|
|
|
| |

TACHWEDD 2005
Rhifyn 141
Edrychwch a
Gwyliwch ...
GAIR GAN Y BUGAIL
Dwy ddrama mewn un wythnos. Un cwmni bach (Cwmni Riding Lights yn y Morlan,
Saesneg). Un cwmni mawr (Theatr Genedlaethol Cymru yn Theatr y Werin, Cymraeg)
Cynulleidfa fawr yn Theatr y Werin - a diolch am hynny. Nid mor fawr yn y
Morlan. Dwy ddrama hanesyddol hefyd a dwy awdures: Bridget Foreman awdur
y ddrama Remember, remember (yn cofio cynllwyn Guto Ffowc bedwar can mlynedd
yn ôl) a Valmai Jones (awdur Hen Rebel i gofio Diwygiad 1904). Ystrydebol
a diddychymyg iawn oedd Hen Rebel a dim ond ambell i fflach o egni byw. Arwynebol
efallai yw'r gair: canu swynol, disgybledig (a gwahanol iawn i'r diwygiad)
a phrif gymeriad na lwyddodd i'n hargyhoeddi o'i orfoledd na'i wewyr. Efallai
fod Valmai Jones yn ymwneud â phwnc nad oedd yn ei chyffroi na'i hysbrydoli
ac yn bwnc nad oedd wedi ei ddeall. Wnaeth hi ddim gwahanol na newydd, ond
ailadrodd hen stori orgyfarwydd bellach. Dim ond un neu ddau o'r cymeriadau
a ddaeth yn fyw. Fe wn nad oes dim newydd i'w ddweud, ond ei ddweud mewn
ffordd newydd yw tasg theatr.
Testun am gynllwyn na ddigwyddodd oedd drama Bridget Foreman, ond fe gydiodd
yn ei phwnc gan wybod o'r dechrau nad ymwneud â hen bethau ydoedd ond
yn ymwneud â phrofiadau, argyhoeddiadau ac emosiynau sydd mor gyfoes
ag erioed. Roedd argyhoeddiad yn y sgript. Aeth y cast o bump ati gydag egni
a doniau rhyfeddol i godi cwestiynau, i herio confensiynau ac i wneud ffydd
a chred yn llawer iawn mwy nag ail adrodd hen ystrydebau. Gyda dychymyg a
dyfeisgarwch daeth ddoe a'i fethiannau a heddiw a'i ofnau yn fyw mewn theatr.
Terfysgaeth oedd y ddrama, credu oedd y pwnc a'r dylanwadau sy'n gallu creu
ofnau yn ogystal a rhagfarnau. Nid nad oedd i'r ddrama ei gwendidau. Ond
yr oedd yn fyw.
Fe all ein Cristnogaeth fod yn union fel y ddwy ddrama. Fe all fod yn ddiogel,
gonfensiynol, di-liw a diddychymyg. Neu yn gyffrous ac yn fentrus, yn barod
i ddarganfod y newydd ac i fod yn egni byw yn llifo trwy ein bywyd.
Pryderi.
Cynhyrchiad Cwmni Riding Lights o Remember
Remember |
 |
|
|
Gwasanaeth Diolchgarwch |
 |
|
|
Cofion
-
at Joan Jones, 32 Maesceinion a fu yn yr ysbyty yn ystod mis Hydref ac at
Margaret Jenkins, Buarth Lodge, sydd wedi derbyn triniaeth yn ysbyty Bronglais.
Yn parhau yn yr ysbyty hefyd y mae Alun Creunant Davies ac yr ydym yn anfon
ein cofion cynhesaf ato.
Ein cydymdeimlad dwys
-
â Gwenan a Deian Creunant a'u teuluoedd ar golli tad a thad-cu
Alun Creunant Davies ers i'r rhifyn hwn o Perthyn fynd i'r Wasg.
|
Llongyfarchiadau
-
i Tom a Mair Jones, 11 Penmorfa ar ddathlu eu priodas aur yn ddiweddar ac
i Elfed a Phyllis Parry, Elysian Grove ar ddathlu priodas ruddem.
-
i Stephen a Nerys Jones, Penrhyn-coch ar enedigaeth eu cyntaf-anedig, Lowri
Mair ar 1 Hydref - y wyres gyntaf i Mary ac wyres arall i Alun.
Pob dymuniad da a phen blwydd hapus i
-
Miss Lilian Charles sydd mewn cartref gofal yn Abertawe ac yn edrych ymlaen
bob mis at dderbyn Perthyn ac at ei ddarllen o glawr i glawr. Anfonwn ein
cofion ati gan ddymuno pen blwydd hapus iddi ar ddechrau Rhagfyr.
Diolch
-
Dymuna'r Ysgol Sul ddiolch i bawb am eu cefnogaeth i'r bore coffi. Gwnaeth
elw o £367!
-
Cynhaliwyd Bore Coffi yn y Morlan ar y dydd Gwener olaf o Fedi i godi arian
tuag at Cronfa Macmillan. Yr oedd hyn yn rhan o gynllun Bore Coffi Mwya'r
Byd. Diolch o galon i'r rhai a drefnodd, a gynorthwyodd ac a gefnogodd. Llwyddwyd
i godi £400.
-
Dymuna Eira Williams ddiolch yn fawr iawn ar ran ei mam, Dilys Evans gynt
o Denstone, Stryd Faenor, ac yn awr o Gartref Tregerddan, am bob ymwelaid
a dymuniad da mae wedi eu derbyn yn ddiweddar wedi treulio dau gyfnod yn
Ysbyty Bronglais a hefyd Ysbyty Tregaron. Mae ei diolch yn ddiffuant i ffrindiau
ac aelodau ffyddlon Capel y Morfa. Diolch o galon.
|
Dau fedydd
Yn ystod mis Hydref bedyddiwyd dau o aelodau ieuengaf y Capel: Elen Madrun,
merch Sera Llewelyn ac Andrew Evans, a chwaer fach Dafydd a Rhodri
a Gruffudd Ynyr, mab Rhys a Jenny Jones, a brawd bach Glesni
 |
 |
| |
|
Ar ôl rhai blynyddoedd y mae Merfyn a Jean yn ymddeol fel gofalwyr
y capel. Nid oes raid dweud y bydd hyn yn golled fawr iawn i ni. Yr ydym
wedi bod yn ffodus o gael gofalwyr mor ofalus a chydwybodol - mae gofalwyr
o'u bath yn brin. Yr ydym yn falch iawn fod Jean, ar ôl cyfnod anodd,
bellach yn ôl yng nghanol holl weithgarwch yr Eglwys. Llawer o ddiolch
i'r ddau ohonoch am fod mor gymwynasgar, ac am fod ar gael mor gyson. Mae
llawer o gapeli ac eglwysi yn lleisio yr un gºyn y dyddiau yma, sef
mor anodd yw cael gofalwyr. Y mae gennym, fodd bynnag, awgrym arall a gwahanol
Amser i Dduw ...?
Tybed a fyddai gennym ddigon o barau priod a fyddai yn barod i roi un mis
y flwyddyn i fod yn ofalwyr i Gapel y Morfa? Tybed a oes ymysg y rhai sydd
wedi ymddeol rywrai a fyddai yn barod i ystyried rhoi amser yn ystod un mis
i hybu bywyd a thystiolaeth yr Eglwys trwy fod yn ofalwyr i hyrwyddo a hybu'r
gwaith. Efallai ei fod yn ffordd ymarferol i gyfrannu tuag at waith yr Eglwys
trwy ofyn: a wyf yn barod i neilltuo oriau arbennig i waith Duw drwy wasanaethu'r
Eglwys? Amser i Dduw. Y mae'n swydd ac yn gyfraniad eithriadol o bwysig i
greu awyrgylch hapus a chydweithio braf.
|
|
 |
| |
|
Bu farw Gwyn Jones yn yr ysbyty ar 23 Medi, a bu angladd preifat yn
y fynwent yn Llangwyryfon - teulu Ffynnon Wen, Llangwyryfon oedd teulu Gwyn.
Nid oedd `preifat' yn annisgwyl (er bod 'teuluol' yn well gair) oherwydd
un tawel ac annibynnol iawn ydoedd. Llithro yn dawel i'r capel a wnâi
- a diflannu yn sydyn; cerdded ar ben ei hun o gwmpas y dref a wnâi
a chyfarch yn gwrtais, gyda gwên; `cadw iddo fo'i hun' a wnâi,
ond bob amser yn llawn cydymdeimlad ag eraill. Oherwydd gwendid corff aeth
Gwyn i fethu edrych ar ei ôl ei hun a bu raid iddo fynd i'r Deva a'r
syndod oedd iddo fod yn ddigon bodlon ei fyd yno - hen lanc ymhlith `merched
y Deva'! Ond gwenu a wnâi yno hefyd, eistedd yn dawel, edrych ar y
môr a `gadael i'r merched siarad'! Er mor anodd ar adegau yw helpu
rhywun mor annibynnol â Gwyn, fe gafodd ofal cynnes a gofalus gan ei
nithoedd a'i deulu ac yr oedd yntau yn gwerthfawrogi hynny. Efallai nad oedd
Gwyn yn un o ffyddloniaid y capel ac ychydig o aelodau'r capel oedd yn ei
adnabod ond yr oedd ymysg y rhai hynny y mae ei ffydd a'r Eglwys wedi bod
yn gadernid tawel iddo ar hyd ei oes: `Sut mae pethau yn y capel?' oedd ei
gwestiwn pob amser. Yn y cwestiwn yr oedd ymdeimlad o werthoedd a gwreiddiau
a pherthyn a pharhad. Diolch i Dduw am gael adnabod un o'i blant tawel nad
oedd na malais na chenfigen na chasineb yn perthyn iddo. |
|
| |
 |
CYHOEDDI DWY GYFROL
Ar 24 Tachwedd (nos Iau am 6.00) fe fydd lansiad y gyfrol Capeli Cymru gan
Huw Owen - ein Huw Owen ni. Y mae Huw wedi bod yn paratoi'r gyfrol ers peth
amser ac mewn cyfnod o newid mawr yn nhirlun capeli Cymru, fe fydd y gyfrol
yn un bwysig a hanesyddol. Mae taflen gan Y Lolfa yn hysbysebu'r gyfrol gyda'r
rhifyn hwn. Fe fydd y gyfrol ar gael ar noson y lansiad, yn Inc neu Siop
y Pethe, neu, wrth gwrs, gan y Lolfa ei hun yn Nhal-y-bont.
Mae un arall o'n haelodau newydd gyhoeddi cyfrol hefyd. Ychydig ddyddiau
yn ôl daeth Cofiant Gwynfor Evans o'r wasg. Yr awdur yw Rhys Evans,
Cefn Esgair, sydd, wrth gwrs, yn gweithio gyda'r BBC yng Nghaerdydd. Edrychwn
ymlaen at ddarllen cyfrol sydd eisoes wedi bod yn destun siarad a chanmoliaeth
mawr. |
|
|
|
Rhaglen Tachwedd
Nos Fercher, 9 Tachwedd am 7.30
Cwmni'r Morlan yn cyflwyno
DAG
Cyflwyniad llwyfan i gofio canmlwyddiant geni
Dag Hammarskjold
a thrigain mlynedd sefydlu'r Cenhedloedd Unedig
Rhaglen (wrth y drws) £3.00
Nos Fercher, 16 Tachwedd am 7.30
Crist a Chenedlaetholdeb
Sgwrs a thrafodaeth gydag
Arfon Jones, Caerdydd
Trefnwyd gan Undeb Cristnogol y Myfyrwyr
a'r Morlan
Dydd Sadwrn, 19 Tachwedd
11.00 - 4.00
Ffair Grefftau ac Anrhegion
Cerddoriaeth
lluniaeth ysgafn, tuag at Ffagl Gobaith
Nos Iau, 24 Tachwedd am 6.00
Lansio cyfrol newydd
Capeli Cymru
gan Huw Owen, Aberystwyth
Nos Iau, 1 Rhagfyr am 7.30
Diwrnod Byd Eang Aids
Côr ABC
yn ymuno â chorau eraill ledled y byd i ganu Requiem Faure gyda'r nod
o godi £100,000 tuag at Brosiect Aids yn Malawi.
Bydd Arddangosfa Aids yn y Morlan.
Nos Wener, 2 Rhagfyr am 7.00
Croeso Cymraeg a Chymreig
i fyfyrwyr tramor i Aberystwyth.
Eitemau o bob math - a bwyd!
Croeso i bawb!
Cofiwch am yr Ystafell Dawel dydd Mawrth (11.00),
dydd Mercher (12.00), dydd Iau (1.00) |
Am wybodaeth bellach am Morlan a'r cyfleusterau sydd ar gael yno,
cofiwch ymweld â'r wefan:
Morlan.org.uk
ac os oes gennych ymholiad, gallwch yrru e-bost drwy'r wefan, neu
drwy ddefnyddio'r cyfeiriad
ymholiadau@morlan.org.uk
|
|
|
|
Cafwyd noson hwyliog iawn yn y Morlan i ddathlu
lansio CD Merêd, ddechrau Hydref |
|
|
|
|
 |
Agor iddo
O Dduw ein Tad,
yr wyt ti yn ceisio lle yn ein
calonnau
ac yn sefyll wrth y drws ac yn
curo,
cynorthwya ni i glywed dy lais
ac i agor pob rhan o'n bywyd i ti:
cymorth ni i agor ein llygaid
i weld gwaith dy ddwylo yn harddwch y byd o'n cwmpas
ac yn y gofal a'r cadw a fu arnom;
cymorth ni i agor ein clustiau
i wrando dy lais yn llefaru wrthym yn dy Air
ac yn nhawelwch ein gweddïau;
cymorth ni i agor ein meddyliau
i fyfyrio yn dy wirionedd
ac i dderbyn pob gwybodaeth a gweledigaeth newydd
yr wyt ti am eu cyfrannu inni;
cymorth ni i agor ein heneidiau
i oleuni dy bresenoldeb
ac i rin a llawenydd cymundeb â thi;
cymorth ni i agor ein calonnau
i ti gael dod i mewn i deyrnas ynom
ac i'n gwneud yn eiddo llwyr i ti dy hun |
 |
|
|
|
|
 |
|
|
|
 |
|
GWASANAETHAU'R SUL 10.00 a 6.00
6 Y Bugail - Cymun yn yr Hwyr
13 Y Parch. Nerys Tudor
20 Y Bugail
27 Y Parch. J. Elwyn Jenkins
YSGOLION SUL
Plant: Bore am 10.00.
Oedolion: ar ôl gwasanaeth y bore
Hwyl Hwyr - wedi gorffen tan fis Medi Clwb Ieuenctid - wedi gorffen tan fis
Medi
CYLCH GWEDDI A CHOFFI
Bore Mawrth am 10.30 yn y Festri
CYMDEITHAS Y MORFA
14 Cyfeillgarwch y Cadeirydd - gan Megan Evans (7.00)
23 Y wenynen brysur o'r Berth - gan Marged Phillips (2.30)
CYMORTH CRISTNOGOL
7 Cinio Bara a Chaws yn Neuadd Llanbadarn
CYFARFODYDD WYTHNOSOL - bob nos Iau am 7.00
Myfyrdod a Gweddi: ar Weddiau'r Testament Newydd
|
|
|
 |
| |
SWYDDOGAETHAU TACHWEDD 2005
Blaenor y Mis Mr Ifan Moelwyn Hughes
Porthorion Dr W. J. Cynfab Roberts, Mr Hywel Lloyd, Mrs Ann Davies,
Mr David Edwards
Blodau'r Cysegr - Y Morfa
6 Mrs Mary C Howells
13 Mrs Margaret Morgan
20 Mrs Maggie Edwards
27 Mrs Iona Jones a Mrs Mary Jones Morris
Blodau'r Cysegr - Ebeneser
6 Misses Llinos a Rhiannon Hughes
13 Mrs Laura Rumsey Williams
20 Mrs Susan Hughes
27 Mrs Betty Davies
Cynorthwywyr Llestri Cymun
6 Mrs Valmai Davies, Mrs Gwyneth Clwyd Haydn-Jones, Mrs Gwen Job, Mrs Rhiannon
Roberts
Cynorthwywyr Ariannol
6 Mrs Glenys James a Mrs Miriam Garratt
13 Mr a Mrs Merfyn Davies
20 Mr D. Meirion Jones a Mrs Beti Roberts
27 Mr Rhys Jones a Mrs Mary Fitter
Tregerddan
27 Dan ofal Dr Bryn Roberts a'i ddosbarth |
|
|
 |
| |
| Golygyddion y mis hwn yw Ann Hawke ac Arwel
Rocet Jones. Diolch i Laurie Wright am nifer o'r lluniau. Cyfraniadau
ar gyfer rhifyn Gorffennaf o PERTHYN at Ann (ayp@aber.ac.uk) erbyn 18 Tachwedd
os gwelwch yn dda. |
|
| |
 |
| |
|
 |
|
|
|