Gadael gwefan Capel y Morfa a mynd i wefan Eglwys Bresbyteraidd Cymru.
Tudalen Cartref Capel y Morfa a Manylion Cysylltu, Rhestr Swyddogion, a Mapiau.
Dyddiadur y Capel ac Amserau Gwasanaethau
Gweithgareddau yn y Capel, yr Ysgol Sul, etc.
Perthyn - Misolyn y Capel ac ôl-rifynnau.
Perthyn - y rhifyn cyfredol.
Perthyn - ôl-rifynnau
Morlan
Y Byd a'r Betws - cyfle i drafod gwahanol bynciau.
Yr Eglwys ar Wasgar.
Adolygiadau o Lyfrau.
Lle i feddwl.
Oriel - Lluniau o ddigwyddiadau yn y Capel.
Dolenni i safleoedd perthnasol eraill.

       

 

 
PERTHYN - Y Rhifyn Cyfredol.
 MEDI 2005
Rhifyn 139

 

CYNNWYS

GAIR GAN Y BUGAIL
NEWYDDION
FESTRI LÂN AC EANG
TAITH I BERIW I GODI ARIAN
GWEDDI
DYDDIADUR GORFFENNAF 2005
SWYDDOGAETHAU GORFFENNAF  2005

                                

Ffarwel Haf

GAIR GAN Y BUGAIL

Rhifyn i lenwi bwlch yw'r rhifyn hwn. Am resymau amlwg yr oedd yn amhosibl cynhyrchu Perthyn ar gyfer y Sul olaf o Awst a phwrpas y daflen hon yw i lenwi bwlch hyd nes y daw y rhifyn arferol ar ddiwedd mis Medi. Mae hyn yn golygu y bydd llawer o'r cynnwys arferol ar goll ac mai anghyflawn fydd y newyddion a.y.b.

Yr ydym yn edrych ymlaen yn fawr at dymor newydd o gyd-addoli, cyd-weithio ac o adeiladu yr eglwys yn ein plith. Yr ydym yn gweddio y bydd bendith ar bopeth a wnawn ac y bydd bod yn rhan o fywyd Eglwys Iesu Grist yn cyfoethogi bywyd pob un ohonom o bob oed, er mwyn i ni fod yn halen a goleuni yn ein cymdeithas a'n byd.

Pryderi.

I frig y tudalen.

FESTRI LÂN AC EANG

Yr ydym yn ddiolchgar iawn i'r rhai sydd wedi bod yn gweithio ar y festri yn ystod mis Awst ac i'r Pwyllgor Adeiladau sydd wedi bod yn arolygu, hybu a gofalu fod y gwaith wedi ei gwblhau erbyn dechrau Medi. Fe fydd y cyfan yn siwr o greu awyrgylch mwy siriol a glân i'r holl weithgarwch sydd yn digwydd yn y festri pob wythnos - o'r Ysgol Sul i'r Clwb Cinio gan Gymdeithas Sgitsoffrenia Aberystwyth pob dydd Iau. Cofiwch alw i mewn i weld y festri.

I frig y tudalen.
 

NEWYDDION

Anfonwn ein cofion at ...

  • nifer fawr o'n haelodau sydd wedi treulio amser yn yr ysbyty yn ystod diwedd Gorffennaf a mis Awst ac yr ydym yn anfon ein cofion atynt: John Evans (Maesceinion), Glenys Davies (Ebeneser), Jane Evans (Ebeneser), Bessie Richards (Llys Mair), Jean Jones (Cae Melyn), Alun Creunant Davies (Maes Lowri). Maent i gyd erbyn hyn gartref. Yn parhau yn yr ysbyty wrth i Perthyn gael ei baratoi mae: Myfanwy Appleton (Greenfield St yn Abertawe) a Dilys Evans (Tregerddan yn Nhregaron).

Ein cydymdeimlad …

  • â Mr.W.F.Wilkinson, Bow Street, sydd wedi colli ei frawd yn ddiweddar.

Llongyfarchiadau …

  • i Rhys a Jenny Jones ar enedigaeth Ynyr Gruffudd (brawd i Glesni)
  • Andrew a Sera Llewelyn ar enedigaeth Elen Madrun (chwaer i Dafydd a Rhodri)
  • i Beatrice Davies ar ddathlu ei phenblwydd yn 101 yn ystod mis Awst (ac fe fu'n addoli yn y capel !)
  • i'r bobl ifanc (Capel y Morfa ac Ebeneser) a fu yn llwyddiannus yn yr arholiadau Lefel A a TGAU a dymunwn yn dda iawn iddynt yn y dyfodol. Yn y rhifyn nesaf cawn ddymuno'n dda i'r rhai fydd yn gadael cartref.
  • i Ffion Morgan (Ebeneser) a raddiodd yng Nghaerfyrddin
  • i'r rhai fu'n dathlu priodasau: Tom a Denise Morgan (priodas arian) a Wyn a Glenys Thomas (priodas ruddem)

Pob dymuniad da …

  • i Margaret Williams (a oedd yn Nhregerddan) a Gwladys Griffiths (Plas Ave.) - y ddwy wedi symud i Bodlondeb yn ddiweddar..
  • i'r Dr. Rhodri Evans fydd yn gadael ei waith fel meddyg teulu yma yn Aberystwyth ac yn dechrau ar swydd newydd yn Ysbyty'r Brifysgol yn Nghaerdydd. Fe fydd ei briod Catrin hefyd yn gadael yr Ysgol Gymraeg ac yn dechrau fel athrawes yn Ysgol Gwynllyw. Dymunwn yn dda iawn i'r ddau yn y brifddinas.

Colled …

  • Bu farw Mr.Emrys Jones,Gerddi Rheidol yn sydyn ond yn dawel ar Awst 22ain. Yr oedd yr angladd yn Nghapel y Morfa ddydd Mercher Awst 31 am 2.00. Yr ydym yn cydymdeimlo yn fawr â Rona ac Anna a'i theulu.
  • Bu farw Doris Edwards ar Awst 26ain yn Ysbyty Bronglais wedi gwaeledd maith. Yr ydym yn cydymdeimlo yn fawr ag Ifor, ei phriod, a Ceri, Wyn, Yvonne

Fe fydd coffâd i Emrys a Doris yn y rhifyn nesaf o Perthyn.

I frig y tudalen.
 

I frig y tudalen.

I frig y tudalen.

TAITH I BERIW I GODI ARAIN

Aeth Arwel i Beriw dros yr haf, i godi arian at yr elusen Mind.

Am yr adroddiad a yrrodd Arwel pan oedd ym Mheriw, cliciwch yma.

I frig y tudalen.

I frig y tudalen.

GWEDDI

Gan wrthod edrych yn ôl
ac yn llawen mewn diolch di-baid,
nid ofnwn godi i wynebu'r wawr
yn moli,
yn bendithio,
yn canu -
'Crist yw ein Harglwydd.'

Addewid oes aelodau Cymuned Taizé. Llofruddiwyd arweinydd y gymuned, y Brawd Roger - a oedd yn 90 oed - wrth iddo addoli yn Taizé nos Fawrth Awst 16eg, ag yntau wedi ei amgylchynu gan blant a phobl ifanc.

Byddwn yn diolch am ei fywyd yn y gwasanaeth ar nos Sul cyntaf mis Medi

I frig y tudalen.

I frig y tudalen.

DYDDIADUR MEDI 2005

GWASANAETHAU'R SUL 10.00 a 6.00

4  Bore: Gwasanaeth teuluol ar ddechrau tymor yr Ysgol Sul yn y bore a choffi yn dilyn yn y Morlan
    Prynhawn: Cymun yn Ebeneser
    Hwyr: Gwasanaeth cymun a chyfle i ddiolch am fywyd y Brawd Roger, a lofruddiwyd yn Taizé, Ffrainc yn Awst ag yntau yn 90 oed.
11 Addoli dan arweinaid y Bugail
18 Addoli dan arweinaid y Parchedig Stephen Morgan
25 Bore Gwasanaeth derbyn pobl ifanc yn aelodau o'r eglwys

YSGOLION SUL

Plant: Bore am 10.00 (yn y Morfa ac yn Ebeneser); Oedolion ar ôl gwasanaeth y bore

Hwyl Hwyr - yn ailgychwyn nos Lun, 19 Medi, 3.45

Clwb Ieuenctid - yn ailgychwyn nos Wener, 16 Medi, yng Nghanolfan Morlan 7.30-9.30

CYLCH GWEDDI A CHOFFI

Y patrwm wythnosol yw, cyfarfod mewn man tawel yn Morlan dydd Mawrth, 11 o'r gloch, dydd Mercher, 12 o'r gloch, dydd Iau, 1 o'r gloch

CYMORTH CRISTNOGOL

 5 Cinio Bara a Chaws yn Neuadd Gymunedol y Waun

CYLCH MYFYRDOD A GWEDDI - bob nos Iau am 7.00

I frig y tudalen.
 

SWYDDOGAETHAU MEDI 2005

Blaenor y Mis Mr Geraint L Jones
Porthorion Dr Brynley Roberts, Mr Terry Adams, Mr P Alun Jones, Mrs Celia Jones

Blodau'r Cysegr - Y Morfa
4 Mrs Morfudd Davies a Mrs Jean Jones
11 Mrs Elsbeth M Lewis
18 Mrs Iola Jones
25 Mrs Megan N Williams

Blodau'r Cysegr - Ebeneser
4 Mrs Brenda Griffiths
11 Mrs Clariss Pyle
18 Mrs Joyce Knight
25 Mrs Mari Griffiths

Cynorthwywyr Llestri Cymun
4 Mrs Marlene Geely, Mrs Valmai Owen, Mrs Mari Turner, Mrs Gwenlais Jones

Cynorthwywyr Ariannol
4 Mr Rhys Jones a Mrs Mary Fitter
11 Mr a Mrs T L Thomas
18 Mr J G L Evans a Mr J Wynford Evans
25 Mr Hywel Lloyd a Mrs Glenys James

Tregerddan
25 Dan ofal Mr Trefor Evans a Dr Alun Morris

 

I frig y tudalen.
 
Golygydd y mis hwn yw Laurie Wright. Cyfraniadau ar gyfer rhifyn Medi o PERTHYN at Laurie neu Hywel Lloyd, os gwelwch yn dda, erbyn Gwener, 15 Medi.

Os cewch anawsterau wrth ddefnyddio'r wefan hon, neu os oes gennych unrhyw awgrymiadau neu ddeunydd yr hoffech ei gynnwys ar y wefan, cysylltwch â ni.

Cartref | Dyddiadur | Gweithgareddau | Perthyn | Morlan | Y Byd a'r Betws
Yr Eglwys ar wasgar | Llyfrau | Lle i feddwl | Oriel | Dolenni
 
Diweddarwyd ddiwethaf ar 5 Medi  2005.
Hawlfraint: Eglwys Bresbyteraidd Cymru neu'r awduron unigol, 2005.

 
Top