|
|
|
| |

MEHEFIN 2005
Rhifyn 137
Colomen Pentecost
(15.05.05)
GAIR GAN Y BUGAIL
Oes yna'r fath beth a 'chyfnod cyffredin' yn ein bywyd fel eglwys tybed?
I'r rhai sydd wedi bod yng nghanol llif bywyd Capel y Morfa mae'r misoedd
olaf wedi bod yn rhyfeddol o lawn a phrysur. Mae'n anodd meddwl fod yna rhai
eglwysi nad oes dim yn digwydd ynddynt rhwng Ebrill a Hydref ac mae'n drist
meddwl fod yna eglwysi nad oes fawr ddim yn digwydd ynddynt drwy'r flwyddyn
- dim ond addoli, unwaith y Sul. Ond a yw addoli unwaith y Sul yn ddigon
i gynnal ac i feithrin bywyd eglwys? Efallai y byddwch yn disgwyl i mi ddweud
nad ydyw. Ond, mewn gwirionedd y mae yn ddigon. Neu, a dilyn hanes yr eglwys
wedi'r Pentecost yn Llyfr yr Actau, fe all fod yn fwy na digon! Ar ôl
cynnwrf a Gwyl y Pentecost, cyfarfod i addoli a thorri bara a rhannu oedd
prif nodwedd yr eglwys ifanc. Oherwydd fod yr addoli hwnnw yn gwbl ganolog
ac yn eu gwneud yn wahanol i bawb arall ym mhle bynnag yr oeddynt yn byw,
yna yr oedd math arbennig o fywyd personol, o gymdeithas unigryw ac o 'fywyd
newydd' yn y tir. Ond o'r addoli yr oedd y cyfan yn tarddu.
Gobeithio, felly, ein bod yn wynebu 'cyfnod cyffredin' yng Nghapel y Morfa.
Petaem ni yn penderfynu peidio â gwneud dim ond addoli ar y Sul yn
ystod y misoedd nesaf (a fe fuaswn yn barod iawn i gytuno i hynny) a phetai'r
addoli hwnnw yn gwbl ganolog ym mywyd pob un ohonom o bob oed, yna fe fyddem
yn fuan yn dargafod fod ein cymdeithas yn dyfnhau, ein hawydd i wasanaethu
yn cryfhau a'r rheidrwydd ynom i dystio i'r Efengyl yn ein cyfnod ac i'n
cenhedlaeth, yn ein llenwi a llawenydd a brwdfrydedd. Fe fyddai wedi bod
yn gyfnod hanesyddol i ni fel eglwys. Croeso i'r 'cyfnod cyffredin' ?
Pryderi. |
 |
Te Pentecost
|
|
Cymundeb ym Morlan |
 |
|
|
Cofion
-
Anfonwn ein gweddïau a'n cofion at y rhai sydd yn yr ysbyty neu wedi
bod yn yr ysbyty yn ddiweddar: David Reeves (bellach yn ei gartref ei hun
ar ol bod yng Nghartref Cysgod y Coed ), Alwyn Griffith (Llanfarian) a Mary
Howells. Mae Greta Jones yn parhau yn Ysbyty Tregaron ond y mae Madge Richards
bellach yn ôl ym Maes Gogerddan. Mae Sally Philips, Rhoshendre yn Ysbyty
Bronglais.
Ein cydymdeimlad
-
Yr ydym yn cydymdeimlo yn fawr a nifer o'n haelodau sydd wedi colli anwyliaid
yn ddiweddar: Rhidian Griffiths wedi colli ei frawd; Catherine Griffiths
wedi colli ei thad; a Laurie Wright, wedi colli ei frawd.
|
Llongyfarchiadau
-
i ddau gwpwl sydd wedi dathlu priodas yn ddiweddar: John a Beti Roberts,
Pen y Graig wedi dathlu priodas ruddem; Dewi a Mary Jones, Llyswen, Ffordd
Llanbadarn wedi dathlu eu priodas aur. Pob bendith i'r dyfodol.
-
i Gwydion Hughes am gael ei ddewis i fod yn aelod o Fand Pres Ieuenctid Cymru.
Da iawn ti Gwydion!
Pob dymuniad da
-
i bawb a fydd yn wynebu aroliadau yn ystod yr wythnosau nesaf!
Diolch
-
Mae mis Mai wedi bod yn fis trwm i chwiorydd yr eglwys, sydd pob amser mor
barod i 'wasanaethu byrddau'. O fewn un wythnos bu Te'r Pentecost a baratowyd
gan rieni yr Ysgol Sul, yna'r te i Sasiwn Chwirordd y De (a baratowyd gan
ferched Capel y Morfa ac Ebeneser) ac yna y te yn dilyn angladd Rees Davies
pan ddarparwyd ar gyfer dros 150 o bobl - nifer llawer iawn mwy na'r disgwyl.
Yr oedd paratoi ar gyfer cymaint o bobl yn gamp yn wir! Yn dilyn hynny yr
oedd Siop Cymorth Cristnogol a gofyn am gacennau eto. Yr ydym yn gwerthfawrogi
yn fawr y parodrwydd a'r llafur - y mae'r cyfan yn adlewyrchu yr ysbryd hael
a chroesawus sydd yn allweddol i gymdeithas yr eglwys. Diolch yn fawr i chi
i gyd - ac i'r dynion fu'n cynorthwyo hefyd! Beth am i'r dynion baratoi y
tro nesaf?
-
Y mae Carys Davies a'r teulu wedi mynegi eu diolch ac wedi dangos hynny gyda
rhodd hael. Fe fynegwyd gwerthfawrogiad hefyd gan Megan Evans a swyddogion
Sasiwn y Chwiorydd.
|
|
 |
| |
Clwb Ieuenctid
Daeth tymor y Clwb Ieuenctid i ben (ar ôl mis llwyddiannus ym Morlan)
gyda barbiciw. Yr ydym yn ddiolchgar iawn i Wyn Hughes a David Harries am
eu gwaith gyda'r clwb a phawb sydd wedi cynorthwyo o wythnos i wythnos.
Mae angen llawer iawn mwy o gynorthwywyr y tymor nesaf ac fe fyddwn yn FALCH
IAWN o wirfoddolwyr. Cysylltwch â Wyn, David neu'r Bugail.
Dyma lun o farbeciw y Clwb Ieuenctid, 20.5.05. Gan ei bod hi mor wyntog (a
bod y llanw i mewn!), penderfynwyd cynnal y barbeciw ym maes parcio Morlan.
Wyn Hughes a David Harries, arweinwyr y Clwb, oedd yn trefnu, ac roedd John
Davies a Viv Butterworth yn helpu. Roedd y bwyd yn arbennig o flasus, a chafodd
pawb amser da iawn. Diolch i bawb sydd wedi cefnogi'r Clwb Ieuenctid eleni
- bydd yn ailddechrau ym mis Medi.
Clwb Hwyl Hwyr
Fe fydd Clwb Hwyl Hwyr yn mynd i'r Bala ar Fehefin 17-19 ac yr ydym yn dymuno'n
dda iawn iddynt. Ni fydd y Clwb yn cyfarfod eto tan fis Medi ac yr ydym yn
ddiolchgar i Eirwen Jones a Mary Jones Morris am eu gwaith drwy'r flwyddyn
hon eto. Unwaith eto, mae angen rhai sy'n barod i gynorthwyo ar brynhawn
Llun ac fe fyddant yn falch iawn o glywed gennych.
Mabolgiamocs
Cynhelir Mabolgiamocs i Ysgolion Sul yr Henduriaeth brynhawn Sul Mehefin
26ain am 2.30 yn Ysgol Rhydypennau. Dyma'r cyfle blynyddol i blant Ysgolion
Sul y cylch ddod at ei gilydd i gael hwyl a gweithgareddau - y Fferm Ffantasi
oedd y lleoliad llynedd. Fe fydd gwasanaeth i gloi'r prynhawn a chyflwyno
tystysgrifau i'r ysgolion Sul. |
|
 |
| |
|
Bu farw Miss Luned Powys Roberts ym Mhlas Cwmcynfelin ar 18 Mai. Yr
oedd yn 89 oed. Gwraig dawel, fonheddig oedd Miss Luned Powys Roberts, a
gwraig annibynnol a phreifat iawn hefyd. Cafodd ei geni yn Wrecsam, lle roedd
ei thad yn Arolygwr Ysgolion. Wedi ei haddysgu yn ysgol Grove Park ac Ysgol
Howells yn Ninbych, graddiodd mewn Almaeneg a Ffrangeg yng Ngholeg Sant Hugh
yn Rhydychen, ac yr oedd yn parhau i ddarllen y ddwy iaith i'r diwedd. Wedi
cyfnod yn y Gwasanaeth Sifil yn Llundain daeth yn Is-warden i Neuadd Merched
Alexandra ar y prom yn 1940 ac yn Warden o 1944-76. Fel Warden Alexandra
y daeth yn adnabyddus, ac nid yw'n anodd credu ei bod wedi gofalu, gyda thegwch
a doethineb, disgyblaeth ac anrhydedd, dros genedlaethau o fyfyrwyr. Yr oedd
yn falch iaw iawn o'i chysylltiad â'r myfyrwyr a'r brifysgol. Bu'n
aelod ffyddlon (a hael) o Tabernacl ar hyd y blynyddoedd ac yr oedd yn braf
gweld un o'i chenhedlaeth hi yn medru addasu a setlo'n hapus yng Nghapel
y Morfa. Yn ei doethineb tawel ei hun fe benderfynodd adael ei fflat a mynd
i Gwmcynfelin, ac yr oedd yn hapus iawn yno. Bu farw'n dawel yn ei chwsg
- mor dawel ag y bu fyw - a chladdwyd hi, wedi gwasaneth yng Nghapel y Morfa,
ym medd ei mam a'i thad yn Llandudno.
Bu farw Syr Rees Davies yn ei gartref yn Rhydychen yng nghwmni ei
deulu, Carys, Manon a Prys (a Catrin ei briod), flwyddyn ar ôl ei
ymddeoliad ac ychydig fisoedd ar ôl ei urddo yn farchog. Nid oes raid
ailadrodd yma yr hyn sydd wedi cael ei ddweud eisioes am ei waith a'i yrfa
- y deyrnged gan Brynley Roberts yn yr angladd a chan Beverley a Llinos Smith
yn yr Independent. Fe gafodd ei gydnabod fel awdurdod ar yr Oesoedd Canol
yng Nghymru a Phrydain. Dyna pam y bu yn Athro Hanes yn Aberystwyth ac yna
yn Rhydychen. Ond yn Perthyn fe'i cofiwn fel aelod ffyddlon o Eglwys yr Arglwydd
Iesu Grist a'i fod ar hyd ei oes - o'i wreiddiau gwerinol yng Nghynwyd,
Corwen/Bala - wedi bod yn esiampl loyw o ysbryd gwylaidd, diymhongar ac addfwyn.
Yr oedd Rees a Carys wedi parhau yn aelodau yng Nghapel y Morfa (mae Prys
bellach yn aelod yn Salem, Treganna) a dymuniad Rees oedd cael gwasanaeth
ei angladd yma yn Aberystwyth. Doedd dim 'Syr' na graddau ar gyfyl Taflen
y Gwasanaeth, dim ond Rees, priod annwyl, tad cariadus, brawd ffyddlon. Mae'r
golled i fyd addysg a hanes yn fawr; mae'r golled i Gymru yn fwy; mae'r golled
i'w deulu yn fwy fyth. Gweddiwn y byddant yn cael nerth wrth gofio yn ddiolchgar
amdano ac wrth i ni i gyd ddiolch i Dduw am ddynion fel Rees Davies. Bu'r
angladd yng Nghapel y Morfa ddydd Sadwrn, Mai 21ain. |
|
| |
 |
Y PARDON
Bob haf byddwn yn treulio'r gwyliau yn nhref Perros-Guirec, yng ngogledd
Llydaw. Penrhos Curig yw'r enw yn Gymraeg. Yn ôl y chwedl, croesodd
Curig o Gernyw i Lydaw mewn cawg carreg a glanio ar un o draethau'r ardal
ger Perros-Guirec.
Tref glan môr hamddenol sy'n croesawu teuluoedd yw hon. Bydd Siôn
ac Iwan yn chwarae yn y tywod a'r pyllau tra bydd Mari'n mynychu un o'r clybiau
plant sy'n nodwedd o draethau Llydaw. Byddwn ni'n aros yn rhan o'r dref o'r
enw La Clarté/ Ar Skeleder. Yma, mae eglwys hynod a sefydlwyd yn y
canol oesoedd gan forwr oedd a'i gwch ar fin mynd yn deilchion ar gregiau
geirwon yr ardal. Gwelodd y morwr olau yn dod o'r copa lle saif y pentref
bellach. Dyma darddiad yr enw 'Y Disgleirdeb'. Tu mewn i'r eglwys fechan
yn y pentref mae model o gwch i atgoffa'r addolwyr.
Ar ddydd Gw^yl y Forwyn Fair, 15fed o Awst, cynhelir un o draddodiadau enwocaf
Llydaw yn y pentref, sef y Pardon, neu yn ôl ei deitl llawn Pardon
de la notre-dame de la Clarté. Plant lleol fydd yn cymryd rhan yn
y Pardon fel arfer, ond gan fod y rhain yn prinhau, gwahoddir plant ar eu
gwyliau i lanw'r bylchau. Llynedd cafodd Mari ei dewis i gymeryd rhan yn
y Pardon, ynghyd â'i chyfnither, Annabelle, a'i chefnder, Nicholas.
Dyna oedd cyffro! Rhaid oedd benthyg gwisg draddodiadol Llydewig yr ardal,
ei gymryd adref yn ofalus a'i wisgo ar ddydd gw^yl y Forwyn Fair.
| Aeth y plant i'r eglwys i baratoi ar gyfer yr orymdaith. Mae pob Pardon
yn hardd ac urddasol gyda'r offeiriaid yn arwain ynghyd ag esgob neu archesgob
gwadd. Caiff delw o'r Forwyn Fair ei chario ar ysgwyddau gwyr lleol, a caiff
y cwch ei gludo o'r eglwys gan bysgotwyr neu wyr y bad achub. Gwelir baneri'r
plwyfi lleol a'r merched yn eu ffrogiau du a phenwisg gwyn ac, wrth gwrs,
y plant. Mae'r orymdaith yn cerdded ryw chwarter milltir i gae mawr, agored,
lle cynhelir yr offeren - gwasanaeth hir, gyda darlleniadau, emynau a phregeth.
Lwcus fod Mari wedi ei magu'n anghydffurfwraig! Pan yw'r tywydd yn braf,
daw miloedd i'r achlysur. Adlais yn unig o'r Llydaweg sydd yno ond mae'r
gerddoriaeth, gyda'i phibau clir, yn drawiadol. Mwynhaodd Mari a'i chyfnither
bod yng nghanol y gwisgoedd hardd a'r seremoni. Er ei bod yn cael ei magu'n
Brotestant, gw^yr Mari gryn dipyn am gefndir achlysur o'r fath, llawer mwy
na'i chyfoedion sy'n Babyddion. Ni chafodd mam na nain Lydewig Mari erioed
gyfle i gymryd rhan mewn achlysur mor bwysig. |
 |
Mae sawl Pardon arall, mân a mawr, yn cael eu cynnal yn Llydaw a rhai
ohonynt yn deillio o wyliau seintiau lleol, di-nod. Mae rhai ohonynt yn
adlewyrchiad o'r hen eglwys Geltaidd. Ceir capeli bychan ar hyd a lled gorllewin
Llydaw sy'n rhan o'r un traddodiad. Yn wreiddiol, nid oedd yr eglwys Babyddol
yn or-hoff o'r addoli â phwyslais lleol ac aeth llawer o'r capeli'n
adfeilion. Lladin, nid Llydaweg, oedd iaith y gwasanaethau. Rhai blynyddoedd
yn ôl, pan oedd Mari'n fabi, fe wnaethom ymweld â chapel bychan
wrth ymyl pentref Le Drennec, lle mae teulu fy mam yng nghyfraith yn hannu
ohonno. Mae'r capel, a fu'n furddyn tan y 70degau cynnar, wedi ei ail godi
a chynhelir Pardon bychan yno bob haf. Mae ysgrifen Llydaweg a ffurfiau Celtaidd
ar gefndir gwyn waliau'r capel.
Huw Chambers |
|
|
|
Annwyl Gyfeillion,
Rwy'n ysgrifennu atoch gyda chynnig arbennig ar gyfer capeli / eglwysi a
hefyd aelodau unigol. Mae'r manylion i'w gweld ar y daflen amgaeëdig.
Mae'r Testament Newydd (Fersiwn Diwygiedig y Beibl Cymraeg Newydd) yn mynd
i ymddangos yn fuan ar ffurf tapiau a chryno ddisgiau. Mae hwn yn waith sylweddol
ac uchelgeisiol, wedi'i gynhyrchu i'r safon orau, ac mae'r naill fersiwn
a'r llall yn cynnwys 18 o dapiau/cryno ddisgiau.
Bu Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen yn falch o roi cymhorthdal i Gymdeithas
y Beibl tuag at y costau cyhoeddi.
Bydd y lansiad swyddogol yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Cyn hynny, mae cyfle
i chi fanteisio ar bris gostyngol ond i chi archebu trwy'r capel/eglwys.
Dyma'r prisiau:
Dyma gyfle gwych i chi archebu at ddefnydd y capel/eglwysi gan arbed £10
ar bob set a archebir. COFIWCH HEFYD ROI GWYBOD I AELODAU UNIGOL, ER MWYN
CYNNWYS EU HARCHEBION HWY YN EICH ARCHEB GYFANSAWDD.
Bydd y tapiau/cryno ddisgiau hyn yn addas at bob math o ddefnydd - ar gyfer
gwasanaethau cyhoeddus ac at ddefnydd personol. Cofiwch yn arbennig am aelodau
hyn yr eglwys sy'n cael trafferth i ddarllen print. Gall y fersiynau llafar
hyn roi oriau o bleser i rai sy'n gaeth i'w cartrefi.
Bydd yr archebion yn cael eu cyflenwi trwy siop neu ganolfan o'ch dewis a
byddwch yn talu'r siop. Nid oes angen anfon tâl wrth ddychwelyd y slip.
Mae'r cynnig arbennig hwn am gyfnod byr yn unig a rhaid derbyn archebion
erbyn 24 MEHEFIN 2005 fan bellach i swyddfa Pantyfedwen (NID i'r siop).
Enwau, os gwelwch yn dda i flaenor y mis Rhidian Griffiths cyn 19 Mehefin.
Edrychaf ymlaen at glywed gennych.
Yn gywir,
Richard H. Morgan
Ysgrifennydd. |
|
|
|
|
Iesu'n chwerthin !
Arddangosfa o luniau gan arlunwyr rhyngwladol yn portreadu Crist mewn ffordd
wahanol, ddiddorol a dadleuol.
Yr oedd yr arddangosfa yng Ngw^yl Caeredin llynedd ac y mae yn dychwelyd
yno eleni ar ôl bod yn y Morlan.
-
Gorffennaf 1 -14
-
Dyddiol 10.00 - 5.30
-
Sadwrn 10.00 - 1.00
-
Sul 11.30 - 3.30
Os hoffai unrhyw un dreulio un bore neu un prynhawn (gyda rhywun arall) yn
croesawu pobl i'r arddangosfa, yna fe fyddwn yn falch o glywed gennych. |
|
|
 |
|
 |
Nefol Dad, cymorth ni i ddilyn esiampl Iesu Grist,
i ymroi i'th wasanaethu di
a'n cyd-ddyn yn dy enw.
Cymorth ni i'th wasanaethu yn ein gwaith beunyddiol
trwy gysegru pob dawn a gallu sydd ynom i ti.
Cymorth ni i'th wasanaethu yn ein ymarweddiad a'n buchedd
fel y bo'n bywydau yn dystiolaeth i ti.
Cymorth ni i'th wasanaethu yn dy eglwys
trwy ymateb i'th alwad i fod yn bobl i ti.
Cymorth ni i'th wasanaethu
trwy estyn cysur a chymorth i'n cyd-ddyn,
a thrwy hynny gyflawni cyfraith Crist.
O Dad, cyflwynwn i ti
y gorthrymedig a'r newynog,
y diymgeledd a'r llesg,
y trallodus a'r trist.
Gwna ni oll yn gyfryngau dy dosturi i eraill.
Cymer ein dwylo a defnyddia hwy yn dy waith;
cymer ein calonnau â llanw hwy â chariad Crist;
cymer ein traed a thywys hwy yn dy lwybrau.
Gofynnwn hyn yn enw ac yn haeddiant Iesu Grist,
ein Harglwydd a'n gwaredwr.
Amen
|
 |
|
|
|
|
 |
|
|
|
 |
|
GWASANAETHAU'R SUL 10.00 a 6.00
5 Bugail - yn y Morfa ac Ebeneser. Cymun hwyr
12 Parch Glyn Tudwal Jones, Caerdydd yn y Morfa ac yn Ebeneser
19 Bugail yn y Morfa ac yn Ebeneser
26 Parch Catrin Roberts, Caerdydd yn y Morfa ac yn Ebeneser
YSGOLION SUL
Plant: Bore am 10.00.
Oedolion: ar ôl gwasanaeth y bore
Hwyl Hwyr - wedi gorffen tan fis Medi
Clwb Ieuenctid - wedi gorffen tan fis Medi
CYLCH GWEDDI A CHOFFI
Bore Mawrth am 10.30 yn y Festri
CYMORTH CRISTNOGOL
6 Cinio Bara a Chaws yn Eglwys St Paul
CYFARFODYDD WYTHNOSOL - bob nos Iau am 7.00
2 Myfyrdod a Gweddi
9 Myfyrdod a Gweddi
16 Myfyrdod a Gweddi
23 Myfyrdod a Gweddi
30 Myfyrdod a Gweddi
|
|
|
 |
| |
SWYDDOGAETHAU MEHEFIN 2005
Blaenor y Mis Dr Rhidian Griffiths
Porthorion Mr Ifan Moelwyn Hughes, Mrs Mary Fitter, Mr a Mrs T L Thomas
Blodau'r Cysegr - Y Morfa
5 Mrs Glenys James
12 Mrs Dilys Stephens a Mrs Auriel Fenton
19 Mrs Hefina Davies Wright
26 Mrs Morfudd Strange a Mrs Ann Jones
Blodau'r Cysegr - Ebeneser
5 Mrs Megan J Evans
12 Mrs Glenys Thomas
19 Mrs Megan Morris
26 Mrs Catherine Jones
Cynorthwywyr Llestri Cymun
5 Mrs Miriam Evans, Mrs Eirwen Lewis, Mrs Elsbeth Lewis, Mrs Dilys Thomas
(Glyndyl)
Cynorthwywyr Ariannol
5 Mr Hywel Lloyd a Mrs Glenys James
12 Mr a Mrs Terry Adams
19 Mrs Beti Roberts a Mrs Blodwen Williams
26 Dr a Mrs Alun Morris
Tregerddan
26 Dan ofal Mr Geraint Lewis Jones a Miss Gwerfyl Pierce Jones |
|
|
 |
| |
| Golygyddion y mis hwn yw Laurie Wright a Hywel
Lloyd . Cyfraniadau ar gyfer rhifyn Gorffennaf o PERTHYN at Siân Eleri,
Enid neu'r Bugail erbyn 17 Mehefin os gwelwch yn dda. |
|
| |
 |
| |
|
 |
|
|
|