|
|
|
| |

EBRILL 2005
Rhifyn 135
GAIR GAN Y BUGAIL
Fe fydd y rhifyn hwn yn ymddangos ar Sul y Pasg ac ar ddechrau'r mis pan
fydd Morlan yn agor yn swyddogol. Y mae digon yn y rhifyn hwn yn dathlu'r
achlysur hwnnw a'r cyfan yr hoffwn ei ddweud yn y nodiadau hyn yw fod yna
gysylltiad agos iawn rhwng y Pasg a Morlan. Ar draws y byd ym mhob man mae
yna rywbeth newydd yn dod i'r golwg ac mae yna arwyddion bychan o fywyd i'w
gweld yn cyniwair. Y mae yna ddigon o bobl yn barod i alarnadu ac i fod y
gwbl negyddol am ddyfodol yr eglwys. Nid ydym yn brin o broffwydi gwae. Ond
mae neges y Pasg yn dathlu bywyd newydd yng Nghrist ac y mae'r eglwys wedi
byw ar hynny. Rhywbeth bychan iawn, iawn yw Morlan ond i'r rhai sy'n credu
yn yr Atgyfodiad y mae'n ganlyniad uniongyrchol i'r egni a ffrwydrodd o'r
bedd - a'r Iesu byw yw hwnnw. Y mae Ef yn gwneud pethau newydd a thrwy ras
a gwyleiddra, gweddi a gwaith, mentr a dyfalbarhad, fe fydd y Morlan a Chapel
y Morfa yn rhan o newydd-deb y bywyd yng Nghrist.
Ar y Sul cyntaf o Fawrth fe fu yn rhaid i mi - ar ôl siarad gydag amryw
o bobl - wneud apel daer am gysondeb yn ein plith i fywyd yr eglwys. Agwedd
ar ffyddlondeb yw cysondeb. Y mae wedi dod i'r golwg yn arbennig yn anghysondeb
cymaint o'r plant a'u rhieni a nifer y rhai sydd yn yr Ysgol Sul, ar adegau,
yn anhygoel o isel. Ond y mae nifer fawr o aelodau hefyd sydd yn addolwyr
achlysurol ac oherwydd hynny mae yna ddiethrwch yn digwydd ac y maent ar
gyrion yr eglwys yn lle yng nghanol y gymdeithas a'r addoli. Mae effaith
hyn ar fywyd yr eglwys yn fwy o lawer nag yr ydych yn sylweddoli. Mewn oes
mor brysur a bywydau mor llawn yr ydym yn gorfod gwneud dewisiadau a gosod
blaenoriaethau. Mae'n wir am ein bywyd yn gyffredinol, yn deulu, gwaith a
gorffwys. Mae neges y Pasg yn dweud na allwn wneud llai na hynny gyda'r eglwys
a'r Efengyl hefyd. Mesur ein cysondeb yw mesur ein ffyddlondeb a mesur ein
ffyddlondeb yw mesur ein hymrwymiad i fywyd ei eglwys Ef - oherwydd dyna
yw Capel y Morfa.
Pasg ac Ebrill llawen iawn i bawb ohonoch a
gweddïwn a dymunwn bob bendith i'n cenhadaeth drwy Morlan!
Pryderi. |
 |
|
|
| |
 |
|
|
Bedydd
-
Ar fore Sul y Blodau bedyddiwyd Mared Llwyd, merch Marc a Non (Llanrug) a
chwaer i Beca ac Owain ac wyres i William a Beryl, Eirwen a Pryderi. Dymuniadau
gorau iddynt fel teulu.
Ein cofion
-
at Eluned Powys Roberts, Elsie Evans, Kathleen Howells ac Alun Creunant Davies
yn Ysbyty Bronglais, Madge Richards a Greta Jones yn Nhregaron ac at Joan
Jones (Maesceinion) sydd wedi bod yn yr ysbyty ond bellach yn ôl yn
ei chartref. Anfonwn ein cofion hefyd at David Reeves sydd bellach yng Nghysgod
y Coed, Llanilar. Yr ydym yn falch fod Bet Evans yn gwella ar ôl ei
thriniaeth.
|
| Dymuna Alun, Gwenan ac Iwan, Deian
a Siân, heb anghofio Marged a Tomos, ddiolch yn ddiffuant iawn i aelodau
Morfa ac Ebeneser am bob arwydd o gydymdeimlad â hwy, mewn gair a
gweithred, yn dilyn y brofedigaeth o golli Megan mor sydyn. Bu cymdeithas
gynnes yr eglwys yn gymorth mawr i Megan yn ystod y blynyddoedd diwethaf
pan oedd ei hiechyd yn araf ddirywio, ac fe fu'r gwasanaeth o ddiolch ac
i ddathlu ei bywyd o dan arweiniad Pryderi a'r gweinidogion eraill yn gyfrwng
cysur a nerth i bawb ohonom.
Gwerthfawrogwyd yn fawr barodrwydd y rhai fu'n gwneud trefniadau ar gyfer
yr angladd yn y Morfa ac yn arbennig gwasanaeth chwiorydd Morfa ac Ebeneser
yn paratoi lluniaeth yn y festri i aros i ni ddychwelyd o'r Amlosgfa. Bu'r
cyfan yn gymorth mawr i ni fel teulu. |
|
 |
| |
|
|
 |
| |
|
Megan Creuant Davies. Roedd capel gorlawn a festri lawn ar 25 Chwefror
yn dystiolaeth ynddo'i hun i'r cariad yn ein plith tuag at Megan a'r golled
aruthrol ar ei hôl. Fel athrawes, fel athrawes Ysgol Sul, fel gwraig
weithgar y pethe, fe fu'n calonogi ac yn gwasanaethu eraill ar hyd ei hoes.
Ac fel Megan Alun, fel mam Gwenan a Deian, fel mam-gu Marged a Tomos, chwaer
Roy a mam yng nghyfraith i Iwan a Sian, fe fu yn bopeth i'w theulu yn ei
gofal a'i chroeso, yn ei chariad ac yn ei hegwyddorion. Yn achos Megan nid
oes modd iddi fynd ar goll yn yr `Alun a Megan Creunant' oherwydd fod ei
chyfraniad ei hun mor gyfoethog ac eto fe fu'n gefn ac yn gymorth mawr i
Alun yn ei waith a'i fywyd prysur. Er i ni golli ei gweithgarwch yn Ebeneser
a Chapel y Morfa ers pedair blynedd bron, y mae'n golled fawr i ni fel eglwys.
Wedi'r cyfan yr oedd addoli yn ganolog yn ei bywyd, cymdeithas yr eglwys
yn fwy gwerthfawr na dim iddi, a'i phwyslais parhaol am i ni gydweithio fel
aelodau ac fel Cristnogion o wahanol eglwysi yn bwyslais cyson yn ei sgwrsio.
Gwyn fyd yr eglwys a gafodd Megan yn aelod; gwyn fyd y gymuned a gafodd Megan
yn byw ynddi; a gwyn fyd y teulu, yn ei alar, sydd gyda chymaint o atgofion
a diolch. Yr ydym yn diolch i Dduw amdani ac am iddi gyfoethogi bywyd cymaint
o bobl wrth wasanethu ei Gwaredwr.
Yr ydym yn yn anfon ein cofion at Alun, sydd yn yr ysbyty, gan weddïo
y bydd ef, Gwenan a Deian, yn cael nerth mewn cyfnod mor anodd.
Bu farw Eirian Hayes yn dawel fore Llun 14 Mawrth. Nid yn aml y byddwn
yn defnyddio'r geiriau `marwolaeth dda', ond felly y bu i Eirian yn 90 oed
- yn dawel fel cwsg yng nghlydwch a diogelwch ei hystafell ym Modlondeb a'i
merch Geraldine wedi bod yn gwylio wrth ei gwely am ddyddiau lawer a'r staff
ym Modlondeb yn gweini'n ffyddlon. Gwraig dawel iawn oedd Eirian ond ei
gwên yn gynnes ac yn groesawus pob amser. Yr oedd yn un o deulu clos
Tyn Pwll yng Ngoginan ac er iddi fyw am gyfnod yn Llundain a phriodi yno
ag Albert, yn ôl i Geredigion y daeth hi a'i theulu. Fe gafodd hi a'i
chwaer, Enid (sef ein Henid (MB) Roberts ni) briodas ddwbwl yng Nghapel Bath
Street Aberystwyth. Yn 1978 lladdwyd ei mab Robert mewn damwain ffordd ym
Mhenrhyn-coch ac fe adawodd hynny graith fawr ar fywyd Eirian. Pedair blynedd
cyn hynny yr oedd wedi colli Albert. Ni fu bywyd yr un fath ar ol dwy
brofedigaeth mor fawr ac er iddi gael gofal ffyddlon gan Geraldine a
chyfeillgarwch mawr gan Enid ac MB, bu cyfnodau pan oedd bywyd yn anodd iawn
iddi. Ond yr oedd ganddi ddigon o hiwmor direudus. Nid un i feirniadu neb
oedd Eirian ac yr oedd ei synnwyr cyffredin yn rhoi iddi gydymdeimlad dwfn
â phobl o bob math. Bu'n dawel-ffyddlon i'r eglwys ac o Goginan i Jewin
a Chapel y Morfa cafodd gadernid a thangnefedd er gwaethaf yr amgylchiadau
anodd.
Yr ydym yn cydymdeimlo yn fawr iawn a'i merch Geraldine a'i phriod Bernard
ac a'i wyrion, Stephen a Kathleen ac ag Enid a'r chwaer Rosie yn Llundain. |
|
| |
 |
MORLAN
Datganiad cenhadol Morlan
Credwn fod Arglwyddiaeth Iesu Crist ar fyd a bywyd yn ein galluogi ac yn
ein cymell i ymwneud â phob agwedd o fywyd ein cymdeithas, ein cenedl
a'n byd. Credwn na allwn gyfyngu ei Arglwyddiaeth i eglwys na thraddodiad
a'i fod Ef yn ein gwahodd i'w ddarganfod ar waith yng nghanol ein diwylliant
cyfoes - yn ein wynebu a her ei Efengyl, yn ein bendithio yn ein tystiolaeth,
ac yn ein galluogi i ddefnyddio ein doniau creadigol.
Dymuniadau gorau
Ar ran swyddogion ac aelodau Capel y Morfa carwn fanteisio ar y cyfle hwn
drwy Perthyn i ddymuno'n dda i Morlan ar achlysur ei agoriad swyddogol. Mae'r
daith hyd yma wedi bod yn hir a llafurus, ond mae gweld yr adeilad ar fin
ei orffen yn hwb i bawb, ac mae'r gweithgareddau sydd wedi eu cynnal o dan
faner Morlan wedi profi yn llwyddiant mawr.
Mae ein dyled yn fawr i holl bwyllgorau Morlan, ac mae pawb sydd wedi bod
yn gysylltiedig â'r fenter yn haeddu pob clod a dymuniadau da.
Dai Alun Jones, Ysgrifennydd (ar ran y Blaenoriaid)
Gair gan Gadeirydd Bwrdd Rheoli
Morlan
O'r diwedd, mae adeilad Morlan wedi'i gwblhau a'r drysau ar fin cael eu hagor.
Nid ar chwarae bach y mae cychwyn ar fenter mor uchelgeisiol â hon
ac mae'r ffaith ein bod wedi llwyddo i godi'r adeilad a thalu amdano yn dyst
i frwdfrydedd a dyfalbarhad nifer o unigolion a fu'n benderfynol o droi'r
freuddwyd yn ffaith.
Pan ddechreuwyd ar y gwaith cynllunio, ni feddyliodd yr un ohonom y byddai'n
cymryd cymaint o amser i gwblhau'r gwaith, ond mae hynny'n hen hanes bellach
a gallwn yn awr edrych ymlaen yn hyderus at y bennod nesaf yn hanes datblygiad
Morlan.
Ar ran y Bwrdd Rheoli, hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu ym mhob ffordd,
yn enwedig y rhai sydd wedi gwasanaethu ar bwyllgorau a phanelau a rhoi mor
hael o'u hamser a'u harbenigedd. Rydym hefyd yn ddiolchgar iawn am y cyfraniadau
ariannol gwerthfawr oddi wrth aelodau'r Morfa a chyfeillion eraill. Mae'n
wir inni dderbyn grantiau hael oddi wrth CWM (Council for World Mission),
Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen, Awdurdod Datblygu Cymru ac eraill. Ond
y gwir amdani yw mai cyfraniadau gan unigolion oedd yr allwedd i ddenu
cyfraniadau o'r sector cyhoeddus a'r sector preifat a hynny am eu bod yn
ernes o'r gefnogaeth gref sydd i'r fenter o fewn y capel a thu hwnt. Mawr
werthfawrogir y gefnogaeth honno.
Edrychwn ymlaen at eich cwmni yn y cyfarfodydd cychwynnol. Dewch yn llu!
Gwerfyl. |
|
|
Am wybodaeth bellach am Morlan a'r cyfleusterau sydd ar gael yno, cofiwch
ymweld â'r wefan:
Morlan.org.uk
ac os oes gennych ymholiad, gallwch yrru e-bost drwy'r wefan, neu drwy
ddefnyddio'r cyfeiriad
ymholiadau@morlan.org.uk
Diolch
Yr ydym yn ddiolchgar iawn i bawb sydd wedi cyfrannu tuag at Morlan yn ystod
yr wythnosau diwethaf - nifer nad oedd wedi cael y cyfle i gyfrannu o'r blaen
a nifer wedi dangos awydd i gyflwyno rhodd arbennig i Morlan. Fel y mae Cadeirydd
y Bwrdd Rheoli yn dweud yn ei chyfarchion y mae cyfraniadau gwirfoddol o'r
fath wedi bod yn allweddol o'r dechrau. Llawer o ddiolch.
Os oes rhywun a hoffai gyfrannu yn ariannol tuag at ddatblygu gwaith y
Morlan, yna fe fuasem yn falch iawn o glywed gennych.
Pan lansiwyd apêl ariannol flynyddoedd yn ôl bu cyfrannu
hael, bu cyfamodi a chyfrannodd aelodau Capel y Morfa (yn rhoddion unigol
ac yn ddigwyddiadau i godi arian) dros £90,000. Yr oedd yn haelioni
ac yn ymrwymiad mawr.
Efallai fod yna rai aelodau nad ydynt wedi cael cyfle i gyfrannu neu
nad oeddynt am gyfrannu ar y pryd. Neu, efallai yr hoffai rhai wneud cyfraniad
pellach. Dyma'r cyfle i wneud hynny.
Yr ydym, yn ystod yr wythnosau diwethaf, wedi derbyn rhoddion hael gan
deuluoedd sy'n gysylltiedig â'r eglwys ac yr ydym yn ddiolchgar iawn
am hynny.
Os hoffai unrhyw un gyflwyno rhodd i ddiolch neu er cof am aelodau o'r
teulu yna y mae gennym restr o nifer o bethau fydd eu hangen ar gyfer y Morlan
ac fe fuasem yn barod iawn i drafod hynny gydag unrhyw un.
I gyflwyno rhodd ariannol neu i holi am roddion penodol fe allwch gysylltu
ag unrhyw un o Aelodau Bwrdd Rheoli'r Morlan, y Blaenoriaid neu'r Bugail.
|
|
|
|
|
Yr ydym yn dechrau gweld yr Eglwys Fore fel y mae'n cael ei dangos ym mhenodau
cyntaf Llyfr yr Actau yn od o debyg i'r eglwys heddiw, yn yr her sy'n ei
hwynebu, yn ei gwendidau ac, fe obeithiwn, yn ei chryfderau. Buom yn ystyried:
-
Sut mae'r Ysbryd Glân yn gweithio yn yr eglwys heddiw? A ydym yn gallu
adnabod ei waith?
-
Ai ym mhregethu'r eglwys, ai yn ei gweithredoedd y mae ei thystiolaeth gryfaf?
Beth yw arwyddocâd dweud, 'Yn enw Iesu Grist o Nasareth, cod a cherdda',
wrth i'r eglwys estyn cymorth?
-
Pa fath o gymdeithas yw'r eglwys? Sut mae'r aelodau'n cynnal ei gilydd? A
yw cael popeth yn gyffredin yn golygu nid meddiannau aelodau ond eu bywydau?
-
Yr oedd yn ysgytwad darllen hanes marwolaeth sydyn Ananias a gweld mai'r
hyn a'i lladdodd oedd iddo sylweddoli fod ceisio twyllo cyd-aelodau yn golygu
ceisio twyllo Duw. Beth, tybed, yw natur eglwys a gwerth/braint bod yn aelod?
-
Yr oedd gwahaniaethau ieithyddol a diwyllianniol yn yr Eglwys Fore yn Jerwsalem,
a'r rhain yn arwain at ragfarn ac ymgecru. Sut mae diogelu'r gwahaniaethau
hyn heb beryglu undod yr eglwys yn lleol ac yn genedlaethol?
-
Bu rhaid i'r Eglwys Fore ddatblygu patrymau newydd o weinidogaethu i'w haelodau.
A yw amgylchiadau heddiw yn galw am batrymau newydd?
|
|
 |
Dosbarth Ysgol Sul yr Oedolion yng Ngwesty'r
Richmond
|
Bryn Roberts yn cyflwyno blodau i Ann Davies a
Pryderi yng Ngwesty'r Richmond ... |
 |
|
Y Crist Byw
Arglwydd Iesu Grist,
trwy dy atgyfodiad nerthol
gorchfygaist bechod ac angau
a gwnaethost bob peth yn newydd.
Tyrd atom i'n llenwi â'th fywyd atgyfodedig dy hun,
i'n rhyddhau ni o bob digalondid
ac i'n tanio â gobaith a gorfoledd y Pasg.
Fel y daethost at Mair yn yr ardd
a throi ei dagrau yn llawenydd,
tyrd at bob un sydd mewn trallod,
profedigaeth ac unigrwydd,
a chofleidia hwy yn dy gariad.
Fel y daethost at dy ddisgyblion ar lan y môr,
a throi eu hofn yn hyder newydd,
tyrd at dy Eglwys ac at dy bobl heddiw
a gwna ni'n frwd a gwrol yn ein cenhadaeth.
Fel y daethost at Thomas, yr amheuwr,
a throi ei amheuaeth yn argyhoeddiad sicr,
tyrd at y rhai sy'n teimlo'u ffydd yn wan
a'r rhai sy'n cael anhawster i gredu,
a rho iddynt sicrwydd llawen ynot ti.
Fel y daethost at y ddau ar ffordd Emaus
a throi eu hanobaith yn orfoledd,
tyrd at y rhai sy'n teimlo'u bywyd yn ddibwrpas
a bydd yn gwmni iddynt ar eu taith.
Tyrd atom bob un
a thrwy rym dy fywyd atgyfodedig
cod ni o'n gwendid a'n methiant
a rho i ni hyder yn ein ffydd
a gorfoledd yn dy waith. |
 |
|
|
|
|
 |
|
|
Mae'r digwyddiadau isod yn agored i bawb ac yr ydym
yn estyn gwahoddiad cynnes iawn i holl aelodau Capel y Morfa er mwyn i ni
gael cyfrannu yn y llawenydd a'r cyffro o ymestyn ein gwaith a'n cenhadaeth
- ac er mwyn dangos cefnogaeth mewn gair, gweddi a gweithred i'r fenter.
Nos Fawrth, 12 Ebrill, 7pm
Pwy biau'r Newyddion?
Noson o drafodaeth ar le a chyfrifoldeb newyddiadurwyr
yn y wasg a'r cyfryngau, gyda Dylan Iorweth (Rheolwr Gyfarwyddr Golwg) Chris
Sunderland (Sylfaenydd gwefan AGORA sy'n ysgogi trafodaeth ar faterion cyhoeddus
a gwefan sy'n derbyn nawdd gan Gymdeithas y Beibl).
Bydd y noson yn dechrau gyda bwffe am 7pm.
Er hwylustod y trefnu rhowch wybod os ydych am ddod
drwy ffonio 617996 neu drwy yrru e-bost i
ymholiadau@morlan.org.uk
neu fe allwch roi eich enw ar daflen yng nghyntedd
y capel.
Nos Wener, 22 Ebrill, 7.30pm
Gorwelion
Arddangosfa o waith Marian Delyth gyda darlleniadau
o gerddi newydd ar gyfer yr achlysur gan feirdd lleol.
Tocyn £5.00 (yn cynnwys lluniaeth ysgafn).
Bydd tocynnau ar werth yng nghyntedd y capel ar ddydd
Sul Ebrill 10 ac 17.
Bydd cyflwyniad arall nos Sadwrn, 23 Ebrill.
Dim ond 70 tocyn sydd ar werth ar gyfer pob noson.
Dydd Sadwrn, 23 Ebrill, 11am.
Morlan - Pam?
Seiat Holi arbennig fydd yn cael ei darlledu ar Radio
Cymru ar y Sul dilynol
Panel: Elin Royles (Morlan), Arfon Jones (Cyn-ysgrifennydd
y Gyngrair Efengylaidd yng Nghymru a chreawdwr Beibl.net), Aled Jones Williams
(Offeiriad a dramodydd) a Hywel Teifi Edwards
Cadeirydd: John Roberts.
yna, am 12.00 o'r gloch
Agoriad swyddogol Morlan
Dydd Sul, 24 Ebrill
Diolch, dathlu a gweddi
yng nghwmni Dafydd Andrew Jones (Caerdydd) Andrew Johnson
(CWM) a nifer o wahoddedigion eraill.
10.00 Gwasanaeth yng Nghapel y Morfa.
6.00 Gwasanaeth arbennig yn y Morlan.
Yn ystod yr wythnos sy'n arwain at yr agoriad mae nifer
o ddigwyddiadau eraill - gan gynnwys gweithgarwch i'r plant a'r ieuenctid
a noson i gyfarfod â myfyrwyr o leiafrifoedd ethnig ac o wledydd tramor.
Byddwn hefyd yn dechrau ar batrwm o gylch
gweddi ac amser tawel dair gwaith yr wythnos:
bore Mawrth, 11.00 (Cenhadaeth yr eglwys)
bore Mercher, 12.00 (Ein cymuned)
prynhawn Iau, 1.00 (Cyfiawnder a Heddwch)
Mae gwahoddiad cynnes i unrhyw un alw i
mewn. |
|
 |
|
GWASANAETHAU'R SUL 10.00 a 6.00
3 Y Parch. T. Irfon Evans yn y Morfa ac Ebeneser
10 Y Bugail yn y Morfa ac yn Ebeneser; cymun yn y bore
17 Y Bugail yn y Morfa ac yn Ebeneser
24 Y Parch. D. Andrew Jones, Caerdydd yn y Morfa ac yn Ebeneser (Gweler
rhaglen y Morlan)
YSGOLION SUL
Plant: Bore am 10.00.
Oedolion: ar ôl gwasanaeth y bore
Hwyl Hwyr -nos Lun
Clwb Ieuenctid - nos Wener
CYLCH GWEDDI A CHOFFI
Bore Mawrth am 10.30 yn y Festri
CYMORTH CRISTNOGOL
4 Cinio Bara a Chaws yn Festri Bethel
CYFARFODYDD WYTHNOSOL - bob nos Iau am 7.00
7 Gweddi a Myfyrdod
14 Gweddi a Myfyrdod
21 Gweddi a Myfyrdod
28 Gweddi a Myfyrdod |
|
|
 |
| |
|
Blaenor y Mis Mr Merfyn Davies
Porthorion Miss Gwerfyl Pierce Jones, Mr John Evans, Mr L. John Roberts,
Mr Hefin Jones
Blodau'r Cysegr - Y Morfa
3 Mrs Mair Davies a Mrs Nesta Jones
10 Mrs Mair Griffiths
17 Mr a Mrs Moelwyn Hughes
24 Mrs M Roderick a Mrs Eluned Morris
Blodau'r Cysegr - Ebeneser
3 Mrs Lilian Jenkins
10 Misses Llinos a Rhiannon Hughes
17 Mrs Sian Powell
24 Mrs Betty Davies
Cynorthwywyr Llestri Cymun
10 Mrs Jean Davies, Mrs Ethel Williams, Mrs Mair Hughes, Mrs Mary Jones Morris
Cynorthwywyr Ariannol
3 Mr a Mrs Alun Morris
10 Mr E. Meirion Morgan a Mr David Harries
17 Mr D. Brian Thomas a Mr David M Evans
24 Mrs Glenys James a Mrs Miriam Garratt
Tregerddan
24 Dan ofal Miss Eleri Davies |
|
|
 |
| |
| Golygyddion y mis hwn yw Arwel Jones ac Ann
Hawke. Cyfraniadau ar gyfer rhifyn Ebrill o PERTHYN at Laurie Wright, Hywel
Lloyd neu'r Bugail erbyn dydd Gwener, 22 Ebrill. |
|
| |
 |
| |
|
 |
|
|
|