Gadael gwefan Capel y Morfa a mynd i wefan Eglwys Bresbyteraidd Cymru.
Tudalen Cartref Capel y Morfa a Manylion Cysylltu, Rhestr Swyddogion, a Mapiau.
Dyddiadur y Capel ac Amserau Gwasanaethau
Gweithgareddau yn y Capel, yr Ysgol Sul, etc.
Perthyn - Misolyn y Capel ac ôl-rifynnau.
Perthyn - y rhifyn cyfredol.
Perthyn - ôl-rifynnau
Morlan
Y Byd a'r Betws - cyfle i drafod gwahanol bynciau.
Yr Eglwys ar Wasgar.
Adolygiadau o Lyfrau.
Lle i feddwl.
Oriel - Lluniau o ddigwyddiadau yn y Capel.
Dolenni i safleoedd perthnasol eraill.

 

       

 

 
PERTHYN - Y Rhifyn Cyfredol.
 MAI 2006
Rhifyn 147

Poster cyfansawdd yn dangos hanes Capel y Morfa.

(Am ragor o wybodaeth am y poster hwn, cliciwch yma.) 

     

CYNNWYS

GAIR GAN Y BUGAIL
NEWYDDION
ER COF
DYDDIADUR GWEITHGAREDDAU
YMWELIAD AG ISRAEL
GORFFENNOL MEWN FFRÂM
WYTHNOS CYMORTH CRISTNOGOL
GARDD MORLAN
NODION EBENESER
GWEDDI AC EMYN AR GYFER WYTHNOS CYMORTH CRISTNOGOL
DYDDIADUR MAI 2006
SWYDDOGAETHAU MAI  2006

                            

GAIR GAN Y BUGAIL

Y Grawys yng Nghapel y Morfa

Yr oedd nifer o bethau a gyfoethogodd y Pasg i ni. Nid y lleiaf oedd y gynulleidfa fawr (o bob oed) ar Sul y Pasg a'r fendith o ymgynnull yn llythrenol o gwmpas y bwrdd i rannu bara a gwin yng Nghymun Emaus. Yr oedd cyflwyniad Clwb Hwyl Hwyr o ddrama'r Pasg yn ddechrau ardderchog i'r w^yl. Roedd gweld y ffilm am Dietrich Bonhoeffer hefyd yn daearu'r neges mewn ffordd rymus a theimladwy iawn. Yr oedd mwy nag erioed yn gorymdeithio ar ddydd Gwener y Groglith ac yr oedd cynulleidfaoedd da ym mhob un o'r gwasanaethau undebol.

Prin iawn, iawn oedd darpariaeth y Pasg ar S4C (yr oedd Radio Cymru, fel arfer, ym mhell ar y blaen o ran ansawdd y rhaglenni crefyddol, er bod rheiny wedi mynd yn llai). Doedd dim ar S4C ar ddydd Gwener y Groglith, a DCDC ar Sul y Pasg hanner awr yn fwy na'r arfer oedd yr unig beth i ddathlu'r wyl Gristnogol fwyaf oll. Alwyn Humphreys (sydd yn gerddor ac yn arweinydd ardderchog) gafodd y sylw mwyaf gan S4C eleni. Fe gawsom awr o Manchester Passion nos Wener y Groglith ar BBC 2 a 3 (nid, sylwer, ar y brif sianel boblogaidd - sianel leiafrifol yw 3 ac nid yw 11.00 yr hwyr ar BBC 2 yn denu cynulleidfa fawr) Roedd yn gynhyrchiad ac yn ymdrech ardderchog i gyflwyno'r Groglith ar strydoedd Manceinion, er nad oedd wedi argyhoeddi yn llwyr, ond yr oedd y munudau olaf a gwefr yr Atgyfodiad yn effeithiol iawn. Yn gynharach y noson honno roedd rhai ohonom wedi bod yng nghapel Llwypïod yn gwrando ar Mererid Hopwood yn 'dweud stori'r Pasg' yn ei ffordd a'i geiriau ei hun. Yr oedd y noson wedi ei threfnu fel rhan o 'Gw^yl y Cyfarwydd'. Dim ond un ferch yn dweud yr hanes; dim ond ein hatgoffa mewn ffordd syml uniongyrchol am y stori sydd mor gyfarwydd i ni; dim ond eistedd a gwrando a chael ein tynnu i'r stori sydd wedi cael cymaint o ddylanwad ar hanes y byd; dim ond rhyfeddu... cynhesu... a chredu. Fe wnaeth Mererid un neu ddau o gamgymeriadau wrth amseru ambell i ddigwyddiad, ond doedd dim gwahaniaeth am hynny. Ar ôl bod yn rhan o gynulleidfa a gafodd ei meddiannu yn llwyr, doedd gan Manchester Passion (na DCDC chwaith) yn hwyrach y noson honno - er gwaethaf yr holl adnoddau a'r holl dechnoleg - ddim gobaith i wella ar hyn gawsom mewn hanner awr yn Llwynpiod yng nghefn gwlad Ceredigion. Mae'n rhaid i ni yn gyson ddarganfod ffyrdd newydd i gyflwyno neges y Pasg ac mae'n rhaid i ni ddefnyddio pob cyfrwng a phob cyfle. Ond fe erys yr angen a'r dyhead i wrando a chlywed stori oesol ein Gwaredwr mor fawr, yn wir, yn fwy, nag erioed. Nid yn unig i'n plant (sydd yn cael eu boddi mewn swn, gwybodaeth, lliw a llun) ond i bawb ohonom. Dyna yw'r bumed efengyl i bob un ohonom.

Glywsoch chi stori'r Pasg eleni ?

Pryderi.

I frig y tudalen.

Pryderi yn holi'r merched yng ngwasanaeth bore Sul y Pasg

I frig y tudalen.
 

NEWYDDION

Cofion

  • Anfonwn ein cofion at y rhai sydd bellach wedi gadael yr ysbyty ac yn gwella ac anfonwn gofion hefyd at Cassie Isaac (Bodlondeb) a Terry Davies (Elm Tree Ave.)

Croesawu …

Yr ydym yn falch iawn o gael croesawu'r canlynol i gyflawn aelodaeth o'r eglwys gan wybod eu bod eisioes wedi dod yn rhan o gymdeithas ac addoliad Capel y Morfa:

  • Myrddyn ac Annita Hughes, Noa ac Ellis, 14 Crugyn Dimau, Rhydyfelin o Gapel Mawr, Porthaethwy;
  • Meleri Macdonald, Erin ac Owain, Y Garreg Las,Blaenplwyf, o Heol y Crwys, Caerdydd.

Bedyddiadau …

  • Ellis, mab Myrddyn ac Annita Hughes, a brawd i Noa, 14, Crugyn Dimau, Rhydyfelin a fedyddiwyd ar 26 Mawrth
  • Lowri Mair, merch Stephen a Nerys Jones, Penrhyn-coch ac wyres Mary ac Alun Morris a fedyddiwyd ar 2 Ebrill.

Llongyfarchiadau…

  • i Lewis a Patsy ar enedigaeth Morgan, eu cyntaf anedig, yn Malvern a'r w^yr cyntaf i Alun a Celia;
  • i Rhodri a Catrin ar enedigaeth Megan, eu cyntaf anedig, yng Nghaerdydd, a'r wyres gyntaf i Kathleen Evans, Cefn Esgair.
  • i Dai Alun a Jane sydd wedi cael w^yr arall - Dafydd Lly^r, mab i Nerys a Lly^r a brawd i Aled Lly^r.
  • i Catrin Morgan: er nad yw hi wedi gorffen ei chwrs yng ngholeg Cerdd a Drama Cymru y mae'n amlwg eisioes fod gyrfa ddisglair o'i blaen. Fe'i gwelwyd yn ddiweddar, gyda'i chyd-fyfyrwyr, yn actio yn Theatr y Werin mewn drama o'r enw 'Hedfan drwy'r machlud'. Ar hyd o bryd y mae wrthi yn ffilmio ar gyfer cyfieithiad Cymraeg o'r nofel Small County ar gyfer S4C, ac yn mwynhau y profiad yn fawr iawn. Wyddom ni ddim eto pa bryd sydd y gyfres ar y teledu, ond fe fyddwn yn edrych ymlaen yn fawr i'w gweld. Mae addolwyr Ebeneser a Chapel y Morfa yn falch iawn o'i llwyddiant.

I frig y tudalen.
 

ER COF

Eluned Williams, Llys y Brenin. Bu farw ar 8 Ebrill. Roedd marwolaeth Eluned ar drothwy'r Pasg yn sioc ac yn dristwch mawr i bawb ohonom. Byr fu ei salwch ac fe lithrodd o'n plith yn dawel, ond gyda chariad a gofal ei theulu yn dynn o'i chwmpas. Yn y dyddiau olaf yn yr ysbyty ni adawodd Meurig erchwyn ei gwely, nac Emyr ei mab na Bessie ei chwaer chwaith. Yr oedd hynny yn nodweddiadol o deulu mor glos. Un dawel oedd Eluned ond un dyner ac yn llawn caredigrwydd a llawenydd ac yn mwynhau y pethau sydd yn rhoi blas ar fyw: ei theulu, barddoniaeth, cerddoriaeth a'r diwylliant Cymraeg, teithio, ei heglwys a'i haddoliad. Roedd yna harddwch urddasol yn Eluned ac ni chollodd yr urddas hwnnw hyd yn oed wyneb yn wyneb â'r gelyn olaf. I'r rhai ohonom a gafodd y fraint o fod yno yr oedd ei hangladd teuluol yn rhan o addoli'r Groglith a'r Pasg, ac yr oedd presenoldeb y teulu yn oedfa fore'r Pasg yn gymorth mawr i bawb arall ohonom i ddathlu mai nid gan 'y gelyn olaf' y mae'r gair terfynol, ond gan Crist, yr Atgyfodiad a'r Bywyd. Y mae'n chwithdod mawr ei cholli ac fe fydd yr eglwys yn dlotach heb ei ffyddlondeb tawel a'i gwen gynnes. Ond wrth gydymdeimlo â'i theulu yr ydym hefyd yn llawn diolch i Dduw am gael ei hadnabod a'i charu.

I frig y tudalen.
 

 WYTHNOS CYMORTH CRISTNOGOL MAI 14 - 20

'Mae'n wythnos Cymorth Cristnogol, beth am wneud rhywbeth?' yw'r thema eleni. Er nad ydym wedi derbyn gwybodaeth fanwl ar ddigwyddiadau'r wythnos, fe wyddom y bydd yn cynnwys Cinio Bara a Chaws a gwasanaeth ar y dydd Llun, fe fydd bore coffi yn Sant Paul ar y bore Gwener ac mae'n debyg y bydd Siop Cymorth Cristnogol yn ystod yr wythnos ddilynol. Yn bwysicach na dim fe fydd casgliad o ddrws i ddrws yn y dref sydd yn parhau, er gwaethaf diflasdod y gwaith, i ddod a swm sylweddol iawn o arian i Cymorth Cristnogol yn flynyddol. '....beth am wneud rhywbeth?' Os hoffech wirfoddoli, cysylltwch a'n cynrychiolwyr ar y pwyllgor lleol, Mary Fitter a Blodwen Williams. Yr ydym yn ddiolchgar iawn iddynt hwy am eu gwaith.

Fe fydd gennym wasanaeth arbennig fore Sul Mai 14 ac fe fydd casgliad y dydd yn mynd tuag at Gymorth Cristnogol.

Diolch yn fawr.

Bore Sul y Pasg - rhannu danteithion

I frig y tudalen.
 

 GARDD MORLAN

Mae'n siwr fod nifer o aelodau Capel y Morfa wedi gweld gardd yn cael ei chreu tu allan i'r Morlan, gardd sydd eisioes wedi creu awyrgylch arbennig o gwmpas y ganolfan. Fe fyddwch wedi sylwi hefyd ar ddau yn gweithio'n ddiwyd yno. Brian Griffiths yw un - ffrind mynwesol i'r diweddar Terry Adams a Gwladys; mae ei briod Mari yn cynorthwyo gyda gwaith yr Ysgol Sul yn Ebeneser. Mae ef wedi rhoi oriau lawer i'r gwaith a gwneud hynny o'i galon ac o'i fodd. Laurie Wright yw'r llall sydd unwaith eto, fel mewn llawer ffordd arall ym mywyd yr eglwys, wedi rhoi oriau, arbenigedd a brwdfrydedd i'r ardd - gardd a gynlluniwyd, gyda llaw gan ei chwaer. Mae hanes Laurie yn codi'r garreg enfawr (a oedd yn rhan o'r hen Seilo) o'r pridd, a hynny ar ei ben ei hun, yn rhyfeddod ynddo'i hun. Yr ydym yn ddiolchgar iawn i Brian a Laurie am eu gwaith. Fe gawn edrych ymlaen bellach am weld yr ardd yn blodeuo ac yn tyfu. Ar hyn o bryd y mae'r ddau yn creu cornel yn yr ardd fydd yn ein hatgoffa o gapel Seilo a'r hen draddodiad sydd bellach yn newydd.

I frig y tudalen.

NODION EBENESER

Nodyn gan Laurie Wright: 'Trwy gamgymeriad, ni chafodd Newyddion Ebeneser eu hargraffu yn rhifyn print Perthyn mis Mai. Mae'n ddrwg iawn gen i am hyn, ac ymddiheuraf i Rhiannon Hughes ac aelodau Ebeneser.'

Mae Catrin Morgan, cyn-aelod ffyddlon yn yr Ysgol Sul yn gorffen ei chwrs yng Ngholeg Cerdd a Drama Caerdydd mis Mehefin eleni. Yn y cyfamser mae Catrin wedi bod yn llwyddianus i gael ei dewis i gymryd rhan yn nrama Small Country (addasiad o lyfr Siân James) a hynny yng nghwmni Siân Phillips, Rhian Morgan a Nia Roberts. Bydd y gwaith yn dechrau ganol mis Ebrill yn Aberhonddu ac yn symud mlaaen dros chwech wythnos. Estynnwn ein longyfarchiaadau calonnog i Catrin a dymuniadau gorau iddi yn ei gyrfa yn y dyfodol.

Ers i rifyn Ebrill o Perthyn ymddangos, mae’n dda cael dweud mor braf oedd cael croesawu tri plentyn newydd arall i’r Ysgol Sul, sef Nia a Rowan Brandy-Adams (9 a 7 oed) a Kirsty Woodward (9 oed). Mae’r tri ohonynt wedi setlo lawr ac wrth eu bodd yn dysgu a chanu caneuon Cymraeg.

Estynnwn ein cofion gorau at Mrs. Betty Davies sydd yn gwella ar ol derbyn triniaeth i’w braich, a’i phriod Bob sy’n parhau i gael gofal yng nghartref Tregerddan. Hefyd, Mrs. Mary Benjamin, Miss Jennie Evans a Mrs. Laura Rumsey-Williams sydd wedi bod yn gaeth i’w cartref ers rhai misoedd erbyn hyn. Edrychwn ymlaen i’r tywydd hafaidd ddod pan y gallwn eu cludo i rai oedfaon ar brynhawn Sul. Colled i ni, ac wrth gwrs i’r ffyddloniaid hyn, yw methu dod i’r capel ar brynhawn Sul. Ein cofion a’n dymuniadau gorau iddynt i gyd. Mae’r un cofion cynnes i’w estyn i Mrs. Glenwen Richards sydd mewn anhwylder ers nifer o flynyddoedd erbyn hyn, ac i’w phriod Dai sydd wedi bod, ac yn dal i fod mor ofalus ohoni. Cofion hefyd at Mrs. Eiriana Ashton yng nghartref Bodlondeb sydd mor ffodus i gael cwmni John, ei mab ar ei ymweliadau o Iwerddon.

I frig y tudalen.

DYDDIADUR GWEITHGAREDDAU

Ysgol Undydd Cymdeithas Emynau Cymru.
Bethel, Aberystwyth, dydd Sadwrn Mai 6, 10.30 - 4.30
Emynau'r Wesleaid a Chymru
Dr. Glyn Tegai Hughes, Dr. Lionel Madden
Parchedig E.H.Griffiths.
£15.00 (yn cynnwys coffi, bwffe a thê)


Cyngerdd o'r galon

gyda Chôr Meibion Aberystwyth a Chôr Meibion Swindon

Capel y Morfa, Nos Sadwrn Mai 13eg. am 7.30.

£5.00 (Sefydliad Ymchwil y Galon)


Ymweliad John Bell o Gymuned Iona

Nos Sul, 14 Mai am 6.00

Fe fydd John Bell yn pregethu yn Saesneg mewn gwasanaeth Cymraeg yng Nghapel y Morfa, Aberystwyth.

Fe fydd gwasaenth cyfieithu ar gael

Dyma un o leisiau proffwydol y byd cyfoes


Dydd Llun, 15  Mai am 3.30 yn y Morlan.

Hanfod addoliad cyfoes

Gweithdy gan John Bell sydd wedi cyfrannu cymaint

trwy Grwp y Wild Goose Worship Group


Nos Lun , 15 Mai am 7.30 yn y Morlan

Cân holl bresennol y Celt

yng nghwmni Cantre'r Gwaelod a John Bell.

Noson o ganu a gwerthfawrogi dylanwad y gân werin arnom.

Mynediad : £2.00 (wrth y drws)

Am wybodaeth bellach am Morlan a'r cyfleusterau sydd ar gael yno, cofiwch ymweld â'r wefan: Morlan.org.uk

ac os oes gennych ymholiad, gallwch yrru e-bost drwy'r wefan, neu drwy ddefnyddio'r cyfeiriad ymholiadau@morlan.org.uk

Gorymdaith y Pasg

I frig y tudalen.

YMWELIAD AG ISRAEL

Dros ddiwedd Mawrth a dechrau Ebrill treuliodd Phyllis a minnau rhyw ddeng niwrnod gyda chyfeillion Iddewig agos yn Jerusalem. Y trydydd tro i mi ymweld â’r wlad a’r ail dro i Phyllis.

Cadarnhaodd yr ymweliad hwn ddwy argraff bendant ar fy meddwl. Un yw fod sefyllfa’r berthynas rhwng yr Israeliaid a’r Palestiniaid yn ddychrynllyd o ddyrys. Mae cydnabod hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer trafodaeth resymol, gyfrifol, yn ein mysg ni’r Cymry, o’r sefyllfa honno Gorsymleiddio pethau yn enbyd yw pardduo’n llwyr unrhyw un o’r ddwy ochr ar draul y llall. Mae gan y naill bobl fel y llall hawliau ac anghenion sy’n galw am eu parchu a’u hymgorffori mewn sefydliadau gwladwriaethol. Perthyn cyfiawnhad moesol i fodolaeth y naill ochr a’r llall. Dyna sy’n gwneud y sefyllfa yn un wirioneddol drychinebus. Pe bai’r iawn i gyd o du un ochr yn unig byddai’n hawdd barnu pwy i’w gefnogi. Eithr mae gwrthdaro rhwng gwir a gwir, hawl a hawl, iawn a iawn yn fater tra gwahanol. O’m rhan fy hun fy niffyg mawr yw dyfnder anwybodaeth am darddiad a datblygiad yr anghydfod dieflig hwn.

Yr argraff arall yw fod nifer sylweddol o Israeliaid a fyddai’n cytuno â sylwedd y paragraff blaenorol. Diamau y byddai nifer cyffelyb o Balestiniaid yn gwneud yr un peth. Ond rhaid imi siarad ar sail fy mhrofiad fy hun a gallaf yn sicr dystio i agwedd wâr, ryddfrydig y teulu Orlev y cawsom ni, fel teulu, fendith eu cyfeillgarwch dros yn agos i ugain mlynedd bellach, at hawliau’r Palestiniaid. Yn ystod yr ymweliad hwn, fel y dywedais, cadarnhawyd yr argraff hon ac ar yr un pryd ehangwyd cylch cysylltiad Phyllis a minnau â chyfeillion newydd, y byddwn yn siw^r o ddal gafael arnynt o hyn ymlaen. Gofalodd Uri a Ya’ra Orlev ein bod yn cael cyfle i gyfarfod â nifer dda o’u cyfeillion nhw a chawsom fod y rheiny hwythau, yn eu tro, o gyffelyb fryd. Yn ddieithriad clywsom gondemnio ganddynt ar y mur sy’n nadreddu ei ffordd wrthun trwy drefi a phentrefi gwlad, a beirniadu hallt ar fodolaeth y Gwladychfannau sy’n parhau i gael eu codi ar y Lan Orllewinol; clywed hefyd am wrthdystiadau cyhoeddus sylweddol yn galw am drafodaethau diplomyddol rhwng Israeliaid a Phalestiniaid yn hytrach na gweithredu trais am drais. Cwrddyd ymhellach â meddyg amlwg sy’n aelod o fudiad a elwir ‘Meddygon Dros Hawliau Dynol (Israel)’, gydag ychydig dros fil o aelodau yn perthyn iddo, sydd ers blynyddoedd lawer yn trefnu clinigau symudol i weini ar Balestiniaid anghenus mewn ardaloedd difreintiedig yn Nhiroedd y Meddiant.

Gwaetha’r modd, prin yw’r cyhoeddusrwydd a roddir i’r agweddau cadarnhaol hyn gan y wasg a’r cyfryngau darlledu ym Mhrydain, yn arbennig felly yn ein mysg ni y Cymry Cymraeg. Mae argyfwng y Dwyrain Canol yn ddwysach nag erioed. Diolch am rywfaint o oleuni yn y tywyllwch.

Mered a Phyllis

I frig y tudalen.

Y GORFFENNOL MEWN FFRÂM

Yn ystafell y blaenoriaid mae crynodeb, trwy luniau, o hanes eglwysi Presbyteraidd Aberystwyth - yr hanes sydd wedi ein harwain i Gapel y Morfa ac i 2006. Yr ydym yn ddiolchgar iawn i Bryn, Rhidian a Huw am wneud y gwaith a chasglu'r deunydd a cheisio crynhoi mewn ffram tros ddwy ganrif o hanes. Fe fydd yn ein hatgoffa o fendithion ddoe a pharodrwydd y rhai o'n blaen ni i fentro ac i wynebu newidiadau yn hyderus ac yn obeithiol. Mae'r hanes yn ein hatgoffa nad oeddynt am gael eu caethiwo gan eu gorffennol hwy ac nad oedd eu gwelediageth yn gyfyngedig i adeiladau. Oherwydd ei bod yn amhosibl i gynnwys darluniau o bawb y mae'r gwaith yn cynnwys lluniau gweinidogion yn unig, ond y maent hwy yn cynrychioli y dorf o gwmwl tystion yr ydym ni yn cael y fraint o'u dilyn.

Arwel Thomas a gynlluniodd y poster. Mae Arwel yn fab i Pat Thomas a'r diweddar Barchedig Jonathan Thomas ac yn gynllunydd ac argraffydd proffesiynol. Ond y mae wedi gwneud y gwaith yn gwbwl ddi-dâal ac yr ydym yn gwerthfawrogi ei haelioni yn fawr iawn.

Un peth a ddaeth i’r amlwg wrth baratoi’r poster yw cynifer o hen luniau, ffotograffau a rhai dogfennau sydd gan aelodau yn eu meddiant ac mor bwysig yw sicrhau fod y rhain yn cael eu cadw’n ddiogel i’r dyfodol.

Os oes unrhyw un yn dymuno rhoi deunydd fel hyn i’w gadw yn y Llyfrgell Genedlaethol (lle y mae llawer o ddefnyddiau hanes yr eglwysi eisoes yn cael eu cadw), bydd yn dda gennyf eu derbyn a’u trosglwyddo. Diolch. Bryn Roberts.

Neu os oes gan rywrai hen luniau, y byddent yn fodlon i ni eu rhoi ar wefan y Capel byddai hynny'n wych. Mae'n fwriad gennym gychwyn tudalen o hanes - a byddai unrhyw luniau yn ysbarduno diddordeb. Gallwn dderbyn lluniau a'u sganio cyn eu dychwelyd yn syth atoch, neu fe allech eu sganio a gyrru'r llun atom (Ann)

I frig y tudalen.

GWEDDI AC EMYN AR GYFER WYTHNOS CYMORTH CRISTNOGOL

Arglwydd Dduw ...

Mae'r clefyd hwn yn ormod i ni ar ein pen ein hunain.
Os gweli di'n dda, Arglwydd, helpa bobl ifanc i ddileu HIV o Ethopia.
Dyro i ni yr ewyllys a'r gallu i newid pethau.
Yr wyt ti'n medru gwneud unrhyw beth, felly gweddïed yr holl bobl am hyn.
Ac fel yr ydyn ni wedi derbyn dy gariad, felly bydded i ni garu a chynnal ein gilydd.
Offrymwn y weddi hon yn enw Iesu.
Amen.

Hyn a wnawn ni

1. Hyn a wnawn ni: rhoi ein bara i'r llwglyd,
cysgod i'r gweiniaid a lloches sy'n glyd;
hyn a wnawn ni: dileu dyled, tosturio,
a cheisio lleddfu doluriau ein byd.

2. Hyn a wnawn ni: clirio llwybr drwy'r anial
sy'n arwain o ryfel at wynfyd heddi;
hyn a wnawn ni: gollwng cyrff a meddyliau
o'u cell i flodeuo ar newydd wedd.

3. Hyn a wnawn ni: dweud wrth bawb yn garedig
am Dduw sy'n ein gwâdd i'w wasanaethu ef;
a Christ sydd yn newid safonau'r ddaear,
a'u gwneud yn debyg i safonau'r nef.

4. Hyn a weddïwn: y bydd teyrnas nefoedd
a'i gwerthoedd yn amlwg nawr ar y llawr,
a'r holl genhedloedd yn ffrwyno uchelgais
i roi i bob plentyn ei gyfle yn awr.

5. Ac ni chiliwn ni os gwelwn ni rwystr
neu rai sy'n anfodlon newid eu cân,
Duw sydd ar waith yn creu byd sy'n fwy cyfiawn
ac ni ellir rhwystro ei Ysbryd Glân.

6. Hyn a wnawn ni: rhoi ein bara i'r llwglyd,
cysgod i'r gweiniaid a lloches sy'n glyd;
hyn a wnawn ni: dileu dyled, tosturio,
a cheisio lleddfu doluriau ein byd.

I frig y tudalen.

Elfed ap Nefydd yn cyfarch y plant

I frig y tudalen.

DYDDIADUR MAI 2006

GWASANAETHAU'R SUL 10.00 a 6.00

  7  Parch Meirion Lloyd Davies
14 Y Bugail – Cymun Bore – Wythnos Cymorth Cristnogol; Cymun yn Ebeneser
21 Parch Ifan Roberts
28 Y Bugail

YSGOLION SUL

Plant: Bore am 10.00.
Oedolion: ar ôl gwasanaeth y bore

Hwyl Hwyr - Dim Hwyl Hwyr ar ôl y Pasg tan 15 Mai

Clwb Ieuenctid - ni fydd Clwb ar Ebrill 14, 21 a 28

CYLCH GWEDDI A CHOFFI
Bore Mawrth am 10.30 yn y Festri

CYMORTH CRISTNOGOL
1 Cinio Bara a Chaws yn festri Sant Paul

CYFARFODYDD WYTHNOSOL - bob nos Iau am 7.00

I frig y tudalen.
 

SWYDDOGAETHAU MAI 2006

Blaenor y Mis   Dr W J Cynfab Roberts
Porthorion Mr R Trefor Evans; Mr Hywel Lloyd; Dr D Huw Owen; Mr Hefin Jones

Blodau'r Cysegr - Y Morfa
7 Mrs Maggie Edwards
14 Mrs Megan Hughes
21 Mrs Elsbeth M Lewis
28 Mrs Beryl Davies

Blodau'r Cysegr - Ebeneser
7 Mrs Jeanie Jones
14 Mrs Denise Morgan
21 Mrs Hilda Williams
28 Miss Jennie Evans

Cynorthwywyr Llestri Cymun
7 Mrs Jennie Evans; Mrs Mary Howells; Miss Ann Jones; Mrs Nancy Lovatt

Cynorthwywyr Ariannol
7 Mr D Meirion Jones a Mrs Beti Roberts
14 Mr Rhys Jones a Mrs Mary Fitter
21 Mrs Eira Williams a Mr Hywel Lloyd
28 Mrs Hefina Davies Wright a Mr Wynford Evans

Tregerddan
28 Dan ofal Mr David Alun Jones a Mr M G Thomas

 

I frig y tudalen.
 
Golygyddion y mis hwn yw Hywel Lloyd a Laurie Wright. Cyfraniadau ar gyfer rhifyn Mehefin, os gwelwch yn dda, at Arwel Jones ac Ann Hawke (ayp@aber.ac.uk) neu'r Bugail erbyn dydd Gwener, 19 Mai.

Os cewch anawsterau wrth ddefnyddio'r wefan hon, neu os oes gennych unrhyw awgrymiadau neu ddeunydd yr hoffech ei gynnwys ar y wefan, cysylltwch â ni.

Cartref | Dyddiadur | Gweithgareddau | Perthyn | Morlan | Y Byd a'r Betws
Yr Eglwys ar wasgar | Llyfrau | Lle i feddwl | Oriel | Dolenni
 
Diweddarwyd ddiwethaf  7 Mai, 2006.
Hawlfraint: Eglwys Bresbyteraidd Cymru neu'r awduron unigol, 2006.

 
Top