|
|
|
| |

CHWEFROR 2006
Rhifyn 144
GAIR GAN Y BUGAIL
Efallai fod y Nadolig a Chalan yn ymddangos ymhell iawn yn ôl bellach,
ond tra yn parhau ym mis Ionawr, rhaid, rhaid diolch.
Am Nadolig arbennig. A hynny er gwaethaf ac oherwydd y colledion a gawsom
fel Eglwys. Fe fu llawer o gyfarfodydd a chyfleoedd i ddathlu'r Nadolig ac
yr oedd blas a bendith arbennig yn yr holl amrywiaeth. Llawer iawn o ddiolch
i bawb ohonoch a fu'n paratoi ac yn cyfrannu. Ac yn rhan o'r cyfan yr oedd
yr ymdeimlad o gynhesrwydd a chlosio a chofleidio. Fe wyddom nad yw nifer
bob amser yn bwysig ond mae'n werth nodi am y tro fod y niferoedd wedi bod
yn eithriadol ac yr oedd cynulleidfa fore'r Nadolig yn sicr o fod y fwyaf
sydd wedi bod ers blynyddoedd. Mae'n werth nodi hefyd mai yn y diolch yma
y mae gwerthawrogiad arbennig o'r cyfarfodydd gweddi ddechrau blwyddyn a
phrawf os oes ei angen nad oes dim cyfoethocach na chael ein harwain gan
ein gilydd i fyfyrio ac i ymdawelu ac i weddïo.
Diolch am y £650 a ddaeth o Gapel y Morfa a'r £100 o Ebeneser tuag
at ein hapêl Nadolig elenig, sef i Ganolfan Mind yn y dref. Dyma ganolfan
sydd yn gwneud gwaith ardderchog yn ein cymuned ymysg y rhai sydd yn ei chael
yn anodd ar adegau i deimlo yn rhan o'r gymuned honno. Tra yr ydym yn gorffennol
wedi cyfrannu yn helaeth (ac wedi gwneud hynny yn 2005) tuag at anghenion
mewn mannau eraill o'n byd, y mae'n holl wysig hefyd ein bod yn effro iawn
i'r rhai sydd angen eu calonogi a'u cefnogi yn lleol.
Dyma gyfel i ddiolch hefyd, gydag ymddangosiad y Llawlyfr a Perthyn
eto, i'r rhai sydd yn gyson, dawel, yn gwneud gwaith digon diflas a
di-ddiolch nad yw'n cael llawer o sylw. Mae llawer iawn o bobl yn yr eglwys
yn gwneud gwaith mawr yn gwbl wirfoddol o flwyddyn i flwyddyn a thros y
blynyddoedd. Yr wyf fi, fel eich Bugail, yn gwerthfawrogi hynny ac fe wn
i fod yr holl eglwys yn gwneud hynny hefyd, er nad ydym, efallai, yn dweud
hynny, dim ond os oes rhywbeth yn mynd o'i le, rhyw gamgymeriad yn yr wybodaeth
neu yn y cyfrifon! Ar ein rhan i gyd - diolch yn fawr.
Pryderi.
|
 |
|
|
Cyfle i ddiolch i Merfyn a Jean ym mis Rhagfyr
am eu gwasanaeth hir i'r Morfa |
 |
|
|
Cofion
-
at nifer fawr o'n cyd-aelodau sydd wedi treulio amser yn yr ysbyty ers ddechrau
Rhagfyr. Erbyn hyn maent bron i gyd wedi gadael yr ysbyty i ddychwedlyd gartre
neu i gartref preswyl: Huw Roberts, Alun Jones, Mydrim Timothy (Jasper House),
Rutheta Mleczek (yn parhau yn yr ysbyty), Casi Isaac (Bodlondeb), Eluned
Morris, Lowri Reynolds, Mary Benjamin, Mary Morgan, Eluned Williams, Cyril
Mathias.
Ein cydymdeimlad dwys
-
â Laurie Wright a gollodd ei bab, Owain, trwy ddamwain car ychydig
ddyddiau cyn y Nadolig. Yr oedd Owain yn 35 oed, yn byw ym Methesda, ac yn
briod â Jo. Daeth cannoedd i'w angladd yng nghapel Jerwsalem, Bethesda,
ar 30 Rhagfyr.
-
hefyd â Mary Jones, Ffordd Llanbadarn, a gollodd ei brawd, Howard,
yn Llanddewibrefi ym mis Ionawr.
|
Dymuniadau da
-
i Enid Philips, David Reeves a Beatrice Davies sydd ym Modlondebar hyn o
bryd.
|
|
 |
| |
|
Aelodau Newydd
Gyda Morlan bellach wedi ymsefydlu a'r gwaith yn dechrau datblygu o ddifri,
daeth yr amser i ethol aelodau newydd i wasanaethu ar y Bwrdd Rheoli.
Y drefn yw y bydd TRI aelod o blith aelodau Capel y Morfa yn ymddeol bob
blwyddyn am y tair blynedd nesaf. (Bydd gweddill aelodau'r Bwrdd hefyd yn
ymddeol maes o law.) Mae hyn yn bolisi bwriadus yn y Cyfansoddiad er mwyn
cylchfroi'r aelodaeth yn gyson a chael gwaed newydd ar y Bwrdd.
Dyma'r tri fydd yn ymddeol yn 2006 gan ddechrau'r broses o newid:
-
Brynley F. Roberts
-
Arwyn Roderick
-
Gwerfyl Pierce Jones
Yr ydym yn ddiolchgar iawn i'r tri hyn am eu gwaith a'u cyfraniad dros y
blynyddoedd. Y maent yn ymddeol gan wybod fod y ganlfan bellach wedi ei sefydlu
ac yn datblygu. Oherwydd na fydd Cadeirydd newydd yn cael ei ethol tan y
cyfarfod nesaf o'r Bwrdd y mae Gwerfyl am barhau yn y gadair tan hynny. Diolch
o galon i'r tri ohonoch!
GYDA GOLWG AR BENODI OLYNWYR IDDYNT, ESTYNNIR
GWAHODDIAD CYNNES I UNRHYW AELOD O'R CAPEL A HOFFAI WASANAETHU AR Y BWRDD
RHEOLI I GYSYLLTU Â PHRYDERI (YSGRIFENNYDD Y BWRDD) ERBYN 26 CHWEFROR
OS GWELWCH YN DDA. TREFNIR ETHOLIAD YN ÔL YR ANGEN.
Byddwn yn cysylltu yn y man i ofyn am wirfoddolwyr ar gyfer y gwahanol
isbwyllgorau. Ond dyma achub ar y cyfle nawr i apelio'n daer arnoch i fynegi
diddordeb mewn cyfrannu mewn unrhyw ffordd a dybiwch yn addas. Wrth i'r gwaith
ddatblygu mae cyfle i bawb gyfrannu at lwyddiant y fenter.
Gwrthfawrogir pob cyfraniad ac mae'r cyfan yn cyfrannu at ein cenhadaeth
fel Eglwys.
GPJ |
|
 |
| |
|
Angharad Gwyn Williams a fu farw Rhagfyr 5ed yn 62 oed. Yr oedd Angharad
yn berson arbennig iawn: wedi byw gydag anabledd polio ers pan oedd yn bedair
oed, ond heb arlliw o hunan-dosturi na thristwch. O'i phlentyndod yn Ninorwig
ac yna i Gyffylliog yn Nyffryn Clwyd fe gafodd Angharad, fel merch y mans,
fywyd Ilawn a roddodd iddi gariad mawr at fywyd a chydymdeimlad dwfn a phobl
yn eu hamgylchiadau gwahanol. Bu'n gweithio fel radiograffydd yn ysbyty Glan
Clwyd am flynyddoedd ac yr oedd yn boblogaidd iawn ymhlith ei chydweithwyr.
Fe fu'n gwasanaethu'r Samariaid hefyd am flynyddoedd ac y mae hynny ynddo'i
hun yn dweud llawer amdani. Yr oedd wrth ei bodd yn teithio, yn darllen,
yn gwrando ac yn cael blas mawr ar wylio chwaraeon, ceir cyflym ac edrych
ar y mor o'i chartref ym Mhen y Graig. Fe ddaeth i Aberystwyth er mwyn bod
yn nes at ei chwaer, Bethan Bryn a'i theulu, ac fe gafodd ddigon o gwmni
Bethan a Bob a'r plant i wneud ei bywyd yn Aber yn un hapus a llawn. Bu ei
hangladd yn Amlosgfa Wrecsam ar 14 Rhagfyr.
Maud Davies, Tregerddan a fu farw 6 Rhagfyr yn 96 oed. Yr oedd
cysylltiadau Maud ag Eglwys Seilo yn mynd yn ôl flynyddoedd maith ac
er ei bod wedi colli cysylltiad a'r eglwys ers amser, yr oedd yn falch iawn
o'r cysylltiad hwnnw ac mae'r aelodau hynaf, fel Megan Foster, yn ei chofio
yn dod i'r capel. Yr oedd yn un o gymeriadau unigryw y dref ac wedi gweithio
am flynyddoedd yn Woolworths ac wedi byw yn yr un ty bychan (iawn) yn Pound
Place ar hyd yn blynyddoedd nes mynd i Dregerddan tua deng mlynedd yn ol.
Yn ddi-briod ac wedi ei mabwysiadu, nid oedd gan Maud unrhyw berthynas, ond
yr oedd pob amser yn hapus ac yn fodlon ei byd: yr oedd sigaret ac ambell
i beint yn y Cwps ymysg y pethau bychain a lenwai ei bywyd. Ac er nad oedd
ganddi deulu fe gafodd gyfeillgarwch mawr gan Jean Goodson a'i theulu ac
fe gafodd gartref clyd a diogel yn Nhregerddan. Bu gwasanaeth ei hangladd
yn Nghapel Gorffwys Brongenau. Yn ddieithriad wrth ofyn i Maud sut ydoedd
yr ateb, gyda gwen.fawr ddi-ddanedd a'r gwallt nad oedd wedi gwynnu, oedd
still alive!!
Terry Adams fu farw yn sydyn ar Ragfyr 12ed yn 72 oed. Ni allwn fesur
ein colled ym marwolaeth Terry ac yr ydym eisoes yn gwybod am y gwacter sydd
ar ei ol: ei gynhesrwydd, ei ffyddlondeb, ei garedigrwydd, ei ganu, ei weddi,
ei galonogi, ei chwerthin. Yr oedd y capel llawn a'r gwerthfawrogiad
o'i fywyd sydd wedi dod o bob cyfeiriad a chan pob oed, yn dystiolaeth i
ni gael y fraint o adnabod un y gallwn ddweud amdano, gan roi gwir ystyr
i'r geiriau cyfarwydd, ei fod yn wir yn 'halen y ddaear' ac yn oleuni yn
y byd. Mae'r golled i Ebeneser yn fawr, mae'r golled i Gapel y Morfa yn fawr,
mae'r golled i'r blaenoriaid yn fawr, mae'r golled i'w weinidog yn fawr,
ond mae'r golled i Gwladys a Bleddyn yn fwy. Yr ydym yn gwerthfawrogi fod
Bleddyn yn gymaint o gefn i'w fam ac yn diolch am y ffordd y mae Gwladys
wedi parhau i addoli yn ddi-dor yn Ebeneser. Fe wyr hithau, fel y gwyddom
i gyd, mai dyna fyddai dymuniad Terry. A'r deyrnged barhaol a fedrwn ninnau
ei roi iddo fydd dysgu o'i esiampl a dyfnhau ein perthynas a'r Duw byw, ymroi
gyda llawenydd i fywyd ei eglwys a gwasanaethu ein gilydd mewn gofal a chariad.
Miss Agnes Lloyd, Cartref Blaen-nos, Llanymddyfri a fu farw lonawr
9fed yn 100 oed. Yr oedd ei gwreiddiau ym Mlaenplwyf a Llanilar. Bum mlynedd
yn ol yr oedd Agnes, a oedd yn byw yn Portland Street, yn cerdded y prom
ddwywaith y dydd!! Treuliodd ei bywyd fel nyrs yn Llundain, yng ngwasanaeth
nyrsio y llynges yng nghyfnod y rhyfel, ac yn Llanelli am gyfnod. Yr oedd
yn perthyn i'r genhedlaeth o nyrsys a wasanaethodd gyda thrylweddedd, disgyblaeth
a safonau uchel iawn ac yr oedd yn falch o hynny, er nad oedd byth am ymffrostio
yn hynny. Yr oedd yn wraig annibynnol iawn ac nid oedd ganddi ddim i'w ddweud
wrth unrhyw un a oedd am roddi sylw iddi oherwydd ei hoedran - hyd yn oed
pan oedd yn gant oed! Ei pherthynas agosaf oedd ei nith, Menna, sydd yn byw
yn y Barri, ac yr oedd Agnes wedi rhoi cyfarwyddiadau pendant mai preifat
iawn fyddai'r angladd - a phump oedd yno. Nid oedd hynny yn newid dim ar
werth y gwasanaeth maith a roddodd i eraill na' n gwerthfawrogiad ninnau
o'r gwasanaeth hwnnw. Fe gafodd Agnes fywyd maith a iechyd i'w fwynhau ac
yr oedd pob amser yn gwerthfawrogi hynny. Diolch i Dduw amdani.
Beryl Evelyn Hughes, Berwyn, Ael Dinas a fu farw lonawr 14eg. Gwraig
fonheddig, addfwyn iawn oedd Beryl ac yr oedd Ilawer yn ei hadnabod trwy
ei gwasanaeth o dros ugain mlynedd i Oxfam, ei gwaith gyda'r Inner Wheel
a'i harweinyddiaeth o'r Thursday Club. Yr oedd ganddi lu o ffrindiau ac y
mae'r cardiau y mae Elwyn a'r teulu wedi ei dderbyn yn brawf o hynny. Ond
er iddi roi gwasanaeth ardderchog i'w chymuned ac i'w chyd-ddyn, yr oedd
hefyd yn wraig teulu - yn briod, yn fam ac yn nain. Yn un o deulu o saith
yr oedd yn falch o'i gwreiddiau yn Nhrefechan, yn Aberystwyth ac yn y Tabernacl
ac yr oedd yn falch mai yma y ganwyd y plant - Richard a John - er iddynt
fel teulu dreulio chwarter canrif yn byw yn Guildford. Yr oedd wrth ei bodd
yn cael clod yn ol i Aberystwyth ac ymgartrefu yn Berwyn gyda'i phriod Elwyn
a chael mwynhau dilyn hynt a helynt yr wyrion, pump ohonynt. Mesur o gariad
y teulu tuag ati oedd i ddau o'r wyrion, oherwydd salwch nain, dreulio'r
Nadolig yn ei chwmni ac yn gofalu amdani. Yr ydym yn cydymdeimlo yn fawr
ag Elwyn sydd, er gwaethaf ac oherwydd yr hiraeth, yn gwerthfawrogi'r cariad
a'r briodas a fu mor Ilawn a Ilawen. |
|
| |
 |
NODION EBENESER
 |
Da was, da a ffyddlon. Tristwch a siom i bawb ohonom oedd clywed am
farwolaeth ein ffrind annwyl Terry Adams, a chwithdod mawr oedd collei ei
gwmni yng Ngwasanaeth Nadolig yr Ysgol Suil eleni. Roedd Terry wrth ei fodd
gyda phlant ac ieuenctid yr Ysgol Sul ac wedi bod am flynyddoedd yn ffyddlon
yn y dosbarth oedolion ar fore Sul. Mae'n golled fawr i bawb yn arbennig
i'w ffrindiau sydd yn addoli yn y capel bach, gan ei fod yn berson mor hawddgar
a charedig a chynsyrn ganddo am bawb ohonom. Diolch am gael ei adnabod. Diolch
hefyd am deyrnged werthfwr ei weinidog a'i gyn-weinidog.
Brynhawn Sul, 18 Rhagfyr, cynhaliwyd ein Gwasanaeth Nadolig a baratowyd gan
rhiannon Hughes. Dywedodd y Parchedig Pryderi Ll. Jones wrth y plant fod
coeden binwydd fach mewn ffurf triongl yn dehongli y Drindod, yn ôl
Martin Luther, a gredai fod coeden felly yn arwydd o enedigaeth Iesu Grist.
Rhannwyd anrhegion i'r plant gan Pryderi ar ran Siôn Corn a fethodd
gyrraedd yr Ysgol Sul y bore hwnnw. Casglwyd £100 tuag at gronfa Mind
sydd wedi agor yn Aberystwyth yn ddiweddar.
Dymuniadau a chofion gorau at nifer o'n haelodau sydd yn gaeth i'w cartref
oherwydd anhwylder iechyd: Mrs Mary Benjamin, Mr Robert J. Davies, Miss Jennie
Evans, Mr a Mrs David M. Richards a Mrs Laura Rumsey-Williams. Rydym yn gweld
eisiau eu cwmni yn fawr iawn ar brynhawn Sul. |
|
|
Nos Lun, 27 Chwefror, 7.30
FFORWM MATERION CYFOES
Y cyntaf o gyfarfodydd ar y cyd gydag Adran Wleidyddiaeth Cymru i drafod
pynciau cyfoes y dydd.
Y pwnc a'r siaradwyr i'w cyhoeddi yn nes ymlaen.
Croeso cynnes i bawb o bob oed.
4 Mawrth
Dathlu Gw^yl Ddewi
10 Mawrth
GIG Ieuenctid 16+
18-19 Mawrth
Penwythnos Corrymeela
|
Am wybodaeth bellach am Morlan a'r cyfleusterau sydd ar gael yno,
cofiwch ymweld â'r wefan:
Morlan.org.uk
ac os oes gennych ymholiad, gallwch yrru e-bost drwy'r wefan, neu
drwy ddefnyddio'r cyfeiriad
ymholiadau@morlan.org.uk
|
|
|
|
|
Mary ac Eirwen yn diddanu rhai o'r plant a ddaeth
i'r `Croeso Cymreig' yn y Morlan ym mis Rhagfyr |
|
Yr ydym eisoes wedi cael dau gyfarfod adeiladol iawn yn ystod mis Ionawr
i drafod integreiddio - neu i ddwyn yn nes ac ynghyd - holl waith yr eglwys
dan arweiniad tîm a'r Bugail yn arweinydd i'r tîm. Mae'r rhai
sydd wedi bod yn trafod hynny o safbwynt gofal a bugeilio sef ymwelesau,
blaenoriaid ac unrhyw un arall sydd yn ymweneud yn fugeiliol â'r eglwys)
wedi trefnu ail gyfarfod er mwyn parhau a datblygu'r drafodaeth a fu yn Ionawr.
Dyma'r dyddiad:Chwefror 15 am 4.15 yn y festri. Edrychwn ymlaen i gael eich
cwmni a'ch cyfraniad. |
|
 |
Cymundeb o gariad
Dragwyddol ac anfeidrol Dduw,
er na fedrwn ni amgyffred rhyfeddod dy fawredd,
yr wyt ti'n ein gwahodd i'th bresenoldeb,
a thrwy Iesu Grist ac yng ngrym yr Ysbryd Glân,
yn ein tywys i rannu yn y cymundeb o gariad sydd ynot ti.
Addolwn di am inni dy adnabod fel Duw y Tad:
am dy waith yn galw'r byd a'r bydoedd i fod;
am dy ragluniaeth dyner yn cynnal dy gread,
ac am i ti dy ddatguddio dy hun i ni yn Dduw Cariad.
Addolwn di am inni dy adnabod fel Duw y fab:
am i'th ogoniant dwyfol ddod i'n plith yn y dyn Iesu;
am i ti rannu yn ein bywyd dynol ni yn ei wynfyd a'i wae,
ac am iti, yn Iesu, faddau inni ein pechodau a'n cymodi â thi.
Addolwn di am inni dy adnabod fel Duw yr Ysbryd Glân:
am i ti wisgo dy Eglwys â nerth ar ddydd y Pentecost,
am i ti wroli dy ddisgyblion i gyhoeddi'r newyddion da,
ac am dy bresenoldeb byw gyda ni yn goleuo, yn arwain ac yn bywhau.
Mae rhyfeddod dy sancteiddrwydd yn llawer mwy na'n deall ni,
ond diolchwn i ti am dy ddatguddio dy hun inni,
ac am i ti ein cofleidio, ein cynnal a'n cadw yn dy ras.
Ac i ti, yr un Duw, yn Dad, Mab ac Ysbryd Glân,
y bo'r mawr a'r gogoniant yn oes oesoedd.
|
 |
|
|
|
|
 |
|
 |
Y plant yn dangos eu hanrhegion ar fore
Nadolig. |
 |
|
GWASANAETHAU'R SUL 10.00 a 6.00
5 Y Bugail - Cymun yn yr Hwyr
12 Y Parch. W.J. Edwards
19 Y Bugail
26 Miss Anna Jane Evans, Cymorth Cristnogol
YSGOLION SUL
Plant: Bore am 10.00.
Oedolion: ar ôl gwasanaeth y bore
Hwyl Hwyr - wedi gorffen tan fis Medi Clwb Ieuenctid - wedi gorffen tan fis
Medi
CYLCH GWEDDI A CHOFFI
Bore Mawrth am 10.30 yn y Festri
CYMDEITHAS Y MORFA
13 Blodau a chân ar bob achlysur am 7.30; Donald Morgan a Trefor Puw
25 Y Gorau o'r Talyrnau; Tegwyn Jones 2.30. Te Cymreig i ddilyn
CYMORTH CRISTNOGOL
6 Cinio Bara a Chaws yn Neuadd y Plwyf
CYFARFODYDD WYTHNOSOL - bob nos Iau am 7.00
Myfyrdod a Gweddi
|
|
|
 |
| |
SWYDDOGAETHAU CHWEFROR 2006
Blaenor y Mis Dr Huw Owen
Porthorion Ms Gwenan Creunant, D Geraint Jones, Mrs Ann Davies, Mrs
Mattie Jones
Blodau'r Cysegr - Y Morfa
5 Mrs Dilys Lloyd
12 Mr a Mrs Hefin Jones
19 Mrs Gwen Job
26 Miss Eleri Davies
Blodau'r Cysegr - Ebeneser
5 Mrs Gwladys Adams
12 Mrs Blod Isaac
19 Mrs Denise Morgan
26 Mrs Megan J Evans
Cynorthwywyr Llestri Cymun
5 Mrs Iola Jones, Mrs Cecilia Jones, Mrs Margaret Morgan, Mrs Mary Olwen
Owen
Cynorthwywyr Ariannol
5 Mr a Mrs Merfyn Davies
12 Mr D Meirion Jones a Mrs Beti Roberts
19 Mr Rhys Jones a Mrs Mary Fitter
26 Mr a Mrs T.L. Thomas
Tregerddan
29 Dan ofal Mr Wyn Hughes a Mr L. John Roberts |
|
|
 |
| |
| Golygyddion y mis hwn yw Laurie Wright a Hywel
Lloyd. Cyfraniadau ar gyfer Perthyn mis Mawrth at Laurie neu Hywel erbyn
dydd Gwener, 17 Chwefror, os gwelwch yn dda. |
|
| |
 |
| |
|
 |
|
|
|