Gadael gwefan Capel y Morfa a mynd i wefan Eglwys Bresbyteraidd Cymru.
Tudalen Cartref Capel y Morfa a Manylion Cysylltu, Rhestr Swyddogion, a Mapiau.
Dyddiadur y Capel ac Amserau Gwasanaethau
Gweithgareddau yn y Capel, yr Ysgol Sul, etc.
Perthyn - Misolyn y Capel ac ôl-rifynnau.
Perthyn - y rhifyn cyfredol.
Perthyn - ôl-rifynnau
Morlan
Y Byd a'r Betws - cyfle i drafod gwahanol bynciau.
Yr Eglwys ar Wasgar.
Adolygiadau o Lyfrau.
Lle i feddwl.
Oriel - Lluniau o ddigwyddiadau yn y Capel.
Dolenni i safleoedd perthnasol eraill.

 

       

 

 
PERTHYN - Y Rhifyn Cyfredol.
 EBRILL 2006
Rhifyn 146

Gorfoleddwn, Fab ein Duw,
am dy rodd i ddynol-ryw;
tarddodd bywyd i bob oes
drwy dy wyrth ar bren y groes.   

     

CYNNWYS

GAIR GAN Y BUGAIL
NEWYDDION
ER COF
DYDDIADUR GWEITHGAREDDAU
GOLEUNI - CERDD Y GADAIR
APÊL MORLAN
NODION EBENESER
GWEDDI
DYDDIADUR EBRILL 2006
SWYDDOGAETHAU EBRILL 2006

                            

GAIR GAN Y BUGAIL

Y Grawys yng Nghapel y Morfa

Braf iawn oedd darllen colofn onest Lyn Ebenezer yn Y Cymro. (Trwy lygad Barcud, 3 Mawrth). Dyma ran o'r golofn: Yn ystod fy nghyfnod hir yn Aber prin y byddwn yn croesi trothwy Seilo ac yna'r Morfa. Dylwn ymddiheuro'n ddwys wrth Pryderi Llwyd Jones a'i ragflaenydd, y diweddar H.Wynne Griffith. Fy esgus oedd hyn: mae digon yn mynd yno beth bynnag. Does dim angen fy nghefnogaeth i. Ie, esgus tila tu hwnt. O ddychwelyd i'r Bont doedd yr esgus yna ddim yn bod ... roedd fy ngwraig wedi para'n ffyddlon dros y blynyddoedd. Ac erbyn hyn byddaf finnau, bron bob bore Sul, yn treulio awr fendithiol yn y capel. Esgus a ddefnyddiwn yn aml i gyfiawnhau fy absenoldeb o gartref gras oedd dweud nad oedd angen i mi fynychu'r capel neu'r eglwys i fod yn Gristion. Onid oeddwn i lawn cystal â'r rheiny oedd yn mynd yno? Defnyddir yr un esgus o hyd gan lawer o'm cydnabod. Ond erbyn hyn gallaf ateb yn hunangyfiawn: os wyt ti cystal ag unrhyw un sy'n mynychu addoldy, gyfaill, pam na ddoi di yno? Peidied neb â meddwl fy mod wedi cael tröedigaeth ... wedi ailddarganfod rhywbeth bendithiol a phleserus ydwyf. Yng ngeiriau Kris Krisofferson, wrth iddo glywed cloch unig yn canu un bore Sul : 'And it took me back to something that I lost somewhere,somehow along the way.' Mae'n golofn onest a diffuant iawn. Diolch, Lyn, ac y mae'n braf iawn ei weld yng nghapel Rhydfendigaid.

Yr oeddwn wedi meddwl ehangu ar ei eiriau. Ond i'r rhai ohonoch yr ydym wedi eu colli yn llwyr o addoli a chymdeithas y capel (ac y mae nifer ohonoch) neu y rhai ag y mae eich perthynas yn achlysurol ac yn llac iawn, fe ddywedwn - a ddarlleno, ystyria. Yr hyn nad yw Lyn yn ei ddweud yw fod ei absenoldeb ef wedi gwanhau bywyd yr eglwys yn fawr iawn ac y mae hynny wedi digwydd dros ddegawdau mewn capeli bychan a chapeli mwy. Dyna rhan o'r argyfwng sy'n achosi fod canu cnul anghydffurfiaeth (gweler y rhifyn cyfredol o Barn) wedi dod yn beth poblogaidd a chyffredin. Nid yw Lyn yn dweud chwaith, chwarae teg iddo (ond mae'n wir) y byddai bywyd yr eglwys wedi cael ei chyfoethogi nid yn gymaint gan ei gyfraniad, ond gan ei gymeriad.

PASG HAPUS A BENDITHIOL IAWN I POB UN OHONOCH.

Pryderi.

I frig y tudalen.

Gwasanaeth Gw^yl Ddewi, Mawrth, 2006

I frig y tudalen.
 

NEWYDDION

Cofion

  • Anfonwn ein cofion at nifer fawr o'n haelodau sydd yn wael ac wedi eu caethiwo i'w cartrefi neu mewn cartrefi preswyl. Mae Rutheta Mleckek bellach yn Ysbyty Tregaron. Anfonwn ein cofion atynt.at y rhai sydd wedi bod yn yr ysbyty yn ystod mis Mawrth: Ivor Jones (Park Ave.), Margaret Evans (Buarth), Eluned Williams (Llys y Brenin), Cari O'Rourke (Ffordd y Môr), Gwenlais Jones (Llys Hen Ysgol), Bet Davies (Gerddi Rheidol)

Cydymdeimladolled …

  • Yr ydym yn cydymdeimlo a David Griffiths, Plas Ave., ar golli ei chwaer yn ystod y mis.

Llongyfarchiadau…

  • Braf oedd darllen am lwyddiant rhai o'n haelodau yn y wasg: i Huw Smith ar gyhoeddi ei gyfrol; i Mari Fenton am lwyddiant unwaith eto ar y trac; i'r plant a'r bobl ifanc a lwyddodd yn Eisteddfodau'r Urdd.

I frig y tudalen.
 

ER COF

Bu farw Cyril Mathias, Maes Gogerddan, ar 21 Chwefror yn 96 oed ac yr oedd wedi byw ar ei ben ei hun, ar ôl colli ei briod, Evelyn, tan ychydig cyn y Nadolig. Un annibynnol a thawel iawn oedd Cyril. Gwr ei filltir sgwâr ydoedd a'r unig symud yn ei fywyd oedd o South Road i Stryd Faenor ! Yn Aberystwyth y bu hefyd yn gweithio - am gyfnod yn Garej Gorllewin Cymru ac yna ym Mragdy Roberts. Ond fe fyddwn ni yn ei gofio fel yr un 'ffyddlon.cydwybodol' yn cyflawni'r swyddogaethau tawel, oherwydd nid oedd Cyril yn w^r cyhoeddus. Fe'i ordeiniwyd yn flaenor yn Seilo yn 1971 ac fe fu'n un o'r Ysgrifenyddion Ariannol am flynyddoedd lawer a than 2005! Ond y swydd a roddodd fwyaf o foddhad iddo oedd paratoi y cymun yn fisol ac fe wnaeth hynny am flynyddoedd yn Seilo ac yng Nghapel y Morfa tan tua chwe mlynedd yn ôl. Fe gawsom gyfle i ddiolch iddo am hynny, oherwydd fe gyflawnodd y swydd - fel pob swydd - yn ofalus a graenus. Fe fu hefyd yn ysgrifennydd Cymorth Cristnogol yn y dref am gyfnod maith. Ond os oedd yn dawel ac annibynnol yr oedd Cyril a'i fys ar byls bywyd yr eglwys ac yr oedd yn adnabod pawb. Fe gadwodd yn ifanc ei ysbryd hefyd gan barhau i chwarae bowls a snwcer/biliards nes cyrraedd ei nawdegau! Bu ei angladd yn wythnos Gw^yl Ddewi a pha ffordd well o ddiolch am w^r y 'pethau bychain' a 'gadwodd y ffydd' na chael diolch am Cyril. Yr ydym yn cydymdeimlo yn fawr a'i ferch Margaret, ei phriod, Stan, a' i ddau w^yr, Geraint ac Emyr.

Bu farw Beatrice Davies, Loveden Road, ddydd Llun Mawrth 6ed. yn 101 oed. Dyma un o gyn-aelodau Tabernacl a ddaeth yn aelod o Gapel y Morfa yn llawen er iddi ymdeimlo a'r tristwch o gau capel. Fe lwyddodd i wneud hynny oherwydd ei hysbryd a'i meddwl effro a'i hymdeimlad o natur ffydd a chred. Yr oedd yn unigryw : yn hyn nag adeilad y Llyfrgell Genedlaethol, fe fu yn Ysgrifennydd i bump Llyfrgellydd yn ystod ei gwasanaeth rhwng 1923 -72 ! Mae'r hanes chwedlonol yn dweud mai Beatrice oedd yn rhedeg y Llyfrgell ac yr oedd ganddi stôr o atgofion a sylwadau ffraeth! Fe fu yn allweddol yn y gwaith o baratoi cyhoeddi y Bywgraffiadur Cymraeg ac y mae hynny yn cael ei gydnabod yn y gyfrol honno. Fe gafodd ei anrhydeddu gan y Frenhines hefyd am ei gwasanaeth maith i'r Llyfrgell. Yr oedd colli ei ffrind,Monica, ddwy flynedd yn ôl, yn golled fawr iddi, ond trwy garedigrwydd ei chymdogion - Margaret, yn arbennig ac Ann a Moira - a llawer un arall, gan gynnwys ei chyfnither Jenny ac Ann James, fe lwyddodd Beatrice i fyw yn ei chartref ei hun bron i'r diwedd. Yr oedd yn llawn chwerthin ac yn ddiolchgar am bopeth : yn barod i gydnabod ei beiau, ond hyd yn oed yn fwy parod i gyfrif ei bendithion ac i ddiolch i'w Gwaredwr am ei bywyd maith. Diolchwn i Dduw am gymeriad fel Beatrice a gyfoethogodd fywyd yr eglwys ar hyd y blynyddoedd ac am gyfnod cymharol fyr yng Nghapel y Morfa.

Bu farw Maggie James (Llys Hen Ysgol gynt) yng Ngwmcynfelin ar 18 Mawrth yn 96 oed. Er iddi gael ei geni yn Llundain cafodd ei magu am rai blynyddoedd gyda modryb yn Nhregaron, cyn dychwelyd yn ôl i Lundain, fel un o laweroedd, i'r busnes llaeth. Yno yr oedd yn ffyddlon iawn yng Nghapel Jewin ac fe ellid dweud am Maggie fod ei bywyd yn llythrennol, yn troi o gwmpas y capel a'r Sul. Daeth yn ôl i Geredigion ond colled fawr iddi oedd colli ei phriod,Morgan, yn 58 oed yn 1965. Yr oedd yn byw yn Rhos Hendre, ond rhai blynyddoedd yn ôl symudodd i Lys Hen Ysgol. Iddi hi y fantais fwyaf o symud i'r dref oedd ei bod yn dod yn nes i'r capel ac ar ôl iddi symud i'r Cwm y golled fwyaf oedd methu mynd i'r capel! Ar adegau yr oedd hyd yn oed yn mynd yn ymosodol ei hagwedd at y rhai oedd yn ei hatgoffa nad oedd mynd i'r capel yn bosibl iddi bellach..'Pam?...Pwy sy'n dweud?' oedd ymateb Maggie. Yna fe fyddai yn holi..'Sut mae'r hen Janet ?' ( Janet Kyffin ), 'Sut mae'r hen Enid?' (Enid Roberts) 'O,daro! Pam na cha' i fynd i'r capel?' Mae tuedd y dyddiau yma o fwy nag un cyfeiriad i ddweud 'Tydi ddim yn ddigon jyst mynd i'r capel'. Wrth gwrs, nid yw mynd i'r capel yn ddigon, ond pan mae methu addoli yn gadael gwacter a hiraeth dwfn yng nghanol bywyd, nid yw'n anodd deall fod yna gadernid wedi dod i fywyd Maggie trwy addoliad cyson a ffyddlon. Yr ydym yn cydymdeimlo yn fawr a'i dwy ferch Eunice a Mary a'u teuluoedd - wyrion a dau gor w^yr,Cameron a Jessica. Diolchwn i Dduw am gael ei hadnabod.

I frig y tudalen.
 

Dosbarth blynyddoedd 5 a 6, Gw^yl Ddewi

I frig y tudalen.
 

 APEL MORLAN

Y mae bron i flwyddyn ers agoriad Morlan ac oherwydd fod Morlan yn waith cenhadol penodol a sefydlwyd trwy fywyd a thystiolaeth Capel y Morfa, yr ydym wedi penderfynu neilltuo Sul blynyddol bellach i gyflwyno ac i weddïo dros waith y ganolfan. Os ydych wedi bod yn darllen Perthyn, Yr Angor,Y Goleuad,Cambrian News yna fe wyddoch fod yna lawer iawn wedi digwydd ym Morlan yn ystod y flwyddyn. Yn wir mae Morlan, fel canolfan gymunedol, wedi ennill ei lle mewn amser byr ac y mae galw mawr am gael defnyddio yr adnoddau sydd yno. I bawb sydd wedi bod yno maent yn ymateb i'r awyrgylch braf,ddeniadol, croesawus a Christnogol sydd yno. Ond un peth yw llogi a defnyddio'r ganolfan.Peth arall yw fod Morlan ei hun yn datblygu y genhadaeth o godi pontydd, o gyfarfod, o fod yn gyfrwng i ddod a phobl at ei gilydd i rannu gwerthoedd,doniau, ffydd ac addoliad. Y mae nifer fawr o bethau wedi digwydd sydd wedi bod yn gyfle i wneud hynny : mae ymweliad diweddar Frances Young, yr Ystafell Dawel a Swper Masnach Deg i 120 o bobl yn dair enghraifft fechan. Mae llawer iawn o enghreifftiau eraill. Nid yw'r gwaith ddim ond yn megis dechrau ac y mae llawer o gynlluniau i'w datblygu.

Mae'n holl bwysig fod aelodau Capel y Morfa yn cofio ac yn gweddïo yn gyson tros y gwaith ac yn gwybod beth sydd yn digwydd yno. Codi pontydd yw rhan o fwriad Morlan, i gyrraedd y bobl sydd ar gyrion ffydd a'r eglwys. Ond ein gobaith hefyd yw y bydd rhai o ddigwyddiadau'r Morlan yn gyfrwng i 'ehangu gorwelion' ein ffydd ni oddi fewn i'r eglwys, yn cynnig profiadau gwahanol a newydd i ni, ac yn rhoi cyfle i ni hefyd fod yn rhan o'r croesawu a'r cyfeillgarwch.

Y Sul olaf o Ebrill fydd 'Sul Morlan' ac y mae'r amlen sydd gyda Perthyn yn rhoi cyfle i unrhyw un ddangos cefnogaeth trwy gyfrannu at y gwaith. Efallai fod yna rhai heb gael cyfle i gyfrannu o gwbwl, neu efallai fod rhai yn awyddus i gyfrannu mwy ar ôl gweld y ganolfan yn gweithredu.

Gyda llawer iawn o ddiolch.

Y criw a fu'n diddanu yng nghinio Gw^yl Ddewi yn y  Morlan

Dathlu Gw^yl Ddewi yn y Morlan
(ceir rhagor o luniau yn yr Oriel)

I frig y tudalen.

NODION EBENESER

Pwyllgor Cyffredinol Ebeneser.

Oherwydd anhwylder iechyd Mrs Laura Rumsey-Williams a Mr Robert John Davies, a marwolaeth annisgwyl y diweddar Mr Terry Adams, 'roedd angen enwebu aelodau newydd ar y pwyllgor uchod. Ar ddechrau'r oedfa brynhawn Sul, 12 Mawrth, cynhaliwyd pleidlais o dan ofal y ddau flaenor. Canlyniad y bleidlais honno oedd etholiad Mrs Margaret Morgan, Meistri Tom Morgan a Wyn Thomas, a da dweud bod y tri ohonynt wedi bodloni ar eu apwyntiad i ymuno gyda'r gweinidog, y Parchedig Pryderi Ll Jones, Meistri R Trefor Evans, Geraint L Jones, Miss Rhiannon M Hughes (Ysgrifenyddes), Mr Ron Lewis (Trysorydd) a Mr J Sinnett Jones. Dymuniadau gorau i'r pwyllgor wrth drafod a phenderfynu materion â fydd o fodd a bendith i'r capel bach yn y dyfodol.

Casglwyd y swm o £100.00 tuag at Apêl y Gwanwyn (Mizoram). Diolch i bawb â gyfrannodd.

Anfonwn ein dymuniadau a chofion gorau at Mrs Betty Davies, 29 Gerddi Rhediol sydd yn disgwyl triniaeth law-feddygol ar ei braich yn Ysbyty Bronglais dechrau mis Ebrill, heb anghofio ei phriod, Bob, sydd dros dro yng Nghartref Tregerddan. Estynnwn yr un cofion cynnes at nifer o'n ffyddloniaid sydd yn gaeth i'w cartref a hefyd ein ffrindiau yng Nghartref Bodlondeb.

I frig y tudalen.

DYDDIADUR GWEITHGAREDDAU

Ffiniau a mannau hyfryd.

Nos Iau Mawrth 30 ac Ebrill 6ed.

Fe fydd Enid Morgan yn parhau gyda'i chyfres ddiddorol
a chyfoethog yng Nghyfres y Grawys pob nos Iau am 7.00


Dydd Llun Ebrill 3 am 5.30 ym Morlan.

Pobl y Groglith a'r Pasg

Cyflwyniad Clwb Hwyl Hwyr o neges y Groglith.


Dydd Mawrth Ebrill 4, Morlan

Ymweliad John Polkinghorne

Seminar am 4.00: A yw Duw yn gweithredu yn y byd ?

Darlith am 7.30: The friendship of science and religion.


Nos Lun, 10 Ebrill am 7.30 ym Morlan
Mynediad : £1.50
Cofio Bonhoeffer : merthyr
ar ganmlwyddiant ei eni
Darlleniadau Cymraeg o rhai o'i gerddi a'i lythyrau o garchar
a ffilm ddogfen Martin Dolmeier, Bonhoeffer


Nos Iau Cablyd, 13 Ebrill, am 7.00
Oedfa Gymun Undebol (dwyieithog)
yn Seion, Stryd Popty.


Eglwys Sant Mair am 10.00 Ebrill 14.
Oedfa Gymraeg Deuluol Gwener y Groglith
Gorymdaith y Groglith trwy'r dref yn dilyn y gwasanaeth
Cododd Iesu! Oedfa deuluol y Pasg.
Bydd y gwasanaeth yn dechrau yn yr ardd am 10.00

Cymun Emaus o gwmpas y bwrdd
am 6.00


Dydd Llun y Pasg: ymgynnull ym maes parcio Morlan am 10.30

Helfa Wyau yng nghoedwig Penglais


Cofiwch hefyd am ...

Dydd Sadwrn, Ebrill 8ed. am 2.30
Chwiorydd y Genhadaeth
Henaduriaeth Gogledd Ceredigion
Carmel, Llanilar
Gwraig wadd Parchedig Meima Morse, Tregaron.


joio@morlan
Clwb Gwyliau i blant cynradd
Ebrill 24 -26
Dan nawdd Morlan,yr Urdd a Chered.
Y wybodaeth wedi ei rannu drwy'r ysgolion.


Ebrill 28 - Mai 1
Fforwm Cymdeithasol Cymru
Cynhadledd Cymru gyfan
wedi ei chanoli ym Morlan ond digwyddiadau drwy'r dref.


Nos Sul Ebrill 30ain. am 7.30 ym Morlan
digwyddiad wedi ei drefnu gan Morlan fel cyfraniad i'r Gynhadledd
Cleddyfau yn bladuriau
gyda thîm Cymorth Cristnogol, Grw^p o Gaerdydd, Iwan Llwyd y bardd
gydag epilog i gloi'r noson.

Am wybodaeth bellach am Morlan a'r cyfleusterau sydd ar gael yno, cofiwch ymweld â'r wefan: Morlan.org.uk

ac os oes gennych ymholiad, gallwch yrru e-bost drwy'r wefan, neu drwy ddefnyddio'r cyfeiriad ymholiadau@morlan.org.uk

I frig y tudalen.

Y Band dan arweiniad Mary Morris yn cyfeilio yn oedfa Gw^yl Ddewi

I frig y tudalen.

GOLEUNI

Cerdd y gadair yn Eisteddfod ryng golegol gan Iwan Rhys, Aberystwyth

Daw adeg pob diwedydd - y rhuddir
fy ngruddiau oherwydd
gwelaf,ym machlud hafddydd,
liw Dy waed ar orwel dydd.

                ***

Do, rei, mi, dweud rhyw amen,
pwl am wynt, polominten.

Yn hedd fy sedd bob dydd Sul,
heb wybod geiriau'r beibl
na llith gymhleth pregethwr,
ro'n i'n sant, - y gore siwr.

Ond wedyn un diwedydd,
a'r haul bron â syrthio'n rhydd
o'r awyr, roedd llais rhywun
ynof fi : Tydi Dy hun
yn dweud am Dy gariad Di !

Dilynaf dy oleuni
a ch^af anfarwoldeb dry D'atebion
os cymeraf innau'r golau i'r galon...

...ond i'm mywyd daeth haid o amheuon
yn bigiadau ac 'rym ninnau heno'n
hala'r golau o'r galon - yn llawn brad:
addurnwn garaid gan ddrain y goron...

...ond drachefn, er im gefnu
a phellhau, mae D'olau Di'n
galw'n gyson o'r lonydd.
Yma, ar gyffordd ffordd y ffydd
clywaf innau D'eiriau Di
a dilynaf D'oleuni.

Daw adeg bob diwedydd - y rhuddir
fy ngruddiau oherywdd
gwelaf, ym machlud hafddydd,
liw Dy waed ar orwel dydd.

Ond mae gorwel bore melyn - yn dweud
y gwnei Di, o'th ddilyn,
roddi'n ôl fy ngruddiau'n wyn
heb wrid y bore wedyn.

I frig y tudalen.

GWEDDI

Y Crist Byw

Argwlydd Dduw,Iesu Grist,
trwy dy atgyfodiad nerthol
gorchfygaist bechod ac angau
a gwnaethost bob peth yn newydd.
Tyrd atom i'n llenwi â'th fywyd atgyfodedig dy hun,
i'n rhyddhau ni o bob digalondid
ac i'n tanio â gobaith a gorfoledd y Pasg.
Fel y daethost at Mair yn yr ardd
a throi ei dagrau yn llawenydd,
tyr at bob un sydd mewn trallod,
profedigaeth ac unigrwydd,
a chofleidia hwy yn dy gariad.
Fel y daethost at dy ddisgyblion ar lan y môr,
a throi eu hofn yn hyder newydd,
tyrd at dy Eglwys ac at dy bobl heddiw
a gwna ni'n frwd a gwrol yn ein cenhadaeth.
Fel y daethost at Thomas, yr amheuwr,
a throi ai amheuaeth yn argyhoeddiad sicr,
tyrd at y rhai sy'n teimlo'u ffydd yn wan
a'r rhai sy'n cael anhawster i gredu,
a rho iddynt sicrwydd llawen ynot ti.
Fel y daethost at y ddau ar ffordd Emaus
a throi eu hanobaith yn orfoledd,
tyrd at y rhai sy'n teiml'u bywyd yn ddibwrpas
a bydd yn gwmni iddynt ar eu taith.
Tyrd atom bob un
a thrwy rym dy fywyd atgyfodedig
cod ni o'n gwendid a'n methiant
a rho hyder yn ein ffydd
a gorfoledd yn dy waith.

Seiliedig ar weddi o Iona

I frig y tudalen.

Cynio Gw^yl Ddewi y Gymdeithas.

I frig y tudalen.

DYDDIADUR EBRILL 2006

GWASANAETHAU'R SUL 10.00 a 6.00

3 Y Bugail -Bedydd yn y bore
9 Y Parch Elfed ap Nefydd Roberts
16 PASG Y Bugail Cymun yn yr hwyr
23 Y Parch D Andrew Jones
30 Y Bugail

YSGOLION SUL

Plant: Bore am 10.00.
Oedolion: ar ôl gwasanaeth y bore

Hwyl Hwyr - Dim Hwyl Hwyr ar ôl y Pasg tan 15 Mai

Clwb Ieuenctid - ni fydd Clwb ar Ebrill 14, 21 a 28

CYLCH GWEDDI A CHOFFI
Bore Mawrth am 10.30 yn y Festri

CYMORTH CRISTNOGOL
3 Cinio Bara a Chaws yn festri Seion

CYFARFODYDD WYTHNOSOL - bob nos Iau am 7.00
6 Grawys i Enid Morgan
13 Cymun Undebol yn Seion
27 Myfyrdod a Gweddi

I frig y tudalen.
 

SWYDDOGAETHAU EBRILL 2006

Blaenor y Mis  Dr Bryn F Roberts
Porthorion Mr Merfyn Davies, Mr Hugh Hughes, Mr Alun O Morris, Mrs Mary Jones Morris

Blodau'r Cysegr - Y Morfa
2 Mrs Sera Llewelyn
9 Mrs May Roderick a Mrs Eluned Morris
16 Mrs Hefina Davies Wright
23 Mrs Mair Griffiths
30 Mrs Valmai Owen

Blodau'r Cysegr - Ebeneser
2 Mrs Lilian Jenkins
9 Llinos a Rhiannon Hughes
16 Mrs Sian Powell
23 Mrs Betty Davies
30 Mrs Glenwen Richards

Cynorthwywyr Llestri Cymun
2 Mrs Jean Davies, Mrs Ethel Williams, Mrs Mair Hughes, Mrs Mary Jones Morris

Cynorthwywyr Ariannol
2 Dr a Mrs Alun Morris
9 Mr E Meirion Morgan a Mr David Harries
16 Mr D Brian Thomas a Mr David M Evans
23 Mrs Glenys James a Mrs Miriam Garratt
30 Mr a Mrs Merfyn Davies

Tregerddan
30 Dan ofal Miss Eleri Davies

 

I frig y tudalen.
 
Golygyddion y mis hwn yw Sian ac Enid. Cyfraniadau ar gyfer Perthyn mis Mai at Laurie Wright neu Hywel Lloyd erbyn dydd Gwener, 21 Ebrill, os gwelwch yn dda.

Os cewch anawsterau wrth ddefnyddio'r wefan hon, neu os oes gennych unrhyw awgrymiadau neu ddeunydd yr hoffech ei gynnwys ar y wefan, cysylltwch â ni.

Cartref | Dyddiadur | Gweithgareddau | Perthyn | Morlan | Y Byd a'r Betws
Yr Eglwys ar wasgar | Llyfrau | Lle i feddwl | Oriel | Dolenni
 
Diweddarwyd ddiwethaf 9 Ebrill, 2006.
Hawlfraint: Eglwys Bresbyteraidd Cymru neu'r awduron unigol, 2006.

 
Top