|
|
|
| |

GORFFENNAF 2005
Rhifyn 138
GAIR GAN Y BUGAIL
Mae wedi bod yn fis o golledion i ni fel eglwys. Yn achos y pedwar aelod
a fu farw yr oeddynt i gyd yn aelodau nad oeddynt bellach i'w gweld yn addoli
ar y Sul. Gwaeledd a llesgedd oedd yn cyfrif am hynny.Ond nid yw hynny yn
gwneud y golled i ni fel eglwys fymryn yn llai. Mewn un ystyr cyfoeth yr
eglwys yw nid yn gymaint yr hyn a welwn,ond yr hyn sydd o'r golwg. Ein colled
yn ystod y mis oedd colli aelodau yr oedd perthyn i'r eglwys yn bopeth iddynt
- swm eu ffyddlondeb, llawnder eu diolch, llawenydd eu mawl. Mae'r golled
yn ddeublyg. Colled i gymdeithas yr eglwys ei hun - nid ystrydeb yw dweud
ein bod wedi ein tlodi yn fawr. A cholled hefyd am na chafodd mwy o'n haelodau
y cyfle i'w hadnabod a'u gwerthfawrogi. Mor aml, pan fo rhywun sydd mewn
oed yn marw, y byddwn yn dweud 'Mae eu cenhedlaeth wedi mynd' gan led-awgrymu
mai ychydig sydd yn eu hadnabod bellach. O fewn cymdeithas eglwys fe ddylai
pob cenhedlaeth adnabod ei gilydd - mae'n digwydd yn fwy naturiol mewn eglwys
gyda llai na 50 o aelodau. Mae'n rhaid i eglwysi eraill weithio'n galetach
i bontio rhwng y cenedlaethau. Braint gweinidog yw cael dod i adnabod a charu
ei bobl yn aml trwy gystudd maith, a dyma pam fod y fraint yn troi'n alar
tawel ac yn golled fawr.
Wrth i dymor y gwyliau ddod â'i grwydro a'i gyfle i ymlacio ac anghofio,
yr un apêl flynyddol sydd gennym. Cofiwch fod bywyd addolgar yr eglwys
yn parhau. Unwaith eto eleni fe fyddwn yn cydaddoli fel eglwysi Cymraeg y
dref, ac fe fydd trefniant arbennig ar gyfer plant. Y mae arwyddion bychan
iawn ein bod yn dechrau ymwrthod â'r syniad trychinebus fod eglwysi
yn cau gyda'r ysgolion. Yn yr un ffordd mae arwyddion bychan mai bychanu
deallusrwydd pobl ifanc yw credu na ddylent, neu na allent, gael bendith
o fod mewn addoliad, a bod yn ddigon iddynt gael rhannau o'r gwasanaeth yn
unig, sef y rhan sydd wedi ei baratoi ar gyfer plant cynradd yn arbennig!!
Dymunwn yn dda i bawb ohonoch fydd yn teithio a thrwy Perthyn yr ydym yn
anfon ein cofion anwylaf at y rhai ohonoch na fydd amgylchiadau na iechyd
yn ei gwneud yn bosibl i chi fwynhau yr haf fel y gweddill ohonom.
Pryderi. |
 |
|
Tomos a Chatherine
Merched blwyddyn 4
 |
|
pawb yn gweiddi nerth eu pennau!
Bechgyn blwyddyn 3 yn paratoi i gael noson gynnar
... ? |
 |
|
|
Anfonwn ein cofion at ...
-
Mary Howells sydd yn parhau yn Ysbyty Tregaron wrth i Perthyn gael ei baratoi
ac y mae Gwladys Griffiths yn Ysbyty Bronglais. Wedi bod yn yr ysbyty yn
ystod y mis y mae Glenda James (Heol Alun), Megan Foster (Rhes Tregerddan)
David Reeves (Fflatiau Rheidol) a Michael Jones( Heol Tyn y Fron) Nia Wyn
Jones (Clos Non) ac Alun Creunant Davies. Gweddïwn am iddynt oll gael
nerth ac adferiad.
-
Kathleen Howells sydd yng Nghartref Nyrsio Abermad ar hyn o bryd.
Ein cydymdeimlad
-
â Beryl Hughes, Ael Dinas, ar golli ei brawd.
|
Llongyfarchiadau
-
Llongyfarchiadau i Rutheta Mleczek ar ddathlu ei phen blwydd tyn 90 oed yn
ystod mis Mehefin.
-
...i Ifor a Doris Edwards ar ddathlu eu priodas aur yn ystod y mis.
Pob dymuniad da
-
i Bethan Harris fydd yn treulio chwe wythnos gyda chriw o Goleg Iwerydd yn
gweithio yn Kenya.
Diolch
-
Mae mis Mai wedi bod yn fis trwm i chwiorydd yr eglwys, sydd pob amser mor
barod i 'wasanaethu byrddau'. O fewn un wythnos bu Te'r Pentecost a baratowyd
gan rieni yr Ysgol Sul, yna'r te i Sasiwn Chwirordd y De (a baratowyd gan
ferched Capel y Morfa ac Ebeneser) ac yna y te yn dilyn angladd Rees Davies
pan ddarparwyd ar gyfer dros 150 o bobl - nifer llawer iawn mwy na'r disgwyl.
Yr oedd paratoi ar gyfer cymaint o bobl yn gamp yn wir! Yn dilyn hynny yr
oedd Siop Cymorth Cristnogol a gofyn am gacennau eto. Yr ydym yn gwerthfawrogi
yn fawr y parodrwydd a'r llafur - y mae'r cyfan yn adlewyrchu yr ysbryd hael
a chroesawus sydd yn allweddol i gymdeithas yr eglwys. Diolch yn fawr i chi
i gyd - ac i'r dynion fu'n cynorthwyo hefyd! Beth am i'r dynion baratoi y
tro nesaf?
-
Y mae Carys Davies a'r teulu wedi mynegi eu diolch ac wedi dangos hynny gyda
rhodd hael. Fe fynegwyd gwerthfawrogiad hefyd gan Megan Evans a swyddogion
Sasiwn y Chwiorydd.
|
|
 |
| |
|
Mae'n tynnu tua therfyn blwyddyn swyddogol yr Ysgol Sul, a diolchwn i'r holl
athrawon a'r rhieni a'r plant am eu cefnogaeth yn ystod y flwyddyn. Mae yna
rai gweithgareddau pwysig ar ôl yn ystod y mis nesaf fodd bynnag, felly
cofiwch i gyd am y Gwasanaeth Diwedd Tymor fydd yn cael ei gynnal Fore Sul,
10 Gorffennaf, (pan gawn ymweliad gan un o swyddogion yr Henaduriaeth) ac
yna i ddilyn, o 12.30 ymlaen, cynhelir picnic a gemau yng Nghwm Rheidol i
aelodau a ffrindiau'r Ysgol Sul. Gofynnwn yn garedig i bob teulu ddod â
thocyn bwyd gyda nhw. Gobeithio'n fawr y bydd modd i nifer fawr ohonoch fod
yn bresennol ar y diwrnod hwnnw i ni gael mwynhau'r oedfa a'r trip gyda'n
gilydd.
Er na fydd Ysgol Sul ffurfiol yn ystod gwyliau haf yr ysgolion, bydd darpariaeth
i blant yn ystod yr oedfaon bore, a bydd yr Ysgol Sul yn ail-ddechrau'n llawn
bwrlwm fore Sul, 4 Medi, 2005. Gofynnwn yn daer am eich cefnogaeth gyson
i'r Ysgol Sul a'i holl weithgareddau yn ystod y flwyddyn sydd i ddod.
Mabolgiamocs, 2005!
|
|
 |
| |
|
Bu farw Janet Kyffin ar 7 Mehefin yn 85 oed. Er ei bod wedi ei chaethiwo
ers tua thair blynedd i'w chadair olwyn yng Nghwmcynfelin, ni pheidiodd ei
diddordeb byw a'i ffyddlondeb mawr i eglwys ei Gwaredwr. Ffyddlondeb mewn
absenoldeb! Ond dyna'r gwir am Janet - bu'r Efengyl a'r eglwys yn gwbl ganolog
iddi ar hyd ei hoes. Tawel oedd ei hymrwymiad, ond gweithgar a llawen iawn,
a does ryfedd iddi gael ei hethol yn flaenor yn Salem yn 1984. Bu'n ddibynadwy
a chydwybodol ym mhob ffordd. Yr oedd ganddi gof aruthrol am bobl ac amgylchiadau
ac achlysuron ac fe barhaodd hynny yn rhan fywiol ohoni i'r diwedd. Fe fydd
gwacter mawr ar ei hol ond fe wyddom mai ei gweddi gyson oedd am fendith
ar fywyd yr eglwys. Ar ôl y teulu - ei phriodas hapus a'i phriod Meirion,
Huw a Gaenor a'r wyrion, yr or-wyres, Elara, yn ogystal â'i chwaer
Eluned, yr unig un ar ôl o deulu o wyth o blant - barddoniaeth a
llenyddiaeth Gymraeg, plant a phobl ifanc a Chymru, ei hanes a'i phobl, oedd
ei chariad mawr. Ond yr oedd y cyfan - fel y cwlwm Celtaidd - yn batrwm syml
ond hardd a chywrain yn llaw ei Gwaredwr. Yr ydym yn cydymdeimlo'n fawr a'r
teulu i gyd ac yn diolch i Dduw am gael adnabod Janet. Cwbl gyson a'i bywyd
oedd bod y rhoddion er cof amdani wedi mynd i Gymorth Cristnogol.
Bu farw Sally Phillips, Maes Hendre ar Fehefin 13eg. yn 81 oed. Ers
pan oedd yn ei phumdegau bu Sally yn brwydro yn erbyn afiechyd a gwendid
corfforol. Ond yr oedd ysbryd dewr a phenderfynol ynddi. Wynebodd amgylchiadau
anodd - gadael ffermio Cyrtau,Balenpennal i symud i Lundain; gadael Llundain
ar ôl gweithio'n galed i sefydlu busnes a dod yn ôl i Geredigion
oherwydd afiechyd;a cholli Dewi ei phriod yn 65 oed. I wraig oedd wedi bod
yn mwynhau pob math o weithgarwch, caethiwed mawr oedd afiechyd y blynyddoedd
olaf. Yn byw gefn-gefn â Sally ar y Waun mae ei merch Ann, sydd wedi
dioddef o afiechyd ar hyd ei hoes ac yr oedd gofal y naill o'r llall yn rhyfeddol
mewn ffyddlondeb. Yr oedd Sally yn un o chwech o blant fferm Pant-lleiniau
ac o'r dyddiau cynnar ym Moreia, Trefenter i Woodgreen yn Llundain a Chapel
y Morfa yr oedd cysylltiad a'r eglwys yn rhan allweddol o fywyd y teulu.
Gwylio Dechrau canu,dechrau canmol oedd y peth olaf wnaeth Sally ac Ann gyda'i
gilydd a sylw Sally oedd 'Yr ydan ni angen mwy o raglenni fel yna...'.Yr
ydym yn cydymdeimlo yn fawr ag Ann ( a'i phriod, Bill) a'i chwaer Joyce (ai
phriod David a'r wyrion Phylip a Karen) a fu'n gefn ac yn gymorth mawr i'r
teulu. Er ei bod yn byw yn Swydd Efrog yr oedd Joyce ar gael pob amser.
Bu farw Morfydd Moelwyn Hughes ym Meth-shan, Y Drenewydd ar Fehefin
23ain. yn 72 oed. Yr oedd Ifan, ei phriod, yno gyda hi - yn gadernid tawel
ac yn gwmni diogel. Nid am y tro cyntaf yng Nghapel y Morfa, yn salwch maith
a chreulon Morfydd, yr ydym wedi gweld ffyddlondeb a gofal rhyfeddol. Fe
fyddai Ifan am roi'r diolch i staff Beth-shan, staff ward Enlli a gofalwyr
Crossroads, ond er mor dda oedd gofal eraill, fe wyddom ni mai Ifan a gynhaliodd
Morfydd ym mlynyddoedd y dirywio nes iddi orfod cael nyrsio parhaus. Fe wyddom
hefyd cymaint o feddwl oedd gan Morfydd o'i theulu : Mererid a Charys a'u
gw^yr a'r wyresau Manon, Lisa, Iona a Marian a'r w^yr, Huw. Er iddi gael
ei geni yn Llundain, yr oedd Morfydd yn ystyried Penllwyn yn fro ei mebyd.
Bu ei mam yn athrawes ym Mhenllwyn ac Aberffrwd a threuliodd y teulu flynyddoedd
y rhyfel yn Pandy,Capel Bangor, cartref ei mam - ac ym Mhenllwyn ac Ardwyn
y cafodd Morfydd beth o'i haddysg cyn dychwelyd yn ôl i Lundain. Ers
pan ddaethant yn ôl i Aberystwyth( yn 1970) fe fu Morfydd yn aelod
ffyddlon a gweithgar o Seilo a Chapel y Morfa, yn ogystal â phwyllgor
y Deva,Cronfa Achub y Plant a sawl cymdeithas arall. Fe gofiwn ei gwen,ei
phrysurdeb,ei Chymreictod cadarn a llawnder ei bywyd teuluol ac fe sylweddolwn
fod chwith mawr iawn ar ei hol. Yr ydym yn cydymdeimlo yn fawr a'r teulu
i gyd.
Ar ôl cystudd maith bu farw Jac Isaac yn ei gartref , Llygad
yr Haul, Min y Ddôl, ar Fehefin 24ain - yng nghwmni Blodwen ei
briod. Yr oedd Jac wedi bod yn gaeth i'w wely ers amser maith, ond nid oedd
cwestiwn ym meddwl Blodwen mai gartref oedd y man i'w nyrsio. Ac fe gafodd
ofal rhyfeddol - gyda chymorth nyrsys a gofalwyr. 'Hen yd y wlad' oedd Jac
yn wir ( o Drefneter ) a'i bleser mwyaf oedd 'cwmni Blod', ei ardd,ei gi,Sam
- a'i getyn!! Yr oedd hefyd wrth ei fodd yng nghwmni plant ac fe gafodd foddhad
mawr pan gafodd swydd yn cario plant i'r ysgol. Mae'n arwyddocaol iawn fod
merch Jac a Blodwen,Carol a'i phriod Colin, yn byw drws nesaf, ond bod yr
yr,Dai, yn byw gyda'i dad cu a'i fam gu. Yr oedd yn addolwr ffyddlon yn Ebeneser
ac yn ystod blynyddoedd ei gaethiwed pan oedd emyn ar y radio yr oedd gwên
fawr o fodlonrwydd ar wyneb Jac. Nid oedd byth yn cwyno nac yn ddiflas ac
nid collodd y wên ddireidus na'r hiwmor yn ei gystudd. Dyna pam fod
ymweld ag ef yn fendith pob amser. Yr ydym yn cydymdeimlo yn fawr a'r teulu
ac yr ydym yn diolch am gael priodas ac aelwyd ple roedd y gofal mor
naturiol,di-lol a dirwgnach. |
|
| |
 |
O SELAND NEWYDD I GYMRU
Fe ofynnwyd imi rhoi ychydig eiriau o fy mhrofiadau o fyw mewn dwy wahanol
wlad Cymru a Seland Newydd. Y peth cyntaf y sylweddolais pan symudais i Seland
Newydd gyda fy ngw^r a'r wlad honno oedd y pwysigrwydd o'r teulu. Byddem
yn cwrdd yn aml â'i deulu mawr mewn gwahanol gartrefi a chael barbeciw
a phawb yn dod a desgyl o fwyd.
Yn naturiol yn y tywydd poeth dros yr haf yn ystod Nadolig, barbeciw oedd
y prif ginio Nadolig a finnau yn dod â'r twrci i'm hatgoffa o Nadolig
yng Nghymru. Rhaid cyfaddef fod siopa Nadolig ym mhoethder yr haf ddim yn
llawer o hwyl!!
Roedd ein merched yn gweld llawer o debygrwydd yn yr ysgolion gyda'r ddwy
iaith yn cael eu dysgu yn y ddwy wlad, Saesneg a Maori a Chymraeg a Saesneg
yma.
Cafodd y plant drafferth i addasu yn y wlad hon gan eu bod yn gwario gymaint
o'i hamser o dan do oherwydd y tywydd. A pheth arall, nad oeddent yn gorfod
tynnu esgidiau cyn mynd mewn i cartrefi bobl ble roedd hynny yn drefn arferol
yn Seland Newydd.
Mae chwaraeon yn cymryd rhan enfawr ym mywyd rhan fwyaf o'r teuluoedd Seland
Newydd yn gynnar iawn yn eu bywyd. Wrth lwc mae'r merched wedi medru parhau
eu diddordeb mewn chwaraeon yma yng Nghymru.
Mae bywyd yr eglwys yn debyg yn y ddwy wlad ond yn Seland Newydd roeddem
yn rhannu'r eglwys gyda'r Samoans a'r Tongans. Felly rhaid oedd cael gwahanol
wasanaethau drwy gydol dydd Sul o wahanol ieithoedd.
Fel teulu cymysg o Gymry a Seland Newydd fedra' i ddweud yn onest fod y ddwy
wlad fel cartref i ni bellach, ac mae llawer o debygrwydd rhyngddynt.
Sian Donnelly |
|
 |
|
Cenhadaeth y Traeth.
Gorffennaf 23-30.
Sesiynau teuluol ( i blant 4-11 ) pob prynhawn i blant
lleol ac i ymwelwyr. Fe fydd ychydig o waith gyda'r nos hefyd. Am fwy o fanylion
cysylltwch a Ruth Lewis 01970 880443
Fe fydd Ruth yn falch o glywed gan unrhyw un sydd
yn barod i gynnig cymorth gyda'r gwaith.
Dan nawdd Undeb Cristnogol/Scripture Union |
|
|
|
|
Iesu'n chwerthin !
Arddangosfa o luniau gan arlunwyr rhyngwladol yn portreadu Crist mewn ffordd
wahanol, ddiddorol a dadleuol.
Trawiadol. Diddorol. Difyr. Dadleuol
Gwelwyd gyntaf yn Ngw^yl Caeredin 2004, ac y mae'r arddangosfa yn myn yn
ôl i'r w^yl eleni.
Tâl mynediad: £1 yn unig
Mae croeso i ymwediad gan grwpiau eglwysig / ysgolion / celf yn ystod y dydd
neu gyda'r nos ac fe ellid trefnu sgwrs fer am yr arddangosfa. Cysylltwch
ag ymholiadau@morlan.org.uk (01970 617996) i drefnu. |
|
Ym Mai 2004, fe wneis i symud i Aberystwyth o Statesboro, Georgia, yr Unol
Dalaithau. Rwyf wedi byw yn yr ardal hyn o Georgia rhan fwyaf o'm mywyd -
mae cartref fy nheulu yn Brooklet, sydd yn gymuned ffermio, tua wyth milltir
o Statesobro. Mae llawer o newidiadau, oherwydd bod gwahaniaethau a'r tebygrwydd
rhwng y ddau le.
Y gwahaniaeth mwyaf yw'r tywydd. Mae gwres haf Aberystwyth yn teimlo yn debyg
i wanwyn cynnar neu hydref hwyr yn Georgia. Rwyf hefyd yn arfer i aeaf sydd
yn para tua pythefnos ym mis Ionawr neu Chwefror yn lle tri mis yma.
Mae Statesboro ac Aberystwyth yn drefi prifysgol (mae'r boblogaeth yn cynyddu
a disgyn, dibynnu os yw hi'n amser tymor), ond mae Statesboro newydd ddod
yn dref prifysgol yn y degawd diwethaf ac yn dal i drio addasu i'r sefyllfa.
Does dim trafnidiaeth cyhoeddus, ac mae'r traffic, yn enwedig o gwmpas y
brifysgol, yn ofnadwy ar adegau. Mae Statesboro yn teimlo llawer mwy gwledig
nag Aberystwyth hefyd. Mae llawer o'r swyddi sydd yn Statesboro dal yn dibynu
ar amaethyddiaeth, un ffordd neu'r llall.
Mae symud i Gymru o Georgia wedi bod yn brofiad diddorol. Mae'r ddau le yn
eithaf gwahanol mewn llawer ffordd. Rwy dal yn synnu pa mor oer yw hi yma,
ac yn mwynhau peidio gorfod gyrru car i fynd o gwmpas. Rwy'n colli fy nheulu
a'm ffrindiau, ond dyna'r unig beth rwy yn colli. |
|
|
 |
Dduw Dad,
diolchwn i Ti fod yr haf hir-ddisgwyliedig wedi cyrraedd:
diolchwn am yr addewid yng nghan y gwcw,
am lawnder a lliwiau natur o'n cwmpas
ac am law a haul sy'n bwydo pob tyfiant.
Gweithia dy haf ynom ninnau pob un :
glawia arnom gawodydd dy ras a'th faddeuant
er mwyn i ninnau dyfu'n gryfach ac yn llawnach
yn ein ffydd a'n hadnabyddiaeth ohonot Ti,
ac er mwyn i'n bywydau ddwyn ffrwyth
mewn gweithredoedd da..
Diolchwn am bob cyfle eleni eto
i deithio hen gyrchfannau a mannau newydd;
gweddïwn am ddiogelwch ar ein taith,
ac am dy gariad yn ein calonnau
wrth inni gwrdd â chyfeillion hen a newydd,
ac arwain ni i fannau newydd yn ein bywydau ysbrydol.
Yr adeg hon o'r flwyddyn,
gyda phlant a phobl ifanc yn wynebu arholiadau,
gweddïwn trostynt yn eu pryder :
cynorthwya hwy i ddarganfod cydbwysedd
rhwng gwaith a gorffwys,
a helpa hwy i wneud eu gorau dan bwysau'r dydd
gan gofio fod y gwerth yr wyt ti yn ei roi arnom
yn bwysicach na phrofion a safonau'r byd.
Trwy gydol yr haf
diogela'r plant a'r bobl ifanc yn eu chwarae,
modurwyr ar eu teithiau,
ac amaethwyr ar y tir gyda'u peiriannau trwm
a gad inni oll deithio a gweithio'n ddiogel yn dy gwmni di.
Casi Jones |
 |
|
|
 |
|
|
|
 |
|
GWASANAETHAU'R SUL 10.00 a 6.00
3 Bugail - yn y Morfa ac Ebeneser. Cymun y bore a'r prynhawn
10 Y Bugail - yn y Morfa ac Ebeneser
17 Parch Elfed ap Nefydd Roberts yn y Morfa ac yn Ebeneser
24 Y Bugail yn y Morfa ac yn Ebeneser
31 Unedig Seion. Y Parch Andrew Lenny
YSGOLION SUL
Fe ddaw tymor yr Ysgol Sul i ben gyda phicnic yng Nghwm Rheidol ar 10 Gorffennaf.
Dechrau tymor newydd 4 Medi.
Hwyl Hwyr - wedi gorffen tan fis Medi
Clwb Ieuenctid - wedi gorffen tan fis Medi
CYLCH GWEDDI A CHOFFI
Bore Mawrth am 10.30 yn y Festri. Fe ddaw'r tymor i ben gyda phererindod
ar 19 Gorffennaf
CYMORTH CRISTNOGOL
4 Cinio Bara a Chaws yn Eglwys St Anne
CYFARFODYDD WYTHNOSOL - bob nos Iau am 7.00
7 Adroddiad o'r Kurchentag yng nghymni'r Parch Adrian Williams
14 Trafodaeth ym Morlan ar Iesu'n Chwerthin, 7.30
|
|
|
 |
| |
SWYDDOGAETHAU GORFFENNAF 2005
Blaenor y Mis Mr Wyn Hughes
Porthorion Dr Alun O Morris; Mr Hywel Jones, Mrs Megan N Williams;
Mr Dafydd Morgan Evans
Blodau'r Cysegr - Y Morfa
3 Dr a Mrs Rhidian Griffiths
10 Mrs Nancy Lovatt
17 Mrs Gwenan Creunant
24 Mrs Mary Jones a Mrs Mattie Evans
Blodau'r Cysegr - Ebeneser
3 Mrs Mary Benjamin
10 Mrs Denise Morgan
17 Mrs Susan Hughes
24 Mrs Marina Kenyon
31 Mrs Mattie Shaw
Cynorthwywyr Llestri Cymun
3 Mrs Trish Huws; Mrs Mattie Jones; Mrs Beti Roberts; Mrs Eira Williams
Cynorthwywyr Ariannol
3 Mr E Meirion Morgan a Mr David Harries
10 Mr D Brian Thomas a Mr David M Evans
17 Mrs Glenys James a Mrs Miriam Garratt
24 Mr a Mrs Merfyn Davies
Tregerddan
24 Dan ofal Dr Huw Owen a Mrs Megan Nantlais Williams |
|
|
 |
| |
| Cyfraniadau ar gyfer rhifyn Medi o PERTHYN
at Siân Eleri, Enid neu'r Bugail erbyn 26 Awst os gwelwch yn
dda. |
|
| |
 |
| |
|
 |
|
|
|