trist am farwolaeth sydyn Megan Creunant Davies wrth i
Perthyn gael ei baratoi. Yr oeddem i gyd yn teimlo ein bod yn ffrind i Megan
ac yr ydym wedi gwerthfarwogi ei chyfraniad a'i gweithgarwch diflino dros
y blynyddoedd. Yr ydym yn cydymdeimlo yn fawr ag Alun, Gwenan ac Iwan, Marged
a Tomos, Deian a Siân yn eu profedigaeth. Bydd coffâd yn rhifyn
mis Ebrill.
|
Diolch
-
i bawb a gyfrannodd i ddathliadau'r Nadolig a'r flwyddyn newydd
-
i Grw^p Gwaith Llaw Gwen Jones am y rhodd o £370 i Gapel y Morfa yn
dilyn y bore coffi ar Dachwedd 20
-
am eich cyfraniadau i'r canlynol: taith gerdded Cymorth Cristnogol o Nasareth
i Fethlehem: £400; Apêl y Nadolig, Plentyn Bethlehem: £775.10;
Apêl y Tsunami: £1,229.77 (hyd yma)
Ein cofion
-
at Sally Phillips (Rhos Hendre), Enid Phillips (Heol Alun), Beatrice Davies
(Loveden Rd), David Reeves (Fflatiau Rheidol), Kathleen Howells (Maesceinion)
a Luned Powys Roberts sydd yn Ysbyty Bronglais a Greta Jones sydd bellach
yn ysbyty Tregaron.
Dymuno'n dda i
-
Cassie Isaac yn ei chartref newydd yn Fflatiau Rheidol ac i David a Shirley
Harries yn eu cartref newydd yng Nghae'r Wylan.
|
 |
| |
|
 |
| |
|
|
 |
| |
|
Yng nghyfarfod gweddi nos Iau, 27 Ionawr, buom yn gweddïo am, ac yn
ystyried y gefeillio rhwng Capel y Morfa, Cymru a'r tair eglwys arall yn
Zambia, yr India a Tuvalu. Yr enw ar y gefeillio yma yw `Walking Together'
neu `Cerdded gyda'n Gilydd'. Roeddem eisoes wedi derbyn manylion am y gefeillio
o dan drefniant CWM yn Perthyn ac roeddem yn awyddus i ddysgu mwy. Yn ystod
Ionawr roedd y pedair eglwys yn cynnal cyfarfodydd ac yn mynd i adrodd yn
ôl i'w gilydd trwy e-bost. Gellir gweld ein llythyr ni i Zambia, yr
India a Tuvalu a braslun o'r cwrdd ar wefan y Morfa o dan `Cerdded Gyda'n
Gilydd'. (Neu gofynnwch i Rhys, Eleri neu Auriel am gopi a chwi a gewch!)
Yn y cyfarfod buom yn edrych yn benodol ar un agwedd o fywyd Tuvalu, ynys
yn y Môr Tawel. Wrth ddysgu am sefyllfa Cristnogion mewn rhannau erill
o'r byd, mae gobaith i ni ddeall goblygiadau ein ffydd mewn byd global. Dyma
ddarn sy'n sôn am sut y mae cynhesu global yn bygwth ynysoedd bychain
Tuvalu.
Tynged Ddyfriog Tuvalu
| Y mae'r pwynt uchaf ar ynysoedd Tuvalu bedair metr yn unig uwchlaw gwastad
y môr. Diflannodd hecter o'r wlad fechan hon o 10,500 o bobl yn y Môr
Tawel i'r môr yn ystod corwyntoedd Gavin, Hina a Kelly yn 1997. |
 |
Bum mlynedd yn ddiweddarach, wedi edrych ar nifer o newidiadau o'r fath ar
y naw ynys a boblogwyd, mae llywodraeth Tuvalu wedi dod i'r casgliad mai
ei thynged yw bod y genedl gyntaf i gael ei suddo gan gynhesu byd-eang. Daethpwyd
i gytundeb â Seland Newydd fod 74 o drigolion Tuvalu yn cael eu hail-leoli
yno'n flynyddol, gan ddechrau nawr.
Y mae rhagolygon am ymchwydd y moroedd a stormydd trofannol yn llyncu eu
cenedl wedi gadael Cristnogion Tuvalu yn ymdrechu yn erbyn arswyd o'r môr
ac yn pryderu na fydd eu diwylliant yn goroesi os caiff ei drawsblannu mewn
gwlad ddatblygedig fel Seland Newydd. Ond maent yn glynu wrth eu cred na
fydd Duw yn boddu eu tir.
Y mae dros 97% o bobl Tuvalu yn Gristnogion ac mae cred gref yn stori Arch
Noa, a chyfamod Duw na fydd yn boddi'r ddaear eto. Y mae'r Parch. Pitoi Etuati,
sy'n gweinidogaethu ymhlith cunulleidfa o 10,000 o aelodau, yn deall - yn
wahanol i lawer o'i gyd-weinidogion - y bydd y môr yn y diwedd yn
gorchuddio'r ynysoedd, `yn y dyfodol, os nad yn ein hamser ni!'
(seiliedig ar erthygl Patrick Barnham yn Guardian Weekend)
Meddyliwch yn wir am sefyllfa yr ynysoedd hyfryd hyn. Mae'r bobl yn gwybod
na fydd eu plant yn byw yn eu gwlad lawer yn rhagor. Maent yn ymwybodol hefyd
y bydd eu natur a'u hunaniaeth yn newid yn gyfan gwbl wrth barhau i fynd
fel ffoaduriaid i Seland Newydd. Meddyliwch am y ffydd sydd yn ymateb y Parch.
Pitoi Etuati.
Yn y grºp nos Iau, roeddem yn teimlo bod llawer gennym i'w ddysgu oddi
wrth ymateb Eglwys Tuvalu i'w sefyllfa. Mae hi'n gweld llaw Duw yn ei chyfarwyddo
ac yn rhoi her iddi i gadw ei ffydd a'i hunaniaeth trwy'r cyfan.
Gweddïwn heddiw dros eglwysi Tuvalu, Lusaka yn Zambia a Delhi Newydd
yn yr India. Gweddïwn dros y sawl sy'n ymgyrchu dros gynnal yr amgylchedd
yma yng Nghymru a ledled y byd. Gweddïwn am weld y ddaear trwy lygaid
Duw ac am ei charu fel y mae Duw yn ei charu.
Y Grw^p Cerdded Gyda'n Gilydd |
|
| |
 |
CERDDED GYDA'N GILYDD FEL TEULU
Pan oedd y plant yn fach roedd gwaith cartref yn cyrraedd i bob un yn ei
dro yn gofyn am lunio coeden deuluol. Wel, nawr 'te - b'le i gychwyn? Fy
nheulu i? Aelodau o Ferthyr i Abercrâf - ychydig yn gyfyngedig. Teulu
Roger? Aelodau o Loegr i'r U.D.A. - ychydig yn ehangach. Ond wrth edrych
ar darddiad aelodau ein teulu rwy'n gweld Cymru, Lloegr, Iwerddon, America,
Guyana (de America), yr Affrig, Seland Newydd ac Ynysoedd Cook (yn y Môr
Tawel) - sôn am `Rainbow People'! Ac o blith y deg person sydd yn fy
nheulu agosaf, tri ar y mwyaf sy'n rhannu'r un gwaed.
Beth felly yw teulu? Gaf i rannu stori fechan gyda chi? Pan oedd Rhys yn
un oed, a ninnau'n dal i fyw yn Seland Newydd dyma ni'n penderfynu mynd ar
ein gwyliau i Rarotonga, un o Ynysoedd Cook, lle roedd gwreiddiau rhai o
deulu Rhys. Ar ôl glanio, roedd y dyn customs yn stampio pasbort pawb
yn y rhes ac yn ysgrifennu rheswm yr ymweliad. `Holiday? Holiday? Coming
Home'. Daeth atom ni. Edrychodd ar y baban ym mreichiau ei dad. Gwenodd ac
ysgrifennu `Visiting family'. Teimlais rhyw wefr o falchder fy mod i o Gymru
fach a Roger o'r UDA fawr yn awr yn cael ein cyfri fel rhan o deulu ynysoedd
hyfryd Cook trwy garu'r plentyn bach hwn.
Wrth gwrs, mae'r profiad uchod yn weddol anarferol! Ond fel mae'r byd yn
mynd yn llai, mae nifer cynyddol ohonom yn croesawu i'n teuluoedd a'n cylch
ffrindiau aelodau o rannau eraill o'r byd. Ac mae'r profiad yn ein cyfoethogi
yn aruthrol ac yn agor ein llygaid i weld y posibiliad fod pob person byw
yn medru bod yn ffrind, yn frawd neu'n chwaer neu'n blentyn i ni.
Wrth gerdded gyda'n gilydd tuag at y Pasg, cyfarchwn ein teulu yn y ffydd
yn Zambia, yr India a Tuvalu. Cofiwn y dywediad:
Family does not mean only those who share your blood,
But those for whom you would shed your blood.
Gellid newid hyn yn bellach i 'But those for whom He shed His blood.' Oherwydd
cofiwn i Iesu Grist, trwy ei gariad, dywallt ei waed dros ei deulu global,
y rhai nad oedd hyd yn oed wedi gweld na chyfarfod â hwn erioed.
Auriel Fenton
|
|
|
Fel y gellid disgwyl y mae prysurdeb mawr ynglµn â'r Morlan ar
hyn o bryd ac y mae cynllunio ar gyfer yr agoriad swyddogol tros gyfnod o
rai dyddiau rhwng Ebrill 12-24. Bydd manylion llawn yn y rhifyn nesaf o Perthyn.
Y mae gwefan y Morlan-www.morlan.org.uk - wedi ei lansio bellach ac er nad
oes llawer o dudalenau ar y wefan hyd yma, y mae yno ddigon i ddechrau'r
broses o gyhoeddusrwydd sydd ar droed. Fel gyda gwefan Capel y Morfa y mae
ein dyled i Andrew ac Ann Hawke yn fawr iawn am greu gwefan mor ddeniadol
sydd yn ddwyieithog ac yn hawdd iawn ei defnyddio.
Cofiwch, pan fyddwch yn meddwl am genhadaeth yr Eglwys, yn eich sgwrsio a'ch
trafod, y gallwch ddweud ein bod fel Eglwys wedi dechrau ar brosiect cenhadol
sydd wedi golygu buddsoddi llawer iawn o amser ac adnoddau er mwyn yr Efengyl.
Yr ydym yn ddiolchgar am y cyfle i weithredu cenhadaeth yn ymarferol yn hytrach
na defnyddio'r ystrydebau arferol i siarad am genhadaeth. Ein gweddi fawr
yw y byddwn i gyd, pob aelod o Gapel y Morfa, trwy ein gweddïau a'n
dyhead i weld llwyddiant yr Efengyl, yn meddiannu'r ymdrech hon o'n heiddo,
er gogoniant i Dduw. Mae'r dyddiau cyffrous yma yn ddyddiau o waith caled
hefyd ac yr ydym yn ddiolchgar i bawb sydd yn gweithio ar ein rhan.
Os oes rhywun a hoffai gyfrannu yn ariannol tuag at ddatblygu gwaith y
Morlan, yna fe fuasem yn falch iawn o glywed gennych.
Pan lansiwyd apêl ariannol flynyddoedd yn ôl bu cyfrannu
hael, bu cyfamodi a chyfrannodd aelodau Capel y Morfa (yn rhoddion unigol
ac yn ddigwyddiadau i godi arian) dros £90,000. Yr oedd yn haelioni
ac yn ymrwymiad mawr.
Efallai fod yna rai aelodau nad ydynt wedi cael cyfle i gyfrannu neu
nad oeddynt am gyfrannu ar y pryd. Neu, efallai yr hoffai rhai wneud cyfraniad
pellach. Dyma'r cyfle i wneud hynny.
Yr ydym, yn ystod yr wythnosau diwethaf, wedi derbyn rhoddion hael gan
deuluoedd sy'n gysylltiedig â'r eglwys ac yr ydym yn ddiolchgar iawn
am hynny.
Os hoffai unrhyw un gyflwyno rhodd i ddiolch neu er cof am aelodau o'r
teulu yna y mae gennym restr o nifer o bethau fydd eu hangen ar gyfer y Morlan
ac fe fuasem yn barod iawn i drafod hynny gydag unrhyw un.
I gyflwyno rhodd ariannol neu i holi am roddion penodol fe allwch gysylltu
ag unrhyw un o Aelodau Bwrdd Rheoli'r Morlan, y Blaenoriaid neu'r Bugail.
|
|
|
|
|
Bellach yr ydym wedi ffarwelio ag Amos ac yn dechrau darllen Llyfr yr Actau.
Ond er mor anghysurus oedd ei ddarllen ar adegau (y siaradwr mwyaf plaen
o'r holl broffwydi, meddai'r Parch. John Tudno Williams ar ei bregeth dro'n
ôl), mae wedi'n gadael â nifer o gwestiynau sylfaenol, ac wedi
cynnig atebion hefyd.
-
Mae Duw'n Arglwydd pob cenedl; nid yw'n gwneud mwy o un na'r lleill. Yr oedd
Israel yn genedl `etholedig', ond pwrpas dod i berthynas arbennig â
Duw a deall ei fwriadau oedd er mwyn ymgymryd â chenhadaeth, nid er
mwyn mwynhau statws neilltuol. Fel dilynwyr Crist, a yw'r Eglwys wedi credu
ei bod yn mwynhau ffafr Duw yn fwy na chydnabod ei thasg?
-
Gwelodd Amos fur y ddinas yn bolio allan, o'i fesur wrth linyn plwm, a
chymhwysodd hyn at y ffordd y gwelai grefydd, gwleidyddiaeth a llysoedd barn
ei ddydd yn gwyro oddi wrth safon cyfiawnder sanctaidd Duw. Yr oedd yn naturiol
i ninnau edrych ar ansawdd y bywyd cyhoeddus a chrefyddol yng Nghymru a Phrydain
heddiw.
-
Soniai Amos lawer am `ddydd yr Arglwydd'. Nid oeddem yn deall hyn yn hollol
ond gwelsom mai tynged mur sy'n bolio allan fydd cwympo os na wneir dim yn
ei chylch. A yw cymdeithas sy'n byw'n anghyfiawn ac yn anfoesol (yn yr ystyr
lawnaf) yn sicr o ddirywio a mynd ar chwâl? Yr oedd Amos yn amlwg yn
ddraenen yn ystlys crefydd sefydliadol ei ddydd. Ai dyna'r gwir lais proffwydol
- yn siglo ac yn anesmwytho crefyddwyr cysurus?
-
Gwelai Amos newyn a syched am lais Duw yn ei gymdeithas ond credai fod pobl
wedi mynd y tu hwnt i allu adnabod y llais. Dyna yw gwacter ystyr. Buom yn
trafod dadansoddiad John Bell o'n cymdeithas gyfoes, sy'n chwilio am fodlonrwydd
mewn hunan-foddhad, consumerism a ffug ysbrydoledd, ond gwelsom fod Amos
yn diweddu ei lyfr â datganiad o obaith, am fod y Duw sanctaidd a chyfiawn
yn Dduw trugaredd a chariad. Yr oedd yn hyn dyndra nad oedd yn hawdd ei ddatrys;
ond er ei fod yn ymddangos yn baradocs, daethom i'r casgliad mai gwedd ar
drugaredd Duw yw'r `farn' ac mai yn natur ein hymateb i hynny y mae hadau'r
adferiad.
|
|
 |
|
 |
|
|
 |
|
|
 |
|
 |
Gwraig weddw gyda phedwar o blant o bentref Mbosi yn Zambia yw Regina.
Nid oes ffynnon hyd yn oed yn y pentref ac y mae hi a'i theulu yn cael dw^r
i'w yfed o afon fechan. Mae pob un sy'n byw yn Zambia (un o wledydd Cerdded
gyda'n Gilydd) mewn dyled o £437 i'r gwledydd cyfoethog sydd wedi rhoi
benthyg arian i Zambia gael codi allan o gylchdro tlodi. Y mae £437
yn fwy na dwywaith yr hyn mae Regina yn ei ennill yn flynyddol i gadw ei
theulu. Ymunwch yn yr ymgyrch Gwneud tlodi yn hanes er mwyn i ni gael cerdded
gyda'n gilydd.
Cewch ragor o wybodaeth drwy ymweld â:
www.makepovertyhistory.org
www.cafod.org.uk |
|
 |
| |
|
Soniwyd yn rhifyn Chwefror am y `ffliw' ac yn anffodus y mae'n ymddangos
nad yw wedi gollwng ei afael gan fod yna nifer o gymdeithas Ebeneser wedi
eu heffeithio a hyn wedi dangos ei ôl yn yr oedfaon yn ystod y Mis
Bach. Er ein bod yn disgwyl ymlaen i'r gwanwyn, barn llawer yw y byddai'n
dda cael cyfnod o dywydd rhewllyd yn gyntaf er mwyn cael gwared ar y gwahanol
germau sydd yn dal yn brysur yn ein plith!
Cleifion
Yn ystod mis Chwefror derbyniodd Ann Skitt, Rhydyfelin, lawdriniaeth feddygol
yng Nghaerdydd. Cafodd Susan Hughes, Maesheli, hithau driniaeth debyg yn
Ysbyty Bronglais. Y mae'n dda gallu dweud fod y ddwy bellach wedi dychwelyd
gartref ac yn cryfhau o ddydd i ddydd.
Dathlu - yn Venice a Phenparcau
Profiad i'w gofio yn sicr i Celyn Ebeneser, Ffordd Rheidol, oedd dathlu ei
phen blwydd yn 18 oed ar ymwelaid â Venice yng nghwmni ei chyd-ddisgyblion
o Benweddig. Mae Celyn wedi bod yn aelod ffyddlon o'r Ysgol Sul ers yn blentyn
ac yr ydym yn gwerthfarwogi ei chyfranaid didwyll, yn enwedig yn y blynyddoedd
diweddar wrth i nifer y disgyblion hµn fynd yn llai. Llongyfarchiadau
hefyd i fam-gu Celyn, Mrs Margaret McLaren, Maes Ffynnon, ar ddathlu ei phen
blwydd yn 80 oed yr un mis.
Diolchwn am gael gwasanaeth pulpud cyson ac am y cnewyllyn ffyddlon yn y
capel bach. Hyderwn y byddwn yn cael cwmni gweddill y teulu yn mynychu'r
oedfaon cyn gynted ag y bo'r amgylchiadau yn caniatáu. Ein cofion
cynnes at bawb sydd yn gaeth i'w haelwydydd a chartrefi preswyl.
|
 |
GWEDDI
|
Bendithion y Groes
O Arglwydd Iesu Grist,
tydi Oen Duw, sanctaidd a difrycheulyd,
yr hwn a gymeraist arnat dy hun ein pechodau
a'u dwyn yn dy gorff ar y groes:
bendigwn di am bob baich a ddygaist,
am y dagrau oll a wylaist,
am y poenau i gyd a ddioddefaist,
am yr holl eiriau o gysur a leferaist,
am dy holl frwydrau â galluoedd y tywyllwch,
ac am dy fuddugoliaeth dragwyddol
ar bechod a marwolaeth.
Gyda'th bobl di ym mhob man,
rhown i ti glod ac anrhydedd
a gogoniant a bendith,
yn oes oesoedd.
|
 |
|
|
Y Crist byw
Arglwydd Iesu Grist,
trwy dy atgyfodiad nerthol
gorchfygaist bechod ac angau
a gwnaethost bob peth yn newydd.
Tyrd atom i'n llenwi â'th fywyd atgyfodedig dy hun,
i'n rhyddhau ni o bob digalondid
ac i'n tanio â gobaith a gorfoledd y Pasg.
Fel y daethost at Mair yn yr ardd
a throi ei dagrau yn llawenydd,
tyrd at bob un sydd mewn trallod,
profedigaeth ac unigrwydd,
a chofleidia hwy yn dy gariad.
Fel y daethost at dy ddisgyblion ar lan y môr,
a throi eu hofn yn hyder newydd,
tyrd at dy Eglwys ac at dy bobl heddiw
a gwna ni'n frwd a gwrol yn ein cenhadaeth.
Fel y daethost at Thomas, yr amheuwr,
a throi ei amheuaeth yn argyhoeddiad sicr,
tyrd at y rhai sy'n teimlo'u ffydd yn wan
a'r rhai sy'n cael anhawster i gredu,
a rho iddynt sicrwydd llawen ynot ti.
Fel y daethost at y ddau ar ffordd Emaus
a throi eu hanobaith yn orfoledd,
tyrd at y rhai sy'n teimlo'u bywyd yn ddibwrpas
a bydd yn gwmni iddynt ar eu taith.
Tyrd atom bob un
a thrwy rym dy fywyd atgyfodedig
cod ni o'n gwendid a'n methiant
a rho i ni hyder yn ein ffydd
a gorfoledd yn dy waith.
|
|
 |
DYDDIADUR CYFNOD Y PASG
|
|
Dydd Sadwrn, 19 Mawrth, 11.00
GWYL HEDDWCH
Gorymdaith o Coedlan y Parc (Park Ave.),
Aberystwyth
12.30: Siaradwyr yn y castell
2.00: Panel yn yr Hen Goleg
(Phil Shiner,Clive Stafford-Smith,Michael Mansfield,
Ken Booth)
Cadeirydd : Jill Evans ASE
3.00: Gweithdai
Croeso cynnes i bawb ac i bob oed!
Dydd Sul, 20 Mawrth, 10 a.m.
Sul y Blodau
Bore: Addoli wrth borth y ddinas (gweinyddir bedydd)
Hwyr : 'I Galfaria trof fy wyneb
a'm llygaid
'
Myfyrdod Sul y Blodau trwy gyfrwng darluniau.
Dydd Llun, 21 Mawrth, 5.15 p.m.
Mewn gair, cân a gweithred
Cyflwyniad byr gan blant Hwyl Hwyr ar ddechrau'r
Wythnos Fawr. Croeso i rieni a chyfeillion.
Nos Fawrth, 22 Mawrth, 7.30 p.m. yn y Festri
Yr Efengyl yn ôl Sant Mathew
Cyfle i weld y ffilm enwog ac unigryw o waith Passolini.
Fe fydd cyflwyniad a thrafodaeth.
Nos Iau, 24 Mawrth, 7 p.m. Capel y Morfa
Gwasanaeth Cymun Undebol (dwyieithog)
Pregethir gan yr Esgob Michael Baughan (Caer)
Dydd Gwener y Groglith, 10 a.m., Seion
Oedfa Deuluol
Ar gyfer eglwysi Cymraeg; ac ar ôl y gwasanaeth fe fydd gorymdaith
yn dechrau o Gloc y Dref am 11.15
Dydd Sul y Pasg
Bore: Cododd Iesu!
Gwasanaeth fore'r Pasg yn dechrau yn yr ardd
Hwyr : Cymun Emaus
o gwmpas y bwrdd
Dydd Llun y Pasg
Helfa Wyau
Yng Nghoedwig Penglais - ymgynnull ym
Meth-Seilun am 10.30 a.m.
|
|
 |
|
DYDDIADUR MAWRTH 2005
GWASANAETHAU'R SUL 10.00 a 6.00
6 Y Bugail yn y Morfa ac yn Ebeneser
13 Anna Jane Evans yn y Morfa ac yn Ebeneser
20 Y Bugail yn y Morfa ac yn Ebeneser
27 PASG: Y Bugail yn y Morfa ac yn Ebeneser
YSGOLION SUL
Plant: Bore am 10.00.
Oedolion: ar ôl gwasanaeth y bore
Hwyl Hwyr -nos Lun
Clwb Ieuenctid - nos Wener
CYLCH GWEDDI A CHOFFI
Bore Mawrth am 10.30 yn y Festri
CYMDEITHAS Y MORFA
28 (Chwefror) Dathlu Gwyl Ddewi yng Nghanolfan Waunfawr am 7.00 gyda'r Parch
Adrian Williams
Cawl: dan ofal Hefin Jones, gydag Adloniant gan Euryn Jones a Nia Jones
14 7 p.m., 'Hen Atgofion' - Delyth Morris Jones
23 2.30 p.m., `Porslen Cymreig' - Walford Gealy
CYMORTH CRISTNOGOL
7 Cinio Bara a Chaws yn Neuadd y Plwyf
CYFARFODYDD WYTHNOSOL - bob nos Iau am 7.00
3 Emynau'r Grawys (yn Seion)
10 Emynau'r Grawys (yn Seion)
17 Emynau'r Grawys (yn Seion)
24 Gwasanaeth Cymun yng Nghapel y Morfa
|
|
|
 |
| |
MAWRTH 2005
Blaenor y Mis Miss Eleri Davies
Porthorion Mr Geraint Lewis Jones, Mr Douglas Jones, Dr Brynley Roberts,
Mrs Rhiannon Roberts
Blodau'r Cysegr - Y Morfa
6 Mrs Mary Fitter a Mrs A. Peris Edwards
13 Mrs Megan Hughes
20 Mrs Beti Roberts
27 Mrs Eirwen Jones
Blodau'r Cysegr - Ebeneser
6 Mrs Hilda Williams
13 Mrs Joyce Knight
20 Mrs Susan Hughes
27 Mrs Susan Hughes
Cynorthwywyr Llestri Cymun
Mrs Beryl Davies, Mrs Megan Nantlais Williams,
Mrs Mary Fitter, Mrs Ann Williams (sylwer bod cymun ar nos Iau, 24 Mawrth,
ac ar Nos Sul y Pasg)
Cynorthwywyr Ariannol
6 Mr J.G.L. Evans a Mr J. Wynford Jones
13 Mr Hywel Lloyd a Mrs Glenys James
20 Mr a Mrs Terry Adams
27 Mrs Beti Roberts a Mrs Blodwen Williams
Tregerddan
27 Ms Gwenan Creunant a Mrs Ann Davies |
|
|
 |
| |
| Golygyddion y mis hwn: Ann Hawke ac
Arwel Jones. Cyfraniadau ar gyfer rhifyn Ebrill o Perthyn at Ann Hawke neu
Arwel Jones erbyn 18 Chwefror os gwelwch yn dda. |
|
| |
 |
| |
|
 |
|
|
|