Gadael gwefan Capel y Morfa a mynd i wefan Eglwys Bresbyteraidd Cymru.
Tudalen Cartref Capel y Morfa a Manylion Cysylltu, Rhestr Swyddogion, a Mapiau.
Dyddiadur y Capel ac Amserau Gwasanaethau
Gweithgareddau yn y Capel, yr Ysgol Sul, etc.
Perthyn - Misolyn y Capel ac ôl-rifynnau.
Perthyn - y rhifyn cyfredol.
Perthyn - ôl-rifynnau
Morlan
Y Byd a'r Betws - cyfle i drafod gwahanol bynciau.
Yr Eglwys ar Wasgar.
Adolygiadau o Lyfrau.
Lle i feddwl.
Oriel - Lluniau o ddigwyddiadau yn y Capel.
Dolenni i safleoedd perthnasol eraill.

       

 

 
PERTHYN - Y Rhifyn Cyfredol.
 MAWRTH 2006
Rhifyn 145

                             

APEL GWANWYN 2006

CYNNWYS

GAIR GAN Y BUGAIL
NEWYDDION
GOFALWR
DYDDIADUR GWEITHGAREDDAU
GWEINIDOGAETH TÎM
APÊL GWANWYN
NODION EBENESER
GWEDDI
DYDDIADUR MAWRTH 2006
SWYDDOGAETHAU MAWRTH 2006

                            

GAIR GAN Y BUGAIL

Y Grawys yng Nghapel y Morfa

Mae'r Grawys yn gyfnod o 'ymdrech arbennig', o ddisgyblaeth, o baratoi ac, yn fwy na dim, yn gyfnod o ganolbwyntio ac o roi amser arbennig i gael ein meithrin a'n hadeiladu yn y ffydd. Ym mhob rhan o'n bywyd yr ydym angen 'cyfnodau arbennig' felly. Fe all ein bywyd ysprydol a'n perthynas â'n cyd-Gristnogion yn yr eglwys fynd yn llac, yn ddi-gyfeiriad ac yn hynod o fregus.

Apeliaf, felly, ar i pob aelod edrych yn ofalus ar yr hyn sydd yn dilyn. Y mae'r cyfan wedi cael ei drefnu a'i baratoi er eich mwyn CHI ac er ein mwyn NI fel cymdeithas yr eglwys. Y mae rhai digwyddiadau yn cael eu cynnal yn y Morlan er mwyn iddynt fod yn agored i bawb, ond y maent hefyd yn cynnig cyfle i ni fel eglwys fod yn rhan ohonynt oherwydd y maent yn rhan o'n rhaglen Grawys. Peidiwch, os gwelwch yn dda, a bod mor ddeddfol a set eich ffyrdd i ddweud Tydw i ddim ond yn mynd ar y Sul. Fe all hynny gau'r drws i fendithion a chyfleoedd arbennig. Wrth gwrs y mae cymaint ohonom mor brysur. Dyna paham yr ydym angen Grawys. Beth bynnag, edrychwn ymlaen i weld aelodau Capel y Morfa yn cael Grawys bendithiol ym mhob ffordd.

Pryderi.

I frig y tudalen.

Gwasanaeth y teulu, Chwefror, 2006

I frig y tudalen.
 

NEWYDDION

Cofion

  • Anfonwn ein cofion at nifer fawr o'n haelodau sydd yn wael ac wedi eu caethiwo i'w cartrefi neu mewn cartrefi preswyl. Bu Eirian Evans a Margaret Evans (Maesceinion) yn yr ysbyty yn ystod y mis. Mae Rutheta Mleckek bellach yn Ysbyty Tregaron. Anfonwn ein cofion atynt.

Colled …

  • Fel yr oedd Perthyn yn cael ei baratoi ar gyfer ei argraffu fore Mawrth cawsom y newyddion trist am farwolaeth un o'n blaenoriaid, Cyril Mathias, Maes Gogerddan. Yr oedd wedi bod yn yr ysbyty ers peth amser, ond roedd ei farwolaeth yn annisgwyl o sydyn. Cydymdeimlwn â'i unig blentyn, Margaret ac â'i gyd-flaenoriaid a'i ffrindiau. Fe fydd coffad i Cyril yn Perthyn fis Ebrill.

Chwaraeon …

  • Yr oedd dau dîm o Hwyl Hwyr a dau dîm o'r Clwb Ieuentid wedi cofrestru i gystadlaethau pêl droed a phêl rwyd dan nawdd Cyngor Ysgolion Sul eleni. Ni fu llwyddiant o safbwynt ennill tlysau, ond fe fu digon i'w ganmol a mwy i'w fwynhau. Yr oedd trefnwyr y chwaraeon wedi bod mor anheg a rhoi tîm pêl droed merched Hwyl Hwyr yn erbyn buddugwyr llynedd - tîm o fechgyn o Drelech. Yr oedd digon o dîmau eraill y byddai'r merched wedi eu curo, ond doedd tîm Trelech ddim yn un ohonynt. Fe wnaeth tîm pel droed bechgyn Hwyl Hwyr yn ardderchog: cael buddugoliaeth dda, a cholli - dim ond o sgrambl ar y linnell gôl - cyn mynd i'r gem gyn-derfynol. Fe gafodd tîm pel droed iau y Clwb Ieuenctid gem yn erbyn tîm mawr o gorff a chystadleuol eu hagwedd - 'rhy broffesiynol' oedd barn rheolwr ein tîm ni, Wyn Hughes. Ond yr oedd yn falch iawn o'i dîm anfuddugol..

Bedydd

  • Bu gwasanaeth bedydd Lili Medi, merch Phil a Nia Lowri, chwaer Cari a wyres Valmai ac Ifor, brynhawn Sul Chwefror 12ed. Dymunwn yn dda iddynt fel teulu.

Llongyfarchiadau

  • i Siân a Keith Richards ar enedigaeth Elinor Mary, wyres i Laurie a Hefina, ar y 21ain

I frig y tudalen.
 

GOFALWR

Fe gofiwch o ddarllen Perthyn yn Rhagfyr/Ionawr fod Merfyn a Jean Davies wedi cwblhau cyfnod hir fel Gofalwyr i Gapel y Morfa. Ym mis Ionawr fe gyhoeddwyd na fuom fel blaenoriaid yn llwyddiannus yn ein hymgais i benodi olynwyr iddynt a holwyd a oedd unrhyw un o'n haelodau yn fodlon gwirfoddoli, neu efallai yn gwybod am rhywun a fyddai'n fodlon gwneud. Ni fu ymateb ac felly nid oedd dewis ond meddwl am ffyrdd gwahanol o wneud y gwaith ein hunain. Ystyriwyd nifer o opsiynau a gynigwyd gan y Pwyllgor Ariannol ac Adeiladau a phenderfynodd y Cwrdd Blaenoriaid diwethaf i dderbyn y cynnig, fel arbrawf yn y lle cyntaf, i gael pedwar tîm i fod yn gyfrifol am y gwaith am fis ar y tro. Gan fy mod i a Mary wedi derbyn y cyfrifoldeb am fis Ionawr, cytunom i barhau am Chwefror hefyd. Nid oedd hi'n anodd ychwaith i gael tri blaenor arall i wirfoddoli am y misoedd canlynol - Gwerfyl am fis Mawrth, Bryn am Ebrill ac Eleri am Mai, gan ddilyn yr un patrwm o hynny ymlaen.

Yn awr, hoffem gael mwy o wirfoddolwyr i ymuno â'r tîmoedd hyn. Ni fydd disgwyl i bawb droi i fyny bob wythnos o'r mis ond efallai pan fydd eisiau gwneud gwaith arbennig yn unig. Y gobaith yw mai gwaith i'w fwynhau fydd hwn - amser i gymdeithasu a chael tipyn o glonc yr un pryd.

Os hoffech ymuno ag un o'r tîmoedd, yna siaradwch â mi neu un o'r blaenoriaid sy'n arwain tîm.

I frig y tudalen.
 

Teulu Pugh-Jones

I frig y tudalen.
 

 APEL GWANWYN

Rhwymo'r Briw yn Rhwymau'r Efengyl

Anaml y daw cyfle i wneud apêl am gydweithrediad i atal trychineb. Yn amlach na pheidio, apêl am ymateb parod i argyfwng a geir. Eleni mae apêl EBC yn gofyn i chwi gefnogi gweithgarwch strategol i atal ymlediad HIV/Aids ym Mizoram, gogledd ddwyrain India.

Y nôd yw cyfrannu at ymdrech yr eglwys a'r awdurdodau ym Mizoram trwy rannu arbenigedd o Gymru ym meysydd hybu iechyd, hyfforddiant a thriniaeth uniongyrchol.

Mae angen datblygu rhaglenni strategol a gweithgarwch ymarferol a chreu partneriaethau allweddol.

Ar hyn o bryd, mae lefelau HIV/Aids yn gymharol isel ond erbyn hyn, mae'r afiechyd yn dechrau ymledu i'r boblogaeth gyffredinol. NAWR yw'r amser i weithredu.

Oherwydd y berthynas glos hanesyddol sydd rhwng Cymru a Mizoram credwn fod yma gyfle i ni gyfrannu'n effeithiol ar sail adnabyddiaeth. Yr ydym, yng Nghymru, wedi cael profiad helaeth o atal HIV/Aids yn gymharol llwyddiannus. Dyma gyfle, felly, i rannu'n profiad a'n harbenigedd.

Nid yw'r bygythiad cyfoes yma yn gyfyngedig i Mizoram. Bwriedir, felly, dros amser, i ddysgu'r gwersi a rhannu'r profiadau â'r synodau eraill yn yr India.

Y cam cyntaf yw paratoi. Yng ngwanwyn 2005, ymwelodd Dr Sanga o Ysbyty Presbyteraidd Durtlang a Chymru. Rhannodd ei brofiadau yn delio ag effeithiau HIV/Aids a'r camddefnydd o gyffuriau. Ymwelodd â sawl asiantaeth a gwasanaeth arbenigol yma yng Nghymru a bu'n annog cynulleidfaoedd yng Nghymru i ymateb. Fe'n deffrôdd i'r angen cynyddol ym Mizoram.

O ganlyniad, bwriedir yn awr wahodd Prif Feddyg yr Ysbyty, Dr Rema, i ymweld â Chymru yn gynnar yn 2006 i drafod gydag arbenigwyr ym maes iechyd cyhoeddus a'r eglwys ac i gynllunio'r ffordd ymlaen. Bydd yn bwysig diogelu cefnogaeth gyffredinol, yma ac ym Mizoram, a diogelu na fydd y rhaglen a gefnogir ym Mizoram yn dyblygu ymdrechion sydd eisoes ar waith yno.

Mae'n fwriad hefyd i anfon tîm arbenigol o Gymru i Mizoram yn yr hydref i ddatblygu sgiliau unigolion i weithredu rhaglenni penodol ac ymgyrchoedd lleol.

Bydd y tîm yn cynnig hyfforddiant, anogaeth ac arbenigedd yn y meysydd canlynol:

  • cyswllt eglwysig
  • ? iechyd cyhoeddus
  • ? ataliaeth a thriniaeth HIV/Aids a'r camddefnydd o gyffuriau
  • hyfforddiant i grwpiau allweddol - athrawon, fferyllyddion, bydwragedd, nyrsus a meddygon, arweinwyr eglwysig a chymdeithasol
  • ? cyfryngau torfol
  • datblygiad strategaethol, ymchwil ac arfarniad

Yr ail gam fydd gweithredu'r rhaglen ataliol, ehangu chryfhau'r gwasanaethau uniongyrchol.

  • Bydd angen diogelu adnoddau ychwanegol ar gyfer y cam yma a rhagwelir y bydd y tîm arbenigol o Gymru yn gallu gweithredu fel grwp ymgynghorol i gefnogi y tîmau strategol a gweithredol ym Mizoram a fydd wedi eu creu o ganlyniad i weithredu'r cam cyntaf.

Y trydydd cam fydd arfarnu'r gwaith a rhannu'r wybodaeth â'r synodau eraill yn yr India ynghyd â phartneriaid a chynulleidfaoedd eglwysig yng Nghymru.

Mae angen codi £?30,000 cychwynnol i gyfarfod â'r costau. Diolch ymlaen llaw am weithredu trwy eich cyfraniadau i atal trychineb.

Iesu yn y Deml

I frig y tudalen.

NODION EBENESER

Mae'r tywydd oer ers y Nadolig ynghyd â salwch wedi amharu ar bresenoldeb nifer o'n ffyddloniaid ar brynhawn Sul. Rydym yn ffodus iawn i gael oedfa bob prynhawn Sul drwy'r flwyddyn. Gadewch i ni edrych ymlaen at dymor y Gwanwyn fel y gallwn gyd-addoli yn gyson, yn hyderus ac yn llawn brwdfrydedd.

Mae dau flaenor o Gapel y Morfa wedi eu dewis i ddod atom ar y Sul am flwyddyn, sef meistri R Trefor Evans a Geraint L Jones. Yna bydd dau flaenor arall yn dilyn yn y flwyddyn ganlynol, a.y.b. Estynnwn groeso mawr iddynt ac edrychwn ymlaen at gael eu cwmni ffyddlon a'u cefnogaeth fel y cawsom gan ein diweddar ffrind, Mr Terry Adams. Gwerthfawrogwn hefyd wasanaeth cydwybodol Mrs Megan J Evans wrth iddi draddodi'r cyhoeddiadau wythnosol.

Rydym yn hapus iawn i gael croesawu dwy Gymraes newydd i'r Ysgol Sul, sef Mererid (8 oed) a'i chwaer Anwen (6 oed). Maent yn byw ym Mhenparcau ac yn ddisgyblion yn yr Ysgol Gymraeg. Mae'n dda cael dweud eu bod yn hapus iawn gyda ni ar fore Sul.

Cofion cynnes y mis yma eto at yr aelodau a gwrandawyr o'n plith sydd yn gaeth i'w gartref, heb anghofio ein ffrindiau yng Nghartref Bodlondeb.

I frig y tudalen.

DYDDIADUR GWEITHGAREDDAU

Amnest Rhyngwladol (2.3.06)

Cyfarfod Cyhoeddus yn y Morlan am 7.30 nos Iau Mawrth 2ail i sefydlu cangen o Amnest yn Aberystwyth.Dewch i wrando sut y gallwch weithredu yn lleol tros y rhai sydd yn cael cam ac yn cael eu camdrin.


Ffiniau a mannau hyfryd (9-16-23-30.3.06)

Iachau rhwygiadau yn y byd a'r eglwys

Cyfres o nosweithiau dan arweinaid y Parchedig Enid Morgan. Pob nos Iau yn Festri Capel y Morfa am fis, gan ddechrau am 7.00 nos Iau, Mawrth 9ed.


Nos Sadwrn 11 Mawrth am 7.00 yn y Morlan

Byw yn iach ar Fasnach Deg (11.3.06)

Darperir swper am £10.00 y pen, ar ddechrau Wythnos Masnach Deg, ac i ddathlu fod Aberystwyth bellach yn dref Masnach Deg.

Gwr gwadd: Simeon Green (Windward Bananas)

Tocynnau gan Dilys Parkin (Ffôn: 624192)


Nos Fercher , 15 Mawrth am 7.30 yn y Morlan

Gwendid meidrol: byw fel gofalwraig

yng nghwmni Frances Young, Birmingham sydd yn gofalu am ei mab, Arthur, sydd yn anabl ac sydd yn dysgu iddi beth yw bod yn feidrol a beth yw byw gyda dioddefaint. Mae Frances Young wedi ymddeol o'i swydd fel Athro Diwinyddiaeth ym Mhrifysgol Birmingham, yn fyd-enwog yn ei maes ac wedi cyhoeddi cyfrol am ei pherthynas ag Arthur o'r enw Face to Face.Y mae hefyd wedi cyhoeddi barddoniaeth.

Yr ydym yn cymeryd mantais o'i phresenoldeb ac y mae hefyd am arwain seminar am 4.00 yr un diwrnod ar y thema

Dehongli'r Beibl heddiw.


Prynhawn Sul, 19 Mawrth

O'r môr i'r tir ac i'r llan

Am 4.00 yng ngolwg y mor wrth Orsaf y Bad Achub. Pererindod fer i gofio taith y seintiau cynnar ar Sul Corrymeela (sef y ganolfan yn Iwerddon sydd yn gweithio i greu perthynas well rhwng Catholigion a Phrotestaniaid) Cerdded ar hyd y prom, i lawr Morfa Mawr, ac ar hyd Ffordd Llanbadarn i'r eglwys. Fe all rhai aros o flaen Capel y Morfa ac ymuno o'r fan honno. Cyrraedd Eglwys Llanbadarn tua 5.30 a chael gwasanaeth byr yno. Os nad ydych am gerdded fe allwch fynd draw i'r eglwys erbyn 5.30

Ni fydd oedfa yng Nghapel y Morfa felly ar y nos Sul.


Nos Wener Mawrth 24 yn Seion, Stryd y Popty am 7.00

Llwybr Gobaith

Dr. Rhiannon Lloyd yn sôn am ei chyfrol, ei ffydd a'i phrofiad o 'antur cymodi o Gymru i'r byd.' Fe fydd hefyd yn siarad yn yr Eglwys Efengylaidd fore Sul ac yn Sant Mihangel nos Sul. Mae ei chyfrol, Antur Gobaith, wedi cael derbyniad gwresog iawn ac y mae'n werth gwrando arni.


Nos Sul Mawrth 26ain am 6.00 yng Nghapel y Morfa.

Cerdded gyda'n gilydd

Gwasanaeth a chyfle arbennig i wrando ar negeseuon o Sambia, i ystyried canlyniadau yr Holiadur ac i gael ein hysgogi i feddwl am un byd gan Richard Morgan. Daeth yn bryd i ni gryfhau ein perthynas a'r eglwys yn Tuvalu, Delhi a Lusaka.


Nos Lun, 3 Ebrill am 5.30

Drama'r Groglith

Cyflwyniad arbennig gan Glwb Hwyl Hwyr a chroeso i rieni a ffrindiau.Yng Nghanolfan Morlan.


Nos Lun, 10 Ebrill am 7.30 yn y Morlan

Bonhoeffer - martyr, pacifist, pastor

Y mae'r weddi ganlynol gan Dietrich Bonhoeffer yn ein hatgoffa ei bod yn ganmlwyddiant geni un o ferthyron yr ugeinfed ganrif.

Ar ddechrau yr Wythnos Sanctaidd, fe ddangosir ffilm ddogfen arbennig ar Bonhoeffer.

Am wybodaeth bellach am Morlan a'r cyfleusterau sydd ar gael yno, cofiwch ymweld â'r wefan: Morlan.org.uk

ac os oes gennych ymholiad, gallwch yrru e-bost drwy'r wefan, neu drwy ddefnyddio'r cyfeiriad ymholiadau@morlan.org.uk

I frig y tudalen.

Adrian Williams yn cyfarch y plant

I frig y tudalen.

GWEINIDOGAETH TÎM

Ar Chwefror 15ed. bu'r ail gyfarfod o bawb sydd yn ymwneud a gofal bugeiliol yn yr eglwys: ymwelesau, blaenoriaid ac eraill. Cafwyd trafodaeth ddiddorol a rhanwyd llawer o syniadau ynglyn â datblygu ein gwaith bugeiliol fel eglwys. Fe ddewiswyd Eirwen Jones i gynrychioli'r grwp yma ar Dîm y Weinidogaeth yn yr eglwys. Wrth i'r drafodaeth fynd yn ei blaen y mae'r darlun yn dod yn fwy clir o werth datblygu bywyd yr eglwys i'r cyfeiriad hwn.

Fe fydd pawb (rhieni, athrawon Ysgol Sul, arweinwyr y clybiau) sydd yn ymwneud a bywyd teuluol, plant ac ieuenctid yn cyfarfod am yr ail waith brynhawn Sul Mawrth 5ed 3.30 - 4.30 ac mae croeso hefyd i unrhyw rai sydd â diddordeb mewn unrhyw agwedd o addoli a bywyd defosiynol yr eglwys a/neu defosiwn personol i gyfarfod am 7.00 nos Fawrth, Mawrth 7 yn y Festri.

I frig y tudalen.

GWEDDI

Argwlydd Dduw,
yn gynnar yn y bore galwaf arnat:
helpa fi i weddïo ac i ganoli fy meddwl arnat ti.
Ni allaf weddïo ar fy mhen fy hun:
ynof fi y mae tywyllwch, ond gyda thi y mae goleuni;
yr wyf fi yn unig, ond nid wyt ti byth yn fy ngadael;
yr wyf fi'n wangalon, ond yr wyt ti wastad yn gryf;
yr wyf fi'n anniddig, ond ynot ti y mae tangnefedd;
ynof fi y mae chwerwder, ond gyda thi y mae amynedd;
y mae dy ffyrdd di y tu hwnt i'm deall i,
ond gwn fod gennyt ffordd ar fy nghyfer.

Arglwydd Iesu Grist,
fe fuost tithau'n dlawd ac yn drallodus;
fe fuost ti fel minnau yn gaeth;
fel minnau cefaist dy ynysu oddi wrth dy ffrindiau;
fe wyddost ti am holl ofidiau dy blant;
rwyt yn aros gyda mi yn fy unigedd,
ac yr wyt yn dymuno i mi dy geisio,
dy adnabod a'th garu.

Arglwydd, clywaf dy alwad a dymunaf dy ddilyn.
Ysbryd Glân,
rho i mi ffydd i'm cadw rhag anobaith;
tywallt i'm calon gariad tuag atat ti a thuag at bawb,
fel y diddymir pob casineb a surni sydd ynof.
Rho imi'r ffydd fydd yn fy ngwaredu o afael pob ofn.

I frig y tudalen.

Y plant yn dangos eu hanrhegion ar fore Nadolig.

I frig y tudalen.

DYDDIADUR MAWRTH 2006

GWASANAETHAU'R SUL 10.00 a 6.00

5 Y Bugail - Gwasanaeth Gwyl Ddewi yn y bore; Cymun yn y nos
12 Parch. Nicholas Bee
19 Y Bugail. 4.00 Pererindod - Gwasanaeth hwyr yn Llanbadarn
26 Y Bugail. Bedydd.yn y bore.

YSGOLION SUL

Plant: Bore am 10.00.
Oedolion: ar ôl gwasanaeth y bore

Hwyl Hwyr - wedi gorffen tan fis Medi Clwb Ieuenctid - wedi gorffen tan fis Medi

CYLCH GWEDDI A CHOFFI
Bore Mawrth am 10.30 yn y Festri

CYMDEITHAS Y MORFA
6 Dathlu Gwyl ein Nawddsant gyda Geraint Thomas; Cawl dan ofal Hefin Jones a'i griw. 7.00 pm yn y Morlan
22 Sgwrs gan Ann Davies: Hel yr Achau; Cyfarfod Blynyddol i ddilyn. 2.30 yn y Festri

CYMORTH CRISTNOGOL
6 Cinio Bara a Chaws yn festri Bethel

CYFARFODYDD WYTHNOSOL - bob nos Iau am 7.00
2 Cylch Gweddi
9 Ffiniau a mannau cysegredig
16 Astudiaeth Undebol y Grawis dan arweiniad
23 y Parchedig Enid Morgan (yn Festri'r Morfa)
30 Heb ei drefnu eto

I frig y tudalen.
 

SWYDDOGAETHAU MAWRTH 2006

Blaenor y Mis  Dr Bryn F Roberts
Porthorion Miss Eleri Davies; Mr John Evans; Mr Ifan Moelwyn Hughes; Mrs Mary Fitter

Blodau'r Cysegr - Y Morfa
5 Mrs Mary Fitter a Mrs Peris Edwards
12 Mrs Eira Williams a Mrs Dilys Evans
19 Gwenan a Deian Creunant
26 Mrs Beti Roberts

Blodau'r Cysegr - Ebeneser
5  Mrs Hilda Williams
12 Mrs Joyce Knight
19 Mrs Susan Hughes
26 Mrs Susan Hughes

Cynorthwywyr Llestri Cymun
5 Mrs Beryl Davies, Mrs Mary Fitter, Mrs Megan Hughes, Mrs Beryl Roberts

Cynorthwywyr Ariannol
5 Mrs Hefina Davies Wright a Mr Wynford Evans
12 Mrs Gwladys Adams a Mrs Glenys James
19 Mr a Mrs William Griffiths
26 Mrs Beti Roberts a Mrs Blodwen Williams

Tregerddan
29 Dan ofal Ms Gwenan Creunant a Mrs Ann Davies

 

I frig y tudalen.
 
Golygyddion y mis hwn yw Laurie Wright a Hywel Lloyd. Cyfraniadau ar gyfer Perthyn mis Ebrill at Siân Eleri ac Enid erbyn dydd Gwener, 17 Mawrth, os gwelwch yn dda.

Os cewch anawsterau wrth ddefnyddio'r wefan hon, neu os oes gennych unrhyw awgrymiadau neu ddeunydd yr hoffech ei gynnwys ar y wefan, cysylltwch â ni.

Cartref | Dyddiadur | Gweithgareddau | Perthyn | Morlan | Y Byd a'r Betws
Yr Eglwys ar wasgar | Llyfrau | Lle i feddwl | Oriel | Dolenni
 
Diweddarwyd ddiwethaf 10 Mawrth, 2006.
Hawlfraint: Eglwys Bresbyteraidd Cymru neu'r awduron unigol, 2006.

 
Top